Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan
Gwasanaeth Cymraeg
Hafan | Cysylltu â ni | English  
 
Cwestiynau Mwyaf Cyffredin atebion cyflym i'n cwestiynau mwyaf cyffredin

Dod o hyd i wybodaeth am gwmni

Pa wasanaeth bynnag y penderfynwch ei ddefnyddio i brynu gwybodaeth am gwmnïau, cofiwch fod modd bob amser gyrchu’n mynegai o enwau a chyfeiriadau cwmnïau yn rhad ac am ddim drwy glicio’r cyswllt yma


WebCHeck - Pick  your own
WebCHeck


Mae gwasanaeth WebCHeck yn cynnig mynegai o Enwau a Chyfeiriadau Cwmnïau y gellir ei chwilio yn rhad ac am ddim, gan eich galluogi i geisio gwybodaeth am dros 2 miliwn o gwmnïau. Gellir chwilio cwmni unigol naill ai drwy ddefnyddio'i enw neu ei rif cofrestru unigryw. Yn ychwanegol at y manylion cwmni rhad ac am ddim, gallwch hefyd ddefnyddio WebCHeck i brynu gwybodaeth hanes cwmnïau, gan gynnwys cyfrifon a ffurflenni blynyddol a detholiad o adroddiadau cwmni, i gyd ar-lein. Mae Monitor hefyd ar gael drwy wasanaeth WebCHeck. Bydd Monitor yn caniatáu ichi 'fonitro' cyflwyniad gwybodaeth i Dŷ’r Cwmnïau gan unrhyw gwmni ddewiswch chi. Gellir talu drwy gerdyn credyd/debyd neu PayPal a chaiff pob cynnyrch ei drosglwyddo’n electronig i barth lawrlwytho diogel unigryw.

Yellow ArrowManteisio ar drefn WebCHeck

Yellow ArrowDysgu mwy am wasaneath WebCHeck

Yellow ArrowSylwch: Dim ond yn Saesneg mae gwasanaeth WebCHeck ar gael


Companies House Direct - At your fingertips
Companies House Direct

Companies House Direct yw ein prif offeryn chwilio i gyrchu a dadlwytho gwybodaeth am gwmnïau yn uniongyrchol o’ch PC eich hun. Mae dros 240 miliwn o ddelweddau o ddogfennau cwmni ar gael, gan gynnwys cyfrifon cwmni, yn ogystal ag amrywiaeth helaeth o wybodaeth cronfa ddata. Gwasanaeth tanysgrifio yw Companies House Direct, ac mae nawr ar gael yn rhad ac am ddim, ac wedi hynny fe gostyngir y ffi danysgrifio fisol o £4.00 fel rhan o’ch anfoneb fisol, a fyddai hefyd yn cynnwys unrhyw ddogfennau neu gynhyrchion y gallwch fod wedi eu prynu.

Yellow ArrowDysgu mwy am wasanaeth Companies House Direct

Yellow ArrowSylwch: Dim ond yn Saesneg mae gwasanaeth Companies House Direct ar gael


Monitor - Get the bigger pictureMonitor
Gallwch gadw llygad ar unrhyw gwmni ar y gofrestr gyhoeddus, gan gynnwys eich cwmni eich hun, a 'monitro' pob rhyw wybodaeth a gafodd ei hanfon i Dŷ'r Cwmnïau drwy ddefnyddio gwasanaeth Monitor o fewn WebCHeck a Companies House Direct. Does dim rhaid ond cofrestru’ch cyfeiriad e-bost a manylion y cwmnïau a’r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddi. Cyn gynted ag y caiff y manylion eu cofrestru a’u bod yn fyw ar y gofrestr gyhoeddus, bydd y system yn cydnabod eich diddordeb ac yn gyrru hysbysiad drwy e-bost. Gallwch wedyn benderfynu a hoffech chi archebu’r wybodaeth. Chi biau’r dewis.

I gyrchu Monitor heddiw, ymwelwch â'n 'gwasanaeth talu wrth ddefnyddio' WebCHeck neu'n 'gwasanaeth tanysgrifio' Companies House Direct.

Yellow Arrow Sylwch: Dim ond yn Saesneg mae gwasanaeth Monitor ar gael


Porth XML (XML Gateway)

Mae’r Porth XML yn cynnig mynediad electronig at ystod greiddiol o wybodaeth am gwmnïau o Gronfeydd Data Tŷ’r Cwmnïau. Mae modd i gwsmeriaid Porth XML awdurdodedig gyrchu’r gwasanaeth ar lein dros y rhyngrwyd.


Yellow Arrow Dysgu mwy am Porth XML Tŷ’r Cwmnïau (Saesneg yn unig)


URI (Dynodwyr Adnoddau Unigryw) cwmnïau

Mae URI (Dynodwyr Adnoddau Unigryw) cwmnïau wedi cael eu datblygu i gyflenwi manylion cwmni sylfaenol am bob cwmni ar ein cofrestr. Cyfeiriad gwe unigryw sy’n cynrychioli'r cwmni (gan ddefnyddio'r parth 'business.data.gov.uk') yw'r URI; a bydd yn rhoi manylion sylfaenol ar gyfer y cwmni hwnnw. Mae datblygu Dynodwyr Adnodd Unffurf ar gyfer cwmnïau'n gyson ag agenda eglurder y llywodraeth o'i gwneud yn haws i gael data cyhoeddus; a bydd yn cynnig ffordd fwy effeithlon o gysylltu data i ddefnyddwyr a'r diwydiant gwybodaeth fusnes.


Yellow Arrow Dysgu mwy am URI cwmnïau


DVD Rom Directory - Where are they nowCyfarwyddiadur DVD-ROM


Maer Cyfarwyddiadur DVD ROM yn cynnwys manylion sylfaenol dros 2 miliwn o gwmnïau byw a gofrestrwyd yng Nghymru, Lloegr, YrAlban a Gogledd Iwerddon ynghyd â chwmnïau sydd wediu diddymu yn ystod y mis diwethaf. Fe allwch chi chwilio’r DVD hefyd, gan gyfuno hyd at 6 chwiliad. Y dewisiadau wrth chwilio yw enw’r cwmni, rhif y cwmni, llinellau cyfeiriad y swyddfa gofrestredig, côd post, dyddiad corffori neu amrediad o ddyddiadau, Codau SIC(03) neu ddisgrifiad, math o gwmni, statws y cwmni neu fath o gyfrifon.

Cynhyrchir cyfarwyddiadur bob mis a gallwch brynu un copi am £30 neu danysgrifiad blwyddyn am £300. Mae copïau ar gael o Ganolfannau Gwybodaeth Tŷ’r Cwmnïau, neu gallwch brynu DVD ROM dros y ffôn oddi wrth Ganolfan Cysylltu Tŷ’r Cwmnïau ar (0)303 1234 500 a thalu gyda Cherdyn Credyd/Debyd neu drwy lythyr ynghyd â siec yn daladwy i ‘Tŷ’r Cwmnïau’ a’i hanfon at Gofal am Gwsmeriaid, Tŷ’r Cwmnïau, Ffordd y Goron, Caerdydd, CF14 3UZ.

Nid yw’r cynnyrch hwn yn gytûn â chyfrifiaduron AppleMac.

Rheolir y cyfeiriadur DVD Rom am chwe mis o’r dyddiad prynu, ni fydd y data ar gael i chi ar ôl i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.

Sylwch nad yw’r Cyfarwyddiadur DVD ROM yn dangos manylion trosiant blynyddol, rhifau ffôn na manylion y cyfarwyddwyr. Ni ellir allfudo’r wybodaeth a ddangosir, ond rydym yn darparu fersiwn unigol o’r cyfarwyddiadur gyda ffeiliau y gellir eu hallfudo am £1075. Y nifer fwyaf o ganlyniadau y gellir eu hallfudo ar unrhyw adeg yw 30,000.

Yellow Arrow Am wybodaeth bellach neu ymholiadau ynghylch y cynhyrchion DVD ROM, ffoniwch (0)303 1234 500 neu e-bostiwch eich enw, enw’ch cwmni, eich cyfeiriad post llawn a’ch rhif ffôn, gan nodi pa gynnyrch mae gennych ddiddordeb ynddo, at products@companieshouse.gov.uk


Companies House Information CentresCanolfannau Gwybodaeth Tŷ'r Cwmnïau


Cynhaliwn Ganolfannau Gwybodaeth yng Nghaerdydd, Llundain, Chaeredin, a Belfast. Mae’r Canolfannau Gwybodaeth yn darparu cysylltiad â’n cynhyrchion a’n gwasanaethau ar-lein, yn ogystal â gadael ichi sicrhau ffurflenni, ffeilio’ch dogfennau, corffori cwmnïau newydd (yr un diwrnod os bydd angen!) a chael gwybodaeth a chanllawiau cyffredinol ynghylch ein gwasanaethau.

Yellow Arrow Manylion sut i gyrraedd ein Canolfannau Gwybodaeth

Yellow ArrowRhestr Llawn Prisiau Cynhyrchion a Gwasanaethau


Canolfan Cysylltu Tŷ'r Cwmnïau

Gall staff ein Canolfan Cysylltu ddelio â’r mwyafrif o ymholiadau cyffredinol ynghylch materion yn ymwneud â Thy’r Cwmnïau a’r gwasanaethau a roddwn. Fel arfer, byddant yn rhoi ichi ateb i’ch ymholiad yn syth, ond os na allant byddant yn eich trosglwyddo i rywun a all wneud.

Gall ein Canolfan Cysylltu hefyd gymryd archebion ar gyfer dogfennau cwmni, a anfonir wedyn drwy’r post, dros beiriant ffacs neu feCompanies House Contact Centre - Your calll e-bost. Gellir talu â siec os archebwch drwy’r post; neu cewch archebu dros y ffôn os ydych yn talu drwy gerdyn credyd neu fod gennych chi gyfrif. Gellir cyflenwi copïau o ddogfennau unigol dros y ffacs neu fel e-bost ar gyfer pobl sy’n talu drwy gerdyn credyd neu sydd â chyfrif.

Yellow Arrow Cyrchu rhestr brisiau'n Canolfan Cysyllt

Yellow ArrowGallwch ffonio'n Canolfan Cysylltu ar 0303 1234 500 neu anfon neges e-bost at enquiries@companies-house.gov.uk