Cwestiynau Mwyaf Cyffredin atebion cyflym i'n cwestiynau mwyaf cyffredin
Ffeilio gwybodaeth gyda ni |
|||
|
|
WebFiling WebFiling yw’r ffordd fwyaf diogel a dibynadwy o ffeilio gwybodaeth am eich cwmni ar lein. As well as saving you money on your Annual Return (£14), Yn ogystal ag arbed arian i chi wrth gyflwyno’ch Ffurflen Flynyddol (£14), gallwch ffeilio gwybodaeth arall, gan gynnwys newid enw trwy benderfyniad (gwasanaeth safonol £8, yr un diwrnod £30), newid cyfeiriad swyddfa gofrestredig, gwybodaeth am swyddogion/aelodau yn ogystal â chyfrifon eich cwmni hefyd. Nodyn: Ni chaiff Cwmnïau Buddiant Cymunedol (CBC) a Phartneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) ffeilio Cyfrifon Blynyddol trwy’r gwasanaeth WebFiling. At hynny, ni cheir defnyddio’r gwasanaeth WebFiling i newid enw PAC. Fodd bynnag, mae modd gwneud hyn gan ddefnyddio’r gwasanaeth Software Filing. Ddefnyddio’n gwasanaeth WebFiling, mae’n rhaid ichi gofrestru ar-lein yn gyntaf. Byddwn wedyn yn anfon cod diogelwch i’ch cyfeiriad e-bost, a chod dilysu pellach drwy’r post i swyddfa gofrestredig eich cwmni. Mae’r cod dilysu yn unigryw i gwmni arbennig ac fe’i defnyddir yn lle llofnod. Mae'r gwasanaeth WebFiling ar gael 24awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos. Gwybodaeth ychwanegol ar ein gwasanaeth WebFiling Gwybodaeth ychwanegol ar ein gwasanaeth eAtgoffa O dan ein gwasanaeth Software Filing, gall dogfennau statudol gael eu cyflwyno’n electronig i Dŷ’r Cwmnïau drwy e-bost. Cadarnheir yn awtomatig fod dogfennau’n cydymffurfio â’r Ddeddf Cwmnïau cyn rhoi hysbysiad derbyn neu wrthod. Mae’r gwasanaeth ar gael i bawb sy’n cyflwyno dogfennau, ond bydd yn fwyaf llesol i rai sy’n ffeilio dogfennau’n feunyddiol neu’n wythnosol. Po fwyaf o ddogfennau y byddwch yn eu ffeilio gyda Thŷr Cwmnïau, mwyaf priodol y bydd y drefn Software Filing i chi, a mwyaf oll o fudd a ddeillir o’r gwasanaeth, o bosibl, lle mae effeithiolrwydd yn y cwestiwn. I ddefnyddwyr anaml, hwyrach y bydd ein gwasanaeth WebFiling yn fwy addas. Os hoffech chi gofrestru am y gwasanaeth Software Filing, byddwch cystal â llenwi’r Cais am Gyfrif Credyd ar gyfer Gwasanaethau Ffeilio Ar-lein. (Saesneg yn unig) (PDF 762KB). Wrth dderbyn hwnnw gennych, byddwn yn creu cyfrif, yn neilltuo terfyn credyd ac yn anfon pecyn cychwyn yn cynnwys yr holl wybodaeth fydd eisiau arnoch i fynd ati i ffeilio. Sylwch: Dim ond yn Saesneg mae’r gwasanaeth Software Filing ar gael Gwybodaeth ychwanegol ar ein gwasanaeth Software Filing Dogfennau wedi eu Cyflwyno drwy’r Post Os ydych yn anfon dogfennau drwy’r post, drwy negesydd neu drwy drefn Britdoc (DX) a’ch bod yn dymuno cael derbynneb, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn darparu cydnabyddiaeth os amgaewch gopi o’ch llythyr eglurhaol gydag amlen stampiedig ac arni eich cyfeiriad dychwelyd. Bydd y côd bar a roddwn ar eich llythyr yn cyfleu’r dyddiad dod i law ac fe ddychwelwn y copi yn yr amlen a ddarparwch. Sylwer: nid yw cydnabyddiaeth dod i law yn golygu bod dogfen wedi ei derbyn i’w chofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau Canolfannau Gwybodaeth Tŷ’r Cwmnïau Cynhaliwn Ganolfannau Gwybodaeth yng Nghaerdydd, Llundain a Chaeredin. Mae’r Canolfannau Gwybodaeth yn darparu cysylltiad â’n cynhyrchion a’n gwasanaethau ar-lein, yn ogystal â gadael ichi ffeilio’ch dogfennau, corffori cwmnïau newydd (yr un diwrnod os bydd angen!) a chael gwybodaeth a chanllawiau cyffredinol ynghylch ein gwasanaethau. Manylion sut i gyrraedd ein Canolfannau Gwybodaeth Rhestr Prisiau Gwasanaethau a Chynnyrch llawn Canolfan Cysyllu Tŷ’r Cwmnïau Gall staff ein Canolfan Cysylltu ddelio â’r mwyafrif o ymholiadau cyffredinol ynghylch materion yn ymwneud â Thŷr Cwmnïau a’r gwasanaethau a roddwn. Fel arfer, byddant yn rhoi ichi ateb i’ch ymholiad yn syth, ond os na allant byddant yn eich trosglwyddo i rywun a all wneud. Gall ein Canolfan Cysylltu hefyd gymryd archebion ar gyfer dogfennau cwmni, a anfonir wedyn drwy’r post, dros beiriant ffacs neu fel e-bost. Gellir talu â siec os archebwch drwy’r post; neu cewch archebu dros y ffôn os ydych yn talu drwy gerdyn credyd neu fod gennych chi gyfrif. Gellir cyflenwi copïau o ddogfennau unigol dros y ffacs neu fel e-bost ar gyfer pobl sy’n talu drwy gerdyn credyd neu sydd â chyfrif. Cyrchu Rhestr Brisiau’n Canolfan Cysylltu Gallwch ffonio'n Canolfan Cysylltu ar 0303 1234 500 neu anfon neges e-bost at enquiries@companies-house.gov.uk |
||