RHYBUDD PWYSIG AR DWYLL |
||||
|
|
Cynigion swydd twyllodrus a hocedion teitheb Mae Tŷ’r Cwmnïau yn gweld cynnydd yn nifer y cwynion a’r ymholiadau ynghylch cynigion swydd ymddangosiadol yn y DU. Mae’r rhain yn cynnwys cynigion gyda chwmnïau olew a’r sectorau Bancio, Gwestyau a Cholegau. Bydd hysbysebion sy’n ymhonni dod o gwmnïau olew neu betrolewm, yng nghyswllt amrywiaeth o swyddi tâl bras yn y DU, yn cael eu rhoi mewn papurau neu wefannau o enw da. Fel arfer, bydd yr hysbysebion hyn hefyd yn cynnig cyfleusterau ar gyfer sicrhau teithebau’r DU drwy eu cysylltwyr. Gofynnir fel rheol am dâl am y teithebau hyn drwy swyddfa gwasanaeth arian. Gellir casglu’r tâl unrhyw le yn y byd. Nid yw’r swyddi hyn yn bodoli a’r unig ffordd gyfreithlon i sicrhau teitheb y DU yw drwy lysgenhadaeth neu gomisiwn lleol y DU - mae manylion llawn i’w gweld yn www.ukvisas.gov.uk. Dylech bob amser drin unrhyw gynnig swydd o’r fath yn ofalus dros ben, yn enwedig os yw’n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir. Gwnewch eich ymholiadau eich hun heb ddefnyddio’r manylion cysylltu a roir gan y cwmni, gan fod y rheiny hefyd yn dwyllodrus.RHYBUDD PWYSIG AR DWYLL - Codau Dilysu WebFiling Gwelwyd achosion yn ddiweddar o gysylltu â chwsmeriaid Tŷ’r Cwmnïau gan rywun yn honni perthyn i Dŷ’r Cwmnïau ac yn gofyn iddynt gadarnhau eu Codau Dilysu ar gyfer WebFiling. Dylech gadw mewn cof na fydd personél Tŷ’r Cwmnïau byth yn cysylltu â chi dros y ffôn i holi ynghylch eich Codau Dilysu ar gyfer WebFiling. Os bydd rhywun yn dod i gysylltiad â chi gan honni perthyn i Dŷ’r Cwmnïau, ceisiwch sicrhau eu rhif teleffon a chysylltu â ni’n syth. RHYBUDD AM DWYLL YSGROW Rydym yn ymwybodol bod yna nifer o wefannau sy’n cynnig gwasanaethau ysgrow ac yn honni eu bod “o dan drwydded a bond gyda Thŷ’r Cwmnïau". Mae’r safleoedd hyn yn dwyllodrus yn gymaint â bod Tŷ’r Cwmnïau heb ddarpariaeth i gynnig trwyddedau na bondiau i unrhyw gwmni. Bydd y safleoedd fel arfer yn dangos rhif cofrestru cwmni dilys ond nid oes ganddynt gysylltiad â’r cwmni ei hun. Bydd y safleoedd twyllodrus hyn yn gweithio trwy fod rhywun yn chwilio safle arwerthu dros y rhyngrwyd ac y cytuno i brynu rhyw eitem, fel arfer gemwaith, a hefyd yn awgrymu bod y gwerthwr, yn lle defnyddio un o’r systemau talu awdurdodedig, yn gwerthu’r eitem i wasanaeth ysgrow a argymhellir gan y darpar brynwr. Caiff y nwyddau eu hanfon ac ni fydd cysylltiad pellach oherwydd bod y “prynwr” yn cau eu cyfrif e-bost. Os credwch eich bod wedi dioddef tramgwydd yng nghyswllt unrhyw safle o’r fath, dylech sôn am hyn wrth yr heddlu lleol. Os cysylltwch â Thŷ’r Cwmnïau, cadwch mewn cof nad ymchwilir o angenrheidrwydd i’r mater wrth ichi wneud, er ein bod yn gwerthfawrogi bod yr wybodaeth yn cael ei dwyn i’n sylw. Mae Tŷ’r Cwmnïau yn cydweithio â Heddlu Llundain (Operation Sterling) i ymchwilio i’r safleoedd hyn a’u cau’n derfynol lle bo hynny’n briodol. |
|||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|