Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 


Arolwg Gweithredol ac Ariannol

O.S. 2005/3442- Rheoliadau Deddf Cwmnïau 1985 (Arolwg Gweithredu ac Ariannol) (Diddymu) 2005

Yn sgil cyhoeddiad y Canghellor ar 28 Tachwedd fod y Llywodraeth wedi penderfynu peidio â’i gwneud yn ofynnol mwyach i gwmnïau rhestredig gynnal Arolwg Gweithredu ac Ariannol, mae Alun Michael bellach wedi gwneud rheoliadau i ddiddymu’r rheidrwydd. Daeth hyn i rym ar 12 Ionawr 2006. Erys y rheidrwydd i gynhyrchu Arolwg Busnes o fewn Adroddiad y Cyfarwyddwyr.

Am wybodaeth bellach ynghylch y rheoliadau hyn, ymwelwch ag:

www.dti.gov.uk/cld/hottopics.htm

O.S. 2005/1011- Rheoliadau Deddf Cwmnïau (Arolwg Gweithredol ac Ariannol ac Adroddiad Cyfarwyddwyr etc) 2005

Mae’r rheoliadau’n cyflwyno i Ddeddf Cwmnïau 1985 reidrwydd newydd i gyfarwyddwyr cwmnïau rhestredig baratoi arolwg gweithredol ac ariannol (AGA) ar gyfer blynyddoedd ariannol yn dechrau ar neu wedi 1 Ebrill 2005.

Rhaid i’r AGA roi dadansoddiad cytbwys a chynhwysfawr sy’n gyson ag ehangder a chymhlethdod:

  • Datblygiad a chyflawniad y busnes yn ystod y flwyddyn ariannol;
  • Sefyllfa’r cwmni (neu’r grŵp) ar ddiwedd y flwyddyn;
  • Y prif dueddiadau a ffactorau sy’n islais i ddatblygiad, cyflawniad a sefyllfa’r cwmni (neu’r grŵp) ac sy’n debyg o effeithio arno yn y dyfodol.

Mae’r rheoliadau hefyd:

  • Yn ehangu’r rheidrwydd presennol i gwmnïau gynnwys golwg deg ar eu busnes yn adroddiad y cyfarwyddwyr;
  • Yn pennu rheidrwydd i’r archwilwyr ariannol fynegi barn am gysondeb yr AGA ac adroddiad y cyfarwyddwyr â’r cyfrifon; ac
  • Yn cyflwyno trefn orfodi droseddol a gweinyddol yng nghyswllt yr AGA ac adroddiad y cyfarwyddwyr fel ei gilydd.

Am Nodiadau Canllaw sy’n amlinellu’r prif newidiadau a gynhwysir yn y rheoliadau, ymwelwch ag http://www.dti.gov.uk/cld/financialreview.htm

Mae’r Bwrdd Safonau Cyfrifeg (ASB) wedi cyhoeddi Safon Adrodd (RS) 1 ‘The Operating and Financial Review’. Mae hon ar gael yn http://www.frc.org.uk/asb/press/pub0793.html