Cwestiynau Mwyaf Cyffredin atebion cyflym i'n cwestiynau mwyaf cyffredin
Tŷ’r Cwmnïau yn Cyflwyno Gwasanaeth Gwrth-Gipio |
|||
|
Cwsmeriaid Presennol PROOF Caiff y sgrin ganlynol ei dangos yn achos cwsmeriaid presennol PROOF.
O Hydref 1af bydd Cynllun PROOF (PROtected On-line Filing) y Cofrestrydd yn gweithredu o dan fframwaith y Ddeddf. I ymuno â’r cynllun statudol newydd, PROOF, bydd rhaid i chi yn gyntaf gofrestru ar gyfer y gwasanaeth WebFiling. Unwaith y byddwch wedi cofrestru a chwblhau’r broses mewn-lofnodi, bydd y sgrin ganlynol (1) yn ymddangos. Ticiwch y blwch i gadarnhau eich bod wedi darllen a chytuno â’r amodau a thelerau a dewiswch ‘Ymuno â PROOF’. Sgrin 1
Sgrin 2
Sgrin 3 Bydd y sgrin ganlynol (3) yn cadarnhau bod eich cais am ymuno â’r cynllun PROOF newydd wedi dod i law ac yn dangos dyddiad digwyddiad, math a rhif cyflwyniad i gyd-fynd â’ch cais. I barhau â’ch cais, dewiswch y botwm ‘parhau’. Bydd hynny’n cynhyrchu dwy neges e-bost, y gyntaf (e-bost 1) yn cydnabod bod eich cais wedi dod i law, a’r ail (e-bost 2) yn cadarnhau bod y cais wedi’i dderbyn neu wedi’i wrthod.
E-bost 1 Mae’r neges e-bost (1) ganlynol yn cael ei chynhyrchu i gardarnhau bod eich cais wedi dod i law, a chaiff neges e-bost (2) arall ei hanfon pan fydd y cais wedi’i dderbyn neu wedi’i wrthod. D.S. Os ydych yn cofrestru am PROOF ac yn ffeilio Cyfrifon neu ddogfennau eraill yn ystod yr un sesiwn, gwnewch yn siŵr fod atebion cydnabyddiaeth a derbyniad wedi cael eu derbyn ar gyfer yr holl drafodion. E-bost 2 Caiff y neges e-bost (2) ganlynol ei chynhyrchu pan fydd y cais am ymuno â PROOF wedi’i dderbyn. Bydd cadarnhad eich bod wedi’ch derbyn i’r cynllun PROOF yn cael ei ddangos yn y blwch statws PROOF newydd (sgrin 4) ar sgrin dewislen WebFiling. Crewyd y neges hon mewn ymateb i'r manylion cwmni a gyflwynwyd i wasanaeth WebFiling Tŷ'r Cwmnïau ar <dd/mm/bbbb>. Sgrin 4 Bydd blwch statws PROOF ar dudalen dewislen WebFiling (sgrin 4) yn cadarnhau statws PROOF y cwmni. Gallwch weld hyn ar ochr dde’r sgrin o dan ‘tasgau eraill’
(Sylwer ei bod yn bosib na fydd ceisiadau am adael neu ymuno â PROOF dros y 48 awr ddiwethaf wedi cael eu cymhwyso eto. Aros Penderfyniad fod wedi’i ddangos). |
|||