Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 
Wedi'i gweithredu ar 1af Hydref 2009

Tŷ’r Cwmnïau yn Cyflwyno Gwasanaeth Gwrth-Gipio

PROOF

Cefndir

Mae cynllun PROOF (PROtected Online Filing) yn parhau i ddiogelu cwmnïau rhag ffeilio twyllodrus drwy atal cwmnïau rhag ffeilio rhai ffurflenni ar bapur. Y ffurflenni y mae cynllun PROOF yn eu cwmpasu yw:

  • Penodi
  • Terfynu Penodiad
  • Newid Manylion (Swyddogion Cwmni)
  • Newid Cyfeiriad y Swyddfa Gofrestredig
  • Y Ffurflen Flynyddol

Pan fydd cwmni wedi ymuno â chynllun PROOF, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn gwrthod unrhyw fersiynau papur o’r ffurflenni hyn ac yn eu gyrru’n ôl i gyfeiriad y swyddfa gofrestredig.  Mae hyn yn helpu i sicrhau mai’r cwmni ei hun sydd wedi cofrestru unrhyw newidiadau a wneir.

Mae cynllun PROOF ar droed ers 2005 ac yn y dechrau dim ond drwy gyflwyno ffurflen bapur (PR1) y câi cwsmeriaid ymuno.  Ym Mehefin eleni, gweithredodd Tŷ’r Cwmnïau gyfleustra dewis-ymuno electronig a ganiatâi i gwsmeriaid oedd wedi cofrestru ar gyfer gwasanaeth WebFiling drefnu i’w cwmnïau adael ac ymuno â PROOF ar-lein drwy ddefnyddio’u cod dilysu cwmni.

Deddf Cwmnïau 2006 – Newidiadau i Gynllun PROOF (PROtected Online Filing).

Yn sgil cyflwyno Deddf Cwmnïau 2006 a newidiadau radical i’r gyfraith gwmnïau, mae i gynllun PROOF bellach amodau a thelerau newydd sy’n gweithredu o fewn fframwaith statudol Deddf Cwmnïau 2006 (adran 1070).

D.S.: Bydd angen i gwmnïau sydd eisoes wedi cofrestru ar gyfer y cynllun PROOF  drosglwyddo i’r cynllun newydd oherwydd yn y pen draw tynnir yr  hen gynlluniau yn ôl. Er mwyn trosglwyddo, rhaid i gwsmeriaid clicio  blwch i gytuno â’r amodau a thelerau newydd sy’n arddangos ar sgriniau WebFiling.

Mae Tŷ’r Cwmnïau yn cynghori cwsmeriaid nad ydynt eisoes wedi cofrestru ar gyfer  PROOF i ymuno â’r gwasanaeth o dan drefn WebFiling er mwyn diogelu’u cwmnïau rhag ffeilio twyllodrus.

Am wybodaeth bellach ynghylch y broses ymuno ar gyfer PROOF (cwsmeriaid papur ac electronig presennol)

Am wybodaeth bellach ynghylch y broses ymuno ar gyfer PROOF (cwsmeriaid newydd)

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500 (pris galwad genedlaethol) Minicom - 02920381245  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS.    This site uses valid RSS feeds. . IFTS Accredited  http://www.ebr.org/  http://www.berr.gov.uk/  http://www.businesslink.gov.uk/  http://www.direct.gov.uk  Community Interest Companies