Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan
Gwasanaeth Cymraeg
Hafan | Cysylltu â ni | English  
 

Hawliau Gwybodaeth


Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Deddf Diogelu Data 1998 yn rhoi’r hawl i bobl weld neu dderbyn gwybodaeth.

Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhoi’r hawl i’r cyhoedd weld gwybodaeth swyddogol a gedwir gan awdurdodau cyhoeddus gan gynnwys gwybodaeth a gedwir gan Dŷ’r Cwmnïau.

Mae’r Ddeddf Diogelu Data yn caniatáu i aelod o’r cyhoedd weld y wybodaeth bersonol a gedwir amdanynt gan sefydliadau o bob math, gan gynnwys Tŷ’r Cwmnïau.

Gwybodaeth Swyddogol

Daeth y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i’w llawn rym fis Ionawr 2005.  Mae’n rhoi’r hawl i’r cyhoedd gael mynediad at bob math o wybodaeth a gofnodwyd ac a gedwir gan awdurdodau cyhoeddus, a hefyd mae’n nodi’r eithriadau o’r hawl honno. Nod y Ddeddf yw hyrwyddo bod yn agored yn y sector cyhoeddus sy’n cynnwys adrannau’r llywodraeth megis Tŷ’r Cwmnïau. Mae’r Ddeddf yn gymorth i’r cyhoedd ddeall yn well y modd y mae awdurdodau cyhoeddus yn cyflawni’u dyletswyddau, pam y maent yn gwneud eu penderfyniadau, a’r modd y maent yn gwario’u harian.

Gwybodaeth Bersonol

Mae’r Ddeddf Diogelu Data yn rhoi’r hawl i unigolion gael gwybod pa wybodaeth a gedwir amdanynt, ac yn nodi rheolau i sicrhau yr ymdrinnir â’r wybodaeth honno yn briodol. Mae sefydliadau, gan gynnwys Tŷ’r Cwmnïau, sy’n cadw gwybodaeth bersonol yn gyfrifol am sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei defnyddio’n deg, yn cael ei chadw’n ddiogel, yn gywir, ac yn wybodaeth ddiweddaraf. 

Am ragor o wybodaeth am y Deddfau hyn, ymwelwch â’r safleoedd isod
Deddf Rhyddid Gwybodaeth
Deddf Diogelu Data 1998
Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth
Y Weinyddiaeth Gyfiawnder

Mae Tŷ’r Cwmnïau eisoes yn rhyddhau gwybodaeth fel mater o drefn drwy ei gynnyrch a gwasanaethau, Cynllun Cyhoeddi a rhestr o wybodaeth (a ryddhawyd gynt o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth). Os oes unrhyw wybodaeth nad yw ar gael ar hyn o bryd o dan y dulliau hyn, yna mae gan y cyhoedd yr hawl i ofyn i Dŷ’r Cwmnïau wneud y wybodaeth honno ar gael.

Sut mae dod o hyd i wybodaeth?