Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Hawliau Gwybodaeth


Os dymunwch wybodaeth am gwmnïau gweler Dod o hyd i wybodaeth am gwmni

Sut ydw i’n cyrchu gwybodaeth nad yw ar gael drwy Gynhyrchion a Gwasanaethau Tŷ’r Cwmnïau?
Dilynwch y cynghorion isod i sicrhau bod eich cais am wybodaeth yn cael ei drin mor fuan ac esmwyth â phosib.

Cyn gofyn am wybodaeth

I gyflymu’ch ymholiad, edrychwch i gael gweld a yw’r wybodaeth a geisiwch eisoes ar ein gwefan:

Sut i ofyn am wybodaeth

Os na welwch yr wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Hawliau Gwybodaeth drwy lythyr neu e-bost. I’n helpu i ddelio â’ch ymholiad, gofalwch:

  • e-bostio neu ysgrifennu at y Tîm Hawliau Gwybodaeth yn y cyfeiriad isod
  • dweud yn glir wrthym pa wybodaeth a ddymunwch
  • cynnwys eich enw a’ch cyfeiriad post neu gyfeiriad e-bost

Tîm Hawliau Gwybodaeth, Tŷ’r Cwmnïau, Ffordd y Goron, Caerdydd, CF14 3UZ
Teleffon 029 2038 0616
Ffacs: 029 2038 0149
E-bost: jchainey@companieshouse.gov.uk
E-bost: charnett@companieshouse.gov.uk
E-bost: jlumsden@companieshouse.gov.uk

A fydd Tŷ’r Cwmnïau bob amser yn rhoi imi’r wybodaeth a geisiaf?
Does dim hawl absoliwt i gael gwybodaeth. Gall gwybodaeth fod wedi’i heithrio o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r Ddeddf Gwarchod Data am nifer o resymau. Am ragor o fanylion ynghylch eich hawliau o dan y ddeddfwriaeth hon, gweler www.dca.gov.uk/peoplesrights.htm.

Cwynion

Gall unrhyw un nad yw’n fodlon ar yr ymateb i’w gais wneud cwyn neu geisio adolygiad o’n hymateb drwy ysgrifennu at y Tîm Hawliau Gwybodaeth o fewn dau fis calendr i’r ymateb. Caiff yr adolygiad ei gynnal gan uwch-aelod o Dŷ’r Cwmnïau na chwaraeodd ran flaenorol yn yr achos. Os na fyddwch wedyn yn fodlon ar ganlyniad eich cwyn, gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sy’n gorfodi ac yn goruchwylio’r Deddfau Rhyddid Gwybodaeth a Gwarchod Data, am ddyfarniad. At ei gilydd, ni all yr ICO roi dyfarniad nes ichi ddisbyddu’n trefn gwyno ni. Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: The Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire SK9 5AF.

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500 Minicom - 02920381245  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies