Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan
Gwasanaeth Cymraeg
Hafan | Cysylltu â ni | English  
 
Cwestiynau Mwyaf Cyffredin atebion cyflym i'n cwestiynau mwyaf cyffredin

Ffurflenni


I ddarllen a llenwi unrhyw rai o'r ffurflenni, bydd arnoch chi angen Adobe Acrobat Reader Fersiwn 4.0 neu ddiweddarach. Cliciwch ar yr eicon isod i ddadlwytho'r fersiwn hwn.

Ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Get Adobe Acrobat

Cymorth a chyngor ynglyn â ffeiliau PDF

Canllawiau I Gwsmeriaid

Dogfennau papur

Yn gyffredinol, rhaid i bob dogfen bapur a anfonir i Dŷ’r Cwmnïau ddatgan, mewn man amlwg, enw cofrestredig a rhif y cwmni. Mae nifer fach o eithriadau i’r rheol hon, a nodir y rheini yn rheolau cyhoeddedig y cofrestrydd.

Dylai’r dogfennau papur fod o faint A4, ar bapur gwyn, plaen, afloyw. Dylai’r testun fod yn ddu, yn eglur, yn ddarllenadwy ac yn gyson o ran dwysedd. Rhaid i’r llythrennau a’r rhifau fod yn glir a darllenadwy, i’n galluogi i wneud copi derbyniol o’r ddogfen. Dylai’r canllawiau canlynol fod o gymorth. Mae methu â dilyn y canllawiau hyn yn debyg o arwain at wrthod y ddogfen:

Wrth lenwi ffurflen, os gwelwch yn dda:

  • defnyddiwch inc neu deip du;
  • defnyddiwch lythrennau du a thrwm (mae rhai teipysgrifau a phennau ysgrifennu main a choeth yn cynhyrchu copïau gwael);
  • peidiwch ag anfon copi carbon;
  • peidiwch â defnyddio argraffydd matrics; a
  • chofiwch fod yr arlliw llwyd mewn rhai llungopïau yn golygu na ellir eu sganio’n foddhaol.

Wrth baratoi dogfennau eraill, dylech gadw mewn cof:

  • y pwyntiau a restrwyd eisoes ynglŷn â llenwi ffurflenni;
  • y dylid defnyddio papur A4, a gadael ymylon llydan yn wag ;
  • y dylid eu cyflenwi mewn fformat “portread” (hynny yw, gydag ymyl fer ar frig y ddalen); ac
  • y dylid cynnwys rhif ac enw’r cwmni.