|
|
Integreiddio Cofrestrfa Gwmnïau Gogledd Iwerddon Cyflwyniad Wrth ddechrau Deddf Cwmnïau 2006 yn llawn ym mis Hydref 2009, bydd yn darparu ar gyfer un gyfraith gwmnïau fydd yn gymwys i’r Deyrnas Unedig i gyd. Bydd cwmnïau’n gwmnïau y DU yn hytrach na chwmnïau Prydain Fawr neu Ogledd Iwerddon, a bydd yr un ddeddfwriaeth yn gymwys iddynt oll. O ganlyniad, bydd Cofrestrfa Gwmnïau Gogledd Iwerddon (CRNI) yn integreiddio’n llawn â Thŷ’r Cwmnïau, Caerdydd, ar 1 Hydref 2009. Mae CRNI ar hyn o bryd yn rhan o Adran Menter, Masnach a Buddsoddi GI (DETINI); ond o fis Hydref ymlaen bydd yn trosglwyddo i Dŷ’r Cwmnïau o dan yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau (BIS). Bydd Gogledd Iwerddon yn cadw swyddogaeth a phresenoldeb cofrestrfa yn debyg i batrwm Tŷ’r Cwmnïau, yr Alban. Mae hyn yn golygu y bydd y swyddfa’n aros ym Melffast a bydd Cofrestrydd Gogledd Iwerddon. Mae ar hyn o bryd tua 38,000 o gwmnïau byw wedi’u cofrestru yng Ngogledd Iwerddon. Manylion Cysylltu O 1 Hydref 2009 ymlaen, bydd angen i gwsmeriaid ddefnyddio manylion cysylltu cyffredinol Tŷ’r Cwmnïau: Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500 amserau agor: 08:30 i 18:00 (amser y DU) dydd Llun i ddydd Gwener E-bost:enquiries@companies-house.gov.uk Ni fydd cyfeiriad e-bost Gogledd Iwerddon info.companiesregistry@detini.gov.uk ael ar gael mwyach o 1 Hydref ymlaen. Bydd swyddfa Gogledd Iwerddon yn aros yn ei chyfeiriad presennol: Gwefan O 1 Hydref, caewyd gwefan Cofrestrfa Gwmnïau GI (CRNI) ac mae’r holl wybodaeth berthnasol ynglŷn â Deddf Cwmnïau 2006 ar gael drwy wefan Tŷ’r Cwmnïau. Defnyddiwch Ganolfan Cysylltu Tŷ’r Cwmnïau am ganllaw a ffurflenni CRNI ar gyfer digwyddiadau cyn 1af Hydref 2009. Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500 amserau agor: 08:30 i 18:00 (amser y DU) dydd Llun i ddydd Gwener Ni fydd ffurflenni CRNI yn gymwys mwyach o 1 Hydref 2009 ymlaen. Mae cyfres gwbl newydd o ffurflenni o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 y bydd angen eu defnyddio o 1 Hydref ymlaen. Caiff data Gogledd Iwerddon eu huno â chronfeydd data Tŷ’r Cwmnïau a byddant ar gael drwy’r gwasanaethau ar-lein o ddechrau Hydref 2009 ymlaen. Mae’r gwasanaethau gwybodaeth gwmni ar-lein yn cynnwys
Ni fydd Gwasanaethau Ar-lein Gogledd Iwerddon (https://www.secure.detini.gov.uk/crni/) ar gael mwyach o 1 Hydref ymlaen. Os oes gan gwsmeriaid gyfrif rhagdalu gyda Chofrestrfa Gwmnïau Gogledd Iwerddon, caiff y cyfrif hwn ei gau a’r balans sy’n aros ei ad-dalu. Bydd cwmnïau Gogledd Iwerddon hefyd yn cael manteisio ar wasanaeth ‘WebFiling’ Tŷ’r Cwmnïau ar gyfer ffeilio ar-lein o ddechrau mis Hydref 2009 ymlaen. Mae’r wybodaeth gwmni y gellir ei chyflwyno’n electronig drwy WebFiling yn cynnwys:
Mae’r gwasanaethau ar-lein hyn ar agor 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos, i chwilio a ffeilio gwybodaeth. Cafodd holl ffioedd statudol ar ein rhestr brisiau eu cadarnhau gan y Senedd drwy offerynnau statudol a deuant i rym ar 1 Hydref 2009. Yr unig ffioedd sydd heb eu pennu drwy offerynnau statudol yw cynhyrchion newydd (adferiad gweinyddol a cheisiadau am drefnu na fydd cyfeiriad ar gael i’w archwilio gan y cyhoedd), swmp-gynhyrchion, microfiche, copïau ffacs a chwiliadau perchnogion papurau newydd. Mae’r rhain i gyd yn cael eu pennu’n weinyddol a deuant i rym ar 1 Hydref 2009. Bydd dolen sy’n cysylltu â’r diffiniad sy’n pennu ffioedd yn weinyddol ac â’r rheoliadau yn ymddangos gyda hyn ar ein gwefan. A fydd yn ofynnol i gwmnïau Gogledd Iwerddon fod â swyddfa gofrestredig yng Ngogledd Iwerddon o hyd ar ôl 1 Hydref 2009? Bydd. Er mai un gyfraith gwmnïau a fydd ar gyfer y Deyrnas Unedig i gyd, bydd yn dal yn ofynnol i fod â swyddfa gofrestredig yng Ngogledd Iwerddon. Wrth integreiddio Cofrestrfa Gogledd Iwerddon â Thŷ’r Cwmnïau, beth fydd yr effaith ar gofrestru canghennau? O dan Ddeddf Cwmnïau 2006, cwmnïau wedi’u cofrestru y tu allan i’r DU fydd cwmnïau tramor. Os bydd un o gwmnïau Gogledd Iwerddon am agor cangen yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, ni fydd yn rhaid mwyach iddo gofrestru o dan yr awdurdodaethau penodol ar wahân. A fydd cwmnïau Gogledd Iwerddon yn cadw’r blaenddodiad NI yn eu rhifau cwmni? Byddant, bydd cwmnïau’n cadw blaenddodiad cyfredol eu rhif cwmni. |
||