Deddf Cwmnïau |
||||
|
|
Hanes y Ddeddf / Crynodeb Hyd yn Hyn / Hanes y Mesur
17.03.2005 Papur Gwyn Diwygio’r Gyfraith Gwmnïau Cafodd Papur Gwyn Diwygio’r Gyfraith Gwmnïau a Chrynodeb i Fusnesau Bach eu cyhoeddi ar 17 Mawrth 2005 ac maen nhw ar gael ar wefan yr Adran Masnach a Diwydiant. 03.11.2005 Cyhoeddi Mesur Diwygio’r Gyfraith Gwmnïau Cafodd Mesur Diwygio’r Gyfraith Gwmnïau, a roddwyd gerbron y Senedd ar 1 Tachwedd 2005, ei gyhoeddi ar 3 Tachwedd 2005. Mae’r Mesur yn cynrychioli gweddnewidiad llwyr o fewn y Gyfraith Gwmnïau. Mae’n cynnwys amrywiaeth eang o gamau wedi’u datblygu drwy gydymgynghori â budd-ddeiliaid a’i ddiben yw moderneiddio a symleiddio’r Gyfraith Gwmnïau. Mae’n canolbwyntio ar ymagwedd ‘Meddwl yn fach yn gyntaf’ ac mewn termau cyffredinol effaith ddadreoleiddio sydd iddo. 20.01.2006 Ail Ddarlleniad Mesur Diwygio’r Gyfraith Gwmnïau Cafodd Mesur Diwygio’r Gyfraith Gwmnïau ei ail ddarlleniad yn Nhÿ’r Arglwyddi ar 11 Ionawr 2006. Wrth gyflwyno’r Mesur, bu i’r Arglwydd Sainsbury, Is-ysgrifennydd Seneddol Gwladol yn y DTI, adolygu hanes y gyfraith gwmnïau ym Mhrydain Fawr a nodi pa mor bwysig yw hi i ‘ddiweddaru’r gyfraith gwmnïau’n gyson mewn ymateb i newidiadau i’r ffordd y bydd cwmnïau’n gwneud busnes’. Lluniwyd y Mesur drwy gydymgynghori â byd busnes. Nid yw’n ceisio cyfuno holl grynswth y gyfraith gwmnïau, ond yn hytrach mae’n newid pwyslais y gyfraith o blaid y 95% o gwmnïau cyfyngedig sy’n rhai bach, gan ddiogelu’r hyblygrwydd ar gyfer newidiadau eto yn y dyfodol. Mae i’r Mesur bedwar nod allweddol:
13.06.2006 Mesur Diwygio’r Gyfraith Gwmnïau yn cyrraedd Tŷ’r Cyffredin Mae Mesur Diwygio’r Gyfraith Gwmnïau wedi dod i ddiwedd ei hynt drwy’r Arglwyddi ac erbyn hyn wedi symud ymlaen i Dÿ’r Cyffredin. Cafodd y Mesur ei ddarlleniad cyntaf yn Nhÿ’r Cyffredin ar 24 Mai a’r ail ar 6 Mehefin. Bydd Pwyllgor Sefydlog yn cwrdd yn awr ar amrywiol ddyddiadau rhwng 15 Mehefin a 13 Gorffennaf i ystyried diwygiadau. 14.08.2006 Daw’r Mesur i ddiwedd ei hynt drwy Bwyllgorau Tŷ’r Cyffredin ar 20 Gorffennaf. Daw’r Mesur i ddiwedd ei hynt drwy Bwyllgorau Tŷ’r Cyffredin ar 20 Gorffennaf. Cyhoeddwyd papur yn sôn am y trefniadau trosiannol i gwmnïau sy’n bod yn barod. Gwahoddir sylwadau erbyn 22 Medi 2006. 08.11.2006 Deddf Cwmnïau 2006 Mae’r Mesur Cwmnïau yn cael Cymeradwyaeth Frenhinol ar ddydd Mercher 8 Tachwedd 2006 28.02.2007 Ymgynghori ynghylch Deddfwriaeth Eilaidd Mae’r DTI wedi cyhoeddi dogfen ymgynghorol ar y materion polisi sy’n ymwneud â’r ddeddfwriaeth eilaidd y bydd angen ei chreu o dan Ddeddf Cwmnïau 2006, ac ar ddarpariaethau trawsnewid ac arbed. Gwahoddir sylwadau erbyn 31 Mai 2007 (ac eithrio yng nghyswllt y materion hynny sy’n ymwneud â rhoddion a gwariant gwleidyddol, lle gwahoddwn sylwadau erbyn 1 Mai 2007). Mae’r ddogfen ymgynghorol ar gael i’w gweld yn adran Ymgyngoriadau gwefan yr Adran Busnes Menter a Diwygio Rheoleiddio. |
|||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|