Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan
Gwasanaeth Cymraeg
Hafan | Cysylltu â ni | English  
 
Cwestiynau Mwyaf Cyffredin atebion cyflym i'n cwestiynau mwyaf cyffredin

Deddf Cwmnïau


Deddf Cwmnïau 2006 – Gweithrediad Terfynol as 1af Hydref 2009

Mae Deddf Cwmnïau 2006 yn newid y gyfraith i gwmnïau. Mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar bob cwmni sy’n gweithredu yn y Deyrnas Unedig. Cafodd y Ddeddf ei phasio yn 2006, a chafodd y camau olaf eu rhoi ar waith ar 1 Hydref 2009.

Beth yw’r newidiadau allweddol ar gyfer mis Hydref?

Dyma’r prif gyfnod o roi Deddf Cwmnïau 2006 ar waith, gyda nifer o newidiadau i gwmnïau. Gallwch weld rhestr o’r holl newididau yma. Er hynny, rydyn ni wedi rhestru’r prif newidiadau isod, gyda pharagraff byr ar ôl pob un i’w esbonio:

Diogelu cyfeiriadau cyfarwyddwyr rhag cael eu datgelu
Cyfeiriad amgen ar gyfer cofrestrau
Haws sefydlu cwmni
Rhoi gwybod inni am newidiadau yn yr erthyglau
Cofrestru cwmnïau ledled y Deyrnas Unedig
Canllawiau
Ffurflenni
Ffioedd
Delio â ni ar-lein
Diogelu’ch cwmni rhag cael ei herwgipio
Cynghorion pwysig i gwmnïau i sicrhau bod y cyfnod pontio i’r Ddeddf newydd yn llyfn

Diogelu cyfeiriadau cyfarwyddwyr rhag cael eu datgelu

Bydd gan bob cyfarwyddwr gyfeiriad ar gyfer cyflwyno dogfennau a chyfeiriad preswyl arferol. Bydd y cyfeiriad ar gyfer cyflwyno dogfennau i bob cyfarwyddwr ar gael yn gyhoeddus. Dim ond i awdurdodau cyhoeddus ac asiantaethau cyfeirio credyd y bydd y cyfeiriad preswyl ar gael. Ar 1 Hydref bydd cyfeiriad preswyl cyfredol cyfarwyddwr yn dod yn awtomatig yn gyfeiriad ar gyfer cyflwyno dogfennau iddo. Rhagor o fanylion am gyfeiriadau cyfarwyddwyr

Cyfeiriad amgen ar gyfer cofrestrau

Bydd y trefniadau ar gyfer archwilio cofrestrau cwmni yn cael eu newid.  Gall y cofrestrau hyn gael eu cadw yng nghyfeiriad y swyddfa gofrestredig neu mewn lleoliad archwilio unigol amgen (“single alternative inspection location” - SAIL). Rhaid ichi roi gwybod inni os byddwch yn sefydlu cyfeiriad SAIL neu os caiff y cyfeiriad SAIL ei symud, a dim ond un cyfeiriad SAIL ar y tro y gallwch ei gael i’r cwmni.  Pan fydd y cyfeiriad SAIL wedi’i sefydlu, cewch symud rhai neu bob un o’r cofrestrau i’r cyfeiriad SAIL drwy roi gwybod inni. Y ffordd symlaf i gofrestru’r cyfeiriad hwn fydd drwy gyfrwng ein gwasanaeth WebFiling.

Haws sefydlu cwmni

Mae nifer o newidiadau wedi’u gwneud i’w gwneud yn haws sefydlu cwmni. Mae yna newidiadau hefyd yn erthyglau’r cwmni, yn achos cwmnïau newydd. Fe fyddan nhw’n cynnwys amcanion y cwmni, ei rwymedigaethau a’i asedau - yr oedd pob un ohonyn nhw’n arfer bod yn y memorandwm. Copïau o erthyglau enghreifftiol

Rhoi gwybod inni am newidiadau yn yr erthyglau

Mae’n rhaid ichi anfon unrhyw ddiwygiad i erthyglau’r cwmni aton ni o fewn 15 diwrnod. Fel arall, fe allech chi fod yn cyflawni tramgwydd troseddol ac yn agored i gosb sifil o £200.

Cofrestru cwmnïau ledled y Deyrnas Unedig

Mae cofrestrfa Gogledd Iwerddon yn integreiddio gyda Thŷ’r Cwmnïau.  Rhagor o fanylion am yr integreiddio.

Canllawiau

Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi cynhyrchu canllawiau a fydd sy'n esbonio’r newidiadau ac yn rhoi cyfarwyddiadau gam-wrth-gam ar sut i ffurfio cwmni, yr hyn y bydd angen ichi ei anfon aton ni yn ystod bywyd cwmni a sut i ddiddymu cwmni.

Ffurflenni

Bydd holl ffurflenni Tŷ’r Cwmnïau yn newid o 1 Hydref 2009.
Mae’r ffurflenni newydd yn cynnwys:

  • Gofynion gwybodaeth Deddf Cwmnïau 2006
  • rhifau newydd
  • nodiadau cyfarwyddyd ychwanegol
  • manylion unrhyw ffi (os yw hynny’n gymwys)

Rhaid i’r ffurflenni newydd gael eu defnyddio ar gyfer holl ddigwyddiadau’r cwmni sy’n digwydd ar neu ar ôl 1 Hydref 2009. Os defnyddiwch chi hen ffurflen, caiff ei gwrthod.

Rhaid i ddigwyddiadau cwmni sy’n digwydd cyn 1 Hydref gael eu cyflwyno ar ffurflenni Deddf 1985. 

Gweld rhestr lawn o ffurflenni

Ffioedd

I dalu cost rhedeg y gofrestr, mae Tŷ’r Cwmnïau yn codi ffioedd am ffeilio ffurflenni penodol, megis y ffurflen flynyddol, newid enw, morgais a diddymu gwirfoddol.

Cofiwch anfon y ffi gyda ffurflen bapur neu fyddwn ni ddim yn gallu ei derbyn. 

Rhestr Brisiau

Delio â ni ar-lein

Cofiwch y gall y rhan fwyaf o’r wybodaeth gael ei ffeilio’n electronig erbyn hyn drwy ddefnyddio WebFiling neu becyn meddalwedd sydd wedi’i alluogi mewn modd addas. Mae hyn yn arbed amser ichi wrth roi gwybodaeth ac yn cynnig cymorth gam-wrth-gam er mwyn atal unrhyw wallau neu boendod gweld eich ffurflenni’n cael eu gwrthod. Yn achos rhai o’r ffurflenni sy’n cynnwys ffioedd, mae’n gallu bod yn rhatach hefyd.

Cyrchu’n gwasanaeth WebFiling

Diogelu’ch cwmni rhag cael ei herwgipio

O 1 Hydref ymlaen, bydd cynllun Protected Online Filing (PROOF) y Cofrestrydd yn gweithredu o dan fframwaith y Ddeddf (adran 1070).

Mae cwsmeriaid PROOF yn cael eu diogelu rhag newidiadau diawdurdod ym manylion eu cwmni. Maen nhw’n cytuno gyda’r Cofrestrydd mai dim ond yn electronig y byddan nhw’n ffeilio dogfennau penodol. Os bydd twyllwr yn ceisio ‘herwgipio’ eu cwmni drwy ffeilio darn o bapur, caiff hwnnw ei wrthod. Mae’r Cofrestrydd yn annog pob cwmni i ymuno â PROOF. Gallwch wneud hynny’n hawdd bellach drwy’r gwasanaeth WebFiling gan ddefnyddio cod dilysu’r cwmni (does dim angen cydsyniad ysgrifenedig pob cyfarwyddwr erbyn hyn).

Cynghorion pwysig i gwmnïau i sicrhau bod y cyfnod pontio i’r Ddeddf newydd yn llyfn:

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn barod i ffeilio’n electronig ym mis Hydref.  Os ydych yn defnyddio WebFiling, bydd hyn yn hawdd - bydd sgriniau’r ddewislen yn eich arwain drwy’r hyn y mae’n rhaid ichi ei wneud. 
  • Mynnwch fod eich cwmni’n ymuno â Protected Online Filing (PROOF).  
  • Cadwch lygad am y rheolau newydd yn y Ddeddf ar ffeilio’n anghyson.  Gwnewch yn siŵr bod cofnod y cwmni yn gyfoes ac yn gyson â’r hyn sydd gennyn ni ar y cofnod cyhoeddus yn barod.  Rhowch wybod inni am newidiadau wrth iddyn nhw ddigwydd - peidiwch ag aros am y Ffurflen Flynyddol. 
  • Ffeiliwch yn brydlon i osgoi cael cosb.  Mae gennych fis yn llai i ffeilio’ch cyfrifon.  Os yw’ch cwmni fel rheol yn ffeilio’i gyfrifon ar 31 Ionawr, cofiwch mai 31 Rhagfyr fydd y terfyn amser eleni - naw mis ar ôl diwedd y flwyddyn yn hytrach na deg.

Rhaid ichi anfon unrhyw ddiwygiadau i erthyglau’r cwmni aton ni o fewn 15 diwrnod. Fel arall, fe allech chi fod yn cyflawni tramgwydd troseddol ac yn agored i gosb sifil o £200.

  • Darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf am Ddeddf Cwmnïau 2006 drwy edrych ar ein gwefan yn rheolaidd neu drwy dderbyn ein porthiant RSS

Hysbysiad Pwysig: ynghylch y gwasanaethau a fydd ar gael rhwyng 30 Medi a 5 Hydref

Brig

[an error occurred while processing this directive]