Amdanon Ni |
||||||||||
|
|
Cyfathrebu yn Gymraeg Paratowyd Y Cynllun Hwn Yn Unol Ag Adran 21(3) Deddf Yr Iaith Gymraeg A Chafodd Gymeradwyaeth Lawn Bwrdd Yr Iaith Gymraeg Ar 4 Mawrth 1999. Mae Tŷ'r Cwmnïau Wedi Mabwysiadu'r Egwyddor, Wrth Gynnal Busnes Cyhoeddus A Gweinyddu Cyfiawnder Yng Nghymru, Y Bydd Yn Trin Y Gymraeg A'r Saesneg Ar Y Sail Eu Bod Yn Gyfartal. Mae'r Cynllun Hwn Yn Nodi Sut Y Bydd Tŷ'r Cwmnïau'n Gweithredu'r Egwyddor Honno Wrth Ddarparu Gwasanaethau I'r Cyhoedd Yng Nghymru. 1. Cyflwyniad 1.1 Mae Tŷ'r Cwmnïau'n Asiantaeth Weithredol o dan yr Adran Masnach a Diwydiant ac iddo statws Cronfa Fasnachu. 1.2 Ei weithgareddau creiddiol yw:
2. Cynllunio a Chyflenwi Gwasanaeth 2.1 Wrth eu llunio, bydd Tŷ'r Cwmnïau'n asesu'r effaith a gaiff unrhyw bolisïau a mentrau newydd ar y defnydd o'r Gymraeg. 2.2 Bydd polisïau a mentrau newydd yn hwyluso defnyddio'r Gymraeg gan y sawl sydd am wneud ac yn symud y sefydliad yn nes at weithredu'r egwyddor o gydraddoldeb wrth ymdrin â'r iaith. 2.3 Bydd polisïau a mentrau newydd yn gyson â gofynion y Cynllun hwn a chymhwysir y Cynllun at bob polisi a menter newydd lle bynnag y bo hynny'n berthnasol. 2.4 Bydd Tŷ'r Cwmnïau'n ymgynghori â Bwrdd yr Iaith Gymraeg ynglyn ag unrhyw gynigion a fydd yn effeithio ar y Cynllun, neu a fydd yn effeithio ar Gynllun unrhyw gorff arall. 2.5 Ystyrir amodau'r Cynllun hwn wrth bennu unrhyw ffurflenni statudol newydd, newid systemau cyfrifiadur neu gyflwyno unrhyw newidiadau gweithredol eraill. Pan eir ati i weithredu unrhyw newidiadau o'r fath, rhoir ystyriaeth lawn i sut y gellid gwella ymhellach ar lefel y gwasanaeth i gwsmeriaid Cymraeg. 2.6 Ymgynghorir â Bwrdd yr Iaith Gymraeg fel a fo'n briodol ynglyn ag unrhyw gynigion i newid y Cynllun, ac ni newidir mo'r Cynllun heb eu cydsyniad. 2.7 Bydd Tŷ'r Cwmnïau'n sicrhau bod staff sy'n cyfrannu at lunio polisi yn gwbl ymwybodol o'r Cynllun hwn a'n cyfrifoldebau o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. 2.8 Bydd y swyddog sy'n gyfrifol am gadw golwg ar weithrediad y Cynllun yn sicrhau, trwy roi cyfarwyddyd priodol a threfnu monitro addas, fod yr ymrwymiadau hyn yn cael eu bodloni. Bydd hyn yn cynnwys ystyried pob polisi a menter newydd yng ngoleuni'r Cynllun a gwneud yn siwr eu bod yn ei gymryd i ystyriaeth, a gofalu bod staff yn ymwybodol o oblygiadau'r Cynllun. 3. Cyflenwi Gwasanaeth 3.1 Drwy gymhwyso amodau'r Cynllun hwn, bydd Tŷ'r Cwmnïau'n sicrhau bod cwsmeriaid sy'n dewis cynnal eu busnes â ni drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael gwneud felly. Sicrhawn hyn drwy:
4.1 Bydd Tŷ'r Cwmnïau'n sefydlu Pwyllgor Iaith Gymraeg i gadw golwg ar weithrediad y Cynllun a monitro'i berfformiad. Bydd ansawdd y gwasanaethau a roir i gwsmeriaid Cymraeg yn cydymffurfio ag ymrwymiadau presennol o dan Siarter y Dinesydd yn ogystal â phob un o dargedau Tŷ'r Cwmnïau. Bydd datganiad i'r perwyl hwn yn ymddangos mewn dogfennau perthnasol megis yr adroddiad blynyddol, y Ddogfen Nod Siarter. 4.2 Sicrheir bod staff yn ymwybodol o'r Cynllun a darperir copïau iddynt. 5. Delio  Gohebiaeth 5.1 Mae Tŷ'r Cwmnïau'n cynnig gwasanaeth i ddelio â gohebiaeth Gymraeg a bydd:
6.1 Mae Tŷ'r Cwmnïau'n cynnig gwasanaeth i alwyr teleffon sydd am drafod eu busnes yn Gymraeg. Rhoir i'n cyfnewidwyr a'n holl staff lyfrau ffôn mewnol yn rhestru aelodau staff sy'n siarad Cymraeg, ynghyd â meysydd eu gwybodaeth arbenigol, fel y gall cwsmeriaid sydd am drafod eu busnes yn Gymraeg gael eu trosglwyddo iddynt yn ddi-oed. 6.2 Ni chynigiwn ateb pob galwad deleffon yn ddwyieithog, gan ein bod yn gorff cenedlaethol sydd wedi ei leoli yng Nghymru ac yn darparu gwasanaethau ledled Prydain Fawr ac nad yw'n briodol cyfarch pob cwsmer yn ddwyieithog. Ond i hwyluso'r gwasanaeth i gwsmeriaid Cymraeg, fe fyddwn:
Trosglwyddir y galwr i aelod staff sy'n siarad Cymraeg, naill ai gan y cyfnewidydd neu gan yr aelod staff a fydd yn ateb yr alwad; Os nad oes aelod staff ar gael i siarad Cymraeg, rhoir cyfle i'r galwr gwblhau'r alwad yn Saesneg neu gael ei alw'n ôl gan aelod staff sy'n siarad Cymraeg cyn gynted ag y bydd un ar gael; Os yw'r ymholiad o natur gymhleth a thechnegol ac yn un lle byddai'n rhaid i ni geisio cyngor proffesiynol, gwahoddir y galwr i gyflwyno'r ymholiad yn ysgrifenedig. Wedyn, caiff ateb Cymraeg ysgrifenedig yn unol â'n trefn arferol ar gyfer trin gohebiaeth. Mae hyn yn cydymffurfio â'n harfer cyffredin o ran pob ymholiad cymhleth a thechnegol, ni waeth am iaith ei gyflwyno. 7. Ymwelwyr Â'r Swyddfa 7.1 Mae cyfleusterau archwilio cyhoeddus Tŷ'r Cwmnïau, lle gall aelodau'r cyhoedd ymchwilio i gofnodion cwmnïau, ar agor yn ystod oriau busnes arferol rhwng 9am a 5pm. Mae Tŷ'r Cwmnïau'n cynnig gwasanaeth i gwsmeriaid Cymraeg - rhai sydd am ddefnyddio'r cyfleustrau archwilio a chyfarwyddwyr neu gynrychiolwyr cwmnïau sydd am drafod eu busnes yn bersonol yn Gymraeg. Bydd Tŷ'r Cwmnïau:
8.1 Wrth i Dŷ'r Cwmnïau ddatblygu ei gysylltiadau technolegol â chwmnïau a chwsmeriaid, e.e. drwy ffeilio gwybodaeth mewn dulliau electronig, byddwn yn ystyried pa ddarpariaeth y gellir ei gwneud ar gyfer cwsmeriaid sydd am gynnal eu busnes â ni yn Gymraeg. 8.2 Byddwn yn cyflawni hyn drwy roi sylw priodol i amodau'r Cynllun hwn wrth ddatblygu systemau a dulliau cysylltu newydd ar gyfer ein cwsmeriaid. 8.3 Fel y daw rhagor o wybodaeth Tŷ'r Cwmnïau i fod ar gael i danysgrifwyr i wasanaeth rhwydwaith mewnol "CH Direct", fe ystyriwn a yw'n rhesymol ac yn gost-effeithiol i ddarparu cyfarwyddyd dwyieithog ar y sgriniau cyrchu arweiniol. 8.4 Wrth i Safle Gwe Tŷ'r Cwmnïau ddatblygu, byddwn yn cynnwys gwybodaeth ddwyieithog, megis nodiadau canllaw, ar y safle. 9. Cyhoeddiadau a Digwyddiadau 9.1 Mae Tŷ'r Cwmnïau'n darparu amrediad eang o nodiadau canllaw a fwriedir i helpu cwmnïau a'u swyddogion i gydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol, ac i roi cyhoeddusrwydd i'r gwasanaethau a gynigir gan Dŷ'r Cwmnïau. Yn fwyaf arbennig, cyhoeddwn nodyn canllaw dwyieithog penodol ar gyfer cwmnïau Cymreig, gan roi manylion gofynion sylfaenol y Deddfau Cwmnïau y mae'n rhaid i gwmnïau gydymffurfio â nhw, ynghyd â manylion y gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael gan Dŷ'r Cwmnïau. 9.2 Mae rhai Nodiadau Canllaw allweddol eraill sy'n gyffredinol gymwys i bob cwmni (megis canllaw ar ofynion datgelu-gwybodaeth y Deddfau Cwmnïau) eisoes ar gael ar ddiwyg dwyieithog. Estynnir y diwyg hwn i Nodiadau Canllaw eraill o gymhwyster cyffredinol wrth eu hadolygu. Ar hyn o bryd, mae Tŷ'r Cwmnïau'n disgwyl cwblhau'r adolygiad hwn erbyn Rhagfyr 2000. 9.3 Ar wahân i Nodiadau Canllaw, mae Tŷ'r Cwmnïau hefyd yn cynhyrchu deunydd gwybodaeth gyffredinol arall ar gyfer cwmnïau a'r cyhoedd. Rhoir y flaenoriaeth i gynhyrchu deunydd sy'n gysylltiedig â safonau gwasanaeth, mynediad at y gwasanaeth a'r drefn gwyno ar ddiwyg dwyieithog yn ystod oes y Cynllun - hynny yw, tair blynedd. Ystyrir cyhoeddiadau eraill wrth eu datblygu neu eu hadolygu. 9.4 Bydd arolwg o gyhoeddiadau Tŷ'r Cwmnïau yn cymryd i ystyriaeth ffactorau fel crynoder, statws, dull dosbarthu neu oes yr eitem dan sylw ar ein silffoedd. Yn achos fersiynau dwyieithog o gyhoeddiadau o'r fath, fe'u darperir ar ddiwyg dwyieithog cefn-wrth-gefn, ac eithrio lle byddai fersiwn cyfun cefn-wrth-gefn yn drwsgl neu'n rhy swmpus - y pryd hwnnw, gallai fod yn briodol cynhyrchu fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân. 9.5 I sicrhau eu cyhoeddi yr un pryd a bod pob cyhoeddiad dwyieithog ar gael yr un mor rhwydd, bydd Tŷ'r Cwmnïau'n mabwysiadu trefn gynllunio briodol gyda chyfieithwyr, cysodwyr, argraffwyr ac unrhyw asiantaethau allanol eraill sy'n chwarae rhan yn y cyhoeddi a'r dosbarthu. 9.6 Ni fydd cost y fersiynau dwyieithog o gyhoeddiadau'n uwch na chost y fersiwn Saesneg lle codir tâl amdanynt. 9.7 Nid yw Tŷ'r Cwmnïau'n cynnal nac yn galw cyfarfodydd cyhoeddus. Ond mae'n trefnu cyfres reolaidd o sioeau gwybodaeth ac arddangosfeydd teithiol a fwriedir i gynyddu ymwybyddiaeth o'r dyletswyddau statudol sydd ar gwmnïau ac i hybu'r gwasanaethau gwybodaeth a gynigiwn. Lle cynhelir sioeau neu arddangosfeydd teithiol o'r fath yng Nghymru, byddwn yn sicrhau:
10. Cyflwyno gwybodaeth statudol i'r Cofrestrydd 10.1 Yn unol ag adran 30 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg, caiff cwmnïau gorffori yn Gymraeg. Fel y cyfryw, gall cwmnïau y mae eu Memorandwm Cymdeithasiad yn dweud bod eu swyddfa gofrestredig i'w lleoli yng Nghymru, ddewis cyflwyno'r dogfennau canlynol yn Gymraeg yn unig. Bydd y Cofrestrydd yn comisiynu cyfieithiad i'r Saesneg i'w roi ar y cofnod cyhoeddus ochr yn ochr â'r gwreiddiol:
10.3 Ar ben hyn, mae nifer o ffurflenni allweddol sy'n ofynnol o dan y Deddfau Cwmnïau i roi gwybod i'r Cofrestrydd am ddigwyddiadau arbennig, neu sy'n rhan o'r drefn adrodd blynyddol, ar gael ar ffurf ddwyieithog a gellir eu cyflwyno yn Gymraeg. Ar hyn o bryd, mae'r rhain yn cynnwys:
Wrth adolygu ffurflenni yn y dyfodol, byddwn yn ystyried a ddylid pennu ffurflenni ychwanegol ar ffurf ddwyieithog, gan ddibynnu ar faint o ddefnyddio sydd arnynt, a lle pennir fersiynau dwyieithog, a ddylem gynhyrchu cyfieithiad Cymraeg o'r rheoliadau sy'n dod â nhw i rym. 11. Y drefn orfodi 11.1 Rhaid i bob cwmni gyflwyno gwybodaeth statudol arbennig i'r Cofrestrydd bob blwyddyn. Y dogfennau allweddol dan sylw yw ffurflen flynyddol a chyfrifon blynyddol y cwmni, y gellir eu cyflwyno yn Gymraeg, a cheir darpariaeth o dan y Ddeddf Cwmnïau i swyddogion cwmnïau sy'n methu cydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol gael eu herlyn yn y Llys Ynadon. Yn achos swyddogion cwmni sydd â swyddfa gofrestredig yng Nghymru ac sydd am i unrhyw achos erlyn o'r fath gael ei gynnal yn Gymraeg, bydd Tŷ'r Cwmnïau'n gofalu:
12.1 Bydd Tŷ'r Cwmnïau'n mabwysiadu arddull a hunaniaeth gorfforaethol ddwyieithog wrth ddelio â'i gwsmeriaid Cymraeg neu gynhyrchu cyhoeddiadau ar eu cyfer. 13. Hunaniaeth Gorfforaethol
14.1 Bydd Tŷ'r Cwmnïau'n sicrhau:
15.1 Lle bo hysbysiadau i'r Wasg i gael eu cynnwys mewn papurau newydd wedi eu lleoli yng Nghymru, bydd Tŷ'r Cwmnïau'n cyhoeddi hysbysiadau o'r fath ar ffurf ddwyieithog. 16. Hysbysebu a chyhoeddusrwydd, hysbysiadau swyddogol 16.1 Lle bydd Tŷ'r Cwmnïau'n gosod unrhyw hysbysebion, cyhoeddusrwydd neu hysbysiadau swyddogol mewn papurau newydd wedi eu lleoli yng Nghymru, bydd yn gwneud hynny ar ffurf ddwyieithog. 17. Gweithredu a Monitro'r Cynllun 17.1 Bydd Tŷ'r Cwmnïau'n ceisio sicrhau bod mannau gweithredol yn cael digon o siaradwyr Cymraeg a chanddynt y cymwysterau priodol, er mwyn medru darparu gwasanaeth llawn drwy gyfrwng y Gymraeg. 17.2 Bydd swyddi lle mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol neu'n hanfodol yn cael eu pennu a'u dynodi fel y cyfryw wrth recriwtio i'r swyddi hynny. Gan ddibynnu ar lefel y medr sydd eisiau ar gyfer y swydd, gweithredir mesurau hyfforddi priodol, a llunnir disgrifiadau swydd yn unol â hynny. 17.3 Bydd y gwasanaethau rheoli, hyfforddi a phersonél yn gwneud yn siwr fod y rhaglen yn cael ei gweithredu a'i monitro. Lle bo nifer yr aelodau Cymraeg o'r staff yn disgyn islaw'r lefel sydd eisiau i fodloni rhwymedigaethau'r Cynllun hwn, bydd Tŷ'r Cwmnïau'n ceisio cynyddu'r nifer naill ai drwy:
18. Dysgu Cymraeg 18.1 Bydd y Pwyllgor Cymraeg yn pennu blaenoriaethau o ran hyfforddiant Cymraeg, ac yn trefnu cyrsiau a chyfryngau hyfforddi priodol eraill i hwyluso defnyddio'r Gymraeg a sicrhau lefel gwasanaeth sy'n addas. Bydd hyfforddiant o'r fath yn arwain at gymhwyster NVQ lefel 3. 18.2 Bydd unrhyw aelodau staff di-Gymraeg sy'n mynegi dymuniad am ddysgu Cymraeg yn cael eu hannog i wneud felly, a bydd y cyfleusterau sydd ar gael yn cael eu tynnu i'w sylw yn yr un ffordd â'r cyfleusterau dysgu eraill a gynigir gan Dŷ'r Cwmnïau. Gwneir trefniadau priodol i ganiatáu iddynt ddilyn cyrsiau hyfforddi/addysgiadol addas sy'n arwain at gymhwyster NVQ lefel 3. Wrth asesu anghenion hyfforddiant staff o'r fath, rhoir ystyriaeth i:
18.4 Cynigir i aelodau staff presennol sy'n siarad Cymraeg gyrsiau gloywi a chyrsiau hyfforddi eraill sydd â'r nod o wella'u gwybodaeth am yr iaith a'u gallu i'w defnyddio er lles y sefydliad. Dylai hyfforddiant o'r fath wneud yn siwr fod aelodau Cymraeg o'r staff yn gallu:
19. Recriwtio 19.1 Bydd Tŷ'r Cwmnïau:
20.1 Lle bo unrhyw wasanaethau a ddarperir gan Dŷ'r Cwmnïau yn cael eu contractio allan, bydd Tŷ'r Cwmnïau'n gwneud yn siwr fod y cytundebau neu'r trefniadau yn gyson ag amodau'r Cynllun. Sicrheir bod contractwyr sy'n gyfrifol am wasanaethau penodol yn ymwybodol o amodau'r Cynllun a'r rhwymedigaethau y mae'n eu gosod arnynt o ran darparu gwasanaethau Cymraeg. Er mwyn gweithredu'r Cynllun gyda golwg ar gontractwyr, bydd Tŷ'r Cwmnïau naill ai:
21.1 Bydd Tŷ'r Cwmnïau'n cyflwyno systemau addas ar gyfer monitro gweithrediad y Cynllun yn ogystal â'n perfformiad ein hun. Bydd yn bodloni'r ymrwymiad hwn drwy sicrhau:
21.3 Bydd Tŷ'r Cwmnïau'n mabwysiadu trefn gwynion effeithiol i ddelio ag unrhyw gwyn ynghylch gweithredu'r Cynllun. Y man cyswllt cychwynnol fydd y swyddog sy'n gyfrifol am weithrediad beunyddiol y Cynllun, gyda hawl apelio at y Prif Weithredydd os na all y person hwnnw fodloni'r cwyn. Yn y pen draw, gellir atgyfeirio'r cwyn i sylw Dyfarnydd Cwynion Annibynnol Tŷ'r Cwmnïau neu Aelod Seneddol yr etholydd unwaith y chwiliwyd pob dull a modd arall heb ddatrys y cwyn. Bydd modd hefyd i gwynwyr atgyfeirio cwynion i sylw Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Mae copi o drefn gwynion safonol Tŷ'r Cwmnïau, a ddilynir gan y drefn hon hithau, ar gael drwy wneud cais. 21.4 Bydd Tŷ'r Cwmnïau'n cyflwyno adroddiad blynyddol i Fwrdd yr Iaith Gymraeg, gan ddisgrifio'r cynnydd a wnaed yn ôl y targedau, ynghyd â gweithrediad y Cynllun a natur a nifer unrhyw gwynion a ddaeth i law ynglyn â'r ffordd y gweithredir y Cynllun. Paratoir yr adroddiad ar fformat y cytunir arno rhwng Bwrdd yr Iaith a Thy'r Cwmnïau. 22. Targedau 22.1 Bydd Tŷ'r Cwmnïau'n monitro gweithrediad y Cynllun o ran y targedau canlynol:
23.1 Er mwyn sicrhau effeithiolrwydd, rhediad llyfn a gweithrediad priodol y Cynllun, bydd Tŷ'r Cwmnïau'n gwneud yn siwr:
24.1 Bydd Tŷ'r Cwmnïau'n cyhoeddi ei berfformiad o ran gofynion y Cynllun. Cyhoeddir yn ei gylchgrawn i gwsmeriaid, "The Register", fanylion am:
25.1 Oni nodir fel arall, mae darpariaethau'r Cynllun hwn eisoes yn weithredol neu fe gânt eu gweithredu o'r dyddiad y cymeradwyir y Cynllun gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. 26. Lefel bresennol y gwasanaeth 26.1 Mae Tŷ'r Cwmnïau ar hyn o bryd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau dwyieithog wrth ddelio â chwsmeriaid sydd am gynnal eu busnes ysgrifenedig â ni yn Gymraeg. Bydd aelodau Cymraeg o'r staff yn llunio cyfieithiad cychwynnol o lythyrau a dderbynnir yn Gymraeg er mwyn prysuro darparu ateb. 26.2 Lluniwyd cytundeb lefel gwasanaeth â Gwasanaeth Cyfieithu'r Adran Masnach a Diwydiant, ein gwasanaeth cyfieithu cyfredol. Mae hyn yn sicrhau yr anfonir ateb i ohebiaeth Gymraeg o fewn y nodau amser arferol a osodwyd ar gyfer gohebiaeth arall. 26.3 Mae galwyr teleffon sydd am gynnal eu busnes yn Gymraeg yn cael eu trosglwyddo i aelodau Cymraeg o'r staff sydd â'r wybodaeth arbenigol angenrheidiol i ddelio â'r mater. 26.4 Gellir cyflwyno llawer dogfen allweddol yn Gymraeg heb fod angen cyfieithiad i'r Saesneg, ac mae ffurflenni statudol allweddol wedi eu pennu ar ffurf ddwyieithog a gellir eu llenwi yn Gymraeg. 26.5 Mae nodiadau canllaw allweddol bellach ar gael ar ffurf ddwyieithog. 26.6 Mae arwyddion ar safle'r swyddfa, yn y maes parcio ac o fewn y swyddfa ei hun ar ffurf ddwyieithog, gan roi'r un amlygrwydd i'r ddwy iaith. 27. Datblygiadau'r dyfodol 27.1 Bydd systemau cyfredol ar gyfer cynhyrchu llythyrau atgoffa, llythyrau methu-cydymffurfio a llythyrau cosb ffeilio hwyr a anfonir i gwmnïau sydd wedi dweud ei bod yn well ganddynt ddelio â ni yn Gymraeg yn cael eu gwella i ddarparu fersiynau dwyieithog o bob gohebiaeth o'r fath yn awtomatig erbyn 30 Medi 2000. 27.2 Caiff y gwasanaeth llythyrau dwyieithog safonol ei estyn yn y pen draw i bob cwmni sydd â'i swyddfa gofrestredig yng Nghymru pan ganiatâ adnoddau ailysgrifennu systemau cyfrifiadur a systemau trin allbwn presennol. Hwyrach na fydd hyn yn bosibl cyn y flwyddyn 2005. 27.3 Rhoddwyd cyfarwyddyd i'n staff ynglyn â thrin gohebiaeth Gymraeg ar 8 Rhagfyr 1998. 27.4 Cyflwynir system ar gyfer hwyluso gweithrediad y Cynllun, gan gynnwys neilltuo cyfrifoldeb i swyddog priodol, erbyn 30 Ebrill 1999. 27.5 Bydd systemau ar gyfer monitro'r ffordd y gweithredir y Cynllun yn cael eu sefydlu a'u rhoi ar waith erbyn 30 Ebrill 1999. 28. Datblygiadau parhaol 28.1 Adolygir nodiadau canllaw a'r wybodaeth arall a ddarperir yn unol ag ymrwymiadau'r Cynllun. 28.2 Ystyrir pennu fersiynau newydd o ffurflenni statudol ar ffurf ddwyieithog. (Gweler paragraff 10.3). 28.3 Bydd y drefn recriwtio'n rhoi ystyriaeth i anghenion ieithyddol unrhyw swydd benodol a hysbysebir, gan gyfeirio'n briodol at y medrau angenrheidiol. 28.4 Cynigir hyfforddiant parhaol i aelodau staff presennol sy'n siarad Cymraeg er mwyn lledu a gwella'u medrau wrth ddefnyddio'r iaith er lles Tŷ'r Cwmnïau. 29. Cyhoeddusrwydd i'r Cynllun a'r Gwasanaeth Cymraeg 29.1 Rhoir cyhoeddusrwydd i argaeledd y Cynllun yn ein cylchgrawn i gwsmeriaid "The Register", mewn nodiadau canllaw ac mewn hysbysiadau priodol i'r Wasg pan fydd y Cynllun wedi ei gymeradwyo a'i fabwysiadu. 29.2 Anfonir copïau o'r Cynllun at bob cwmni sydd wedi dweud ei bod yn well ganddynt gynnal eu busnes â ni yn Gymraeg. Bydd copïau hefyd ar gael yn rhwydd drwy'r post i unrhyw un sy'n gwneud cais, a chan ein Swyddfa Archwilio Cyhoeddus yn Nhŷ’r Cwmnïau yng Nghaerdydd. Dylai ceisiadau ysgrifenedig am gopïau, neu unrhyw gwestiynau ynglyn â'r Cynllun, gael eu cyfeirio at: Chris Lerway Tîm Polisi a Chynllunio Llawr 1af Tŷ'r Cwmnïau Ffordd y Goron Caerdydd CF14 3UZ clerway@companieshouse.gov.uk |
|||||||||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|