|
Cwestiynau Cyffredin Software Filing Beth yw Cyd-ffeilio Cyfrifon? Dull sy’n galluogi cwmnïau a’u hasiantau i gynhyrchu a chyflwyno gwahanol setiau o gyfrifon y cwmni y mae angen iddynt eu hanfon i HMRC a Thŷ’r Cwmnïau o un set o ddata yw Cyd-ffeilio Cyfrifon. Os ydych chi’n gwsmer Software Filing (h.y. yn defnyddio rhaglen meddalwedd cynhyrchu cyfrifon) bydd prif ddarparwyr y feddalwedd yn rhyddhau atebion cyfatebol dros y flwyddyn nesaf. Holwch ddarparwr eich meddalwedd am fanylion eu cynlluniau yn y maes yma. Pa fathau o gyfrifon y gallwn eu ffeilio? Gallwch gyflwyno cyfrifon llawn a chryno wedi eu heithrio rhag archwilio drwy'r dull hwn. Beth yw iXBRL? (InlineXBRL) iXBRL yw’r safon data adrodd ariannol sy’n ddarllenadwy i gyfrifiadur y mae HMRC a Thŷ’r Cwmnïau wedi ei mabwysiadu ar gyfer ffeilio cyfrifon yn electronig. A fydd y cyfrifon iXBRL yr wyf yn eu cynhyrchu ar gyfer HMRC yn dderbyniol i Dŷ’r Cwmnïau hefyd? Byddant. Mae’r holl wybodaeth sydd ei hangen ar Dŷ’r Cwmnïau yn y cyfrifon iXBRL y byddwch chi’n eu cyflwyno i HMRC. Fodd bynnag, cewch ddewis cyflwyno cyfrifon iXBRL cryno, wedi eu creu fel is-set o’r data fyddwch chi’n ei gyflwyno i HMRC os yw’ch cwmni’n gymwys i wneud hynny. A yw gofynion tagio iXBRL yr un fath ar gyfer HMRC a Thŷ’r Cwmnïau? Rhestrir yr holl wybodaeth sydd ei hangen ar Dŷ’r Cwmnïau o ran cyfrifon yn y rhestr UK GAAP a gyhoeddwyd gan HMRC. Mae’r rhestr yn nodi isafswm y gofynion tagio. Pryd caf i ffeilio cyfrifon iXBRL gyda Thŷ’r Cwmnïau? Byddwn ni mewn sefyllfa i dderbyn cyflwyniadau iXBRL o becynnau meddalwedd o haf 2010 ymlaen. Rydyn ni’n cydweithio’n agos â darparwyr meddalwedd cynhyrchu cyfrifon felly holwch ddarparwr eich meddalwedd am fanylion eu rhaglen gyflwyno. Ein nod yw sicrhau bod templed cyfrifon newydd WebFiling ar gael o hydref 2010 ymlaen. Pryd gall datblygwyr y feddalwedd ddechrau arbrofi gyda’u meddalwedd? Bydd ein gwasanaeth profi ar gael ar gyfer unrhyw ddatblygwyr meddalwedd sy’n barod i brofi dilysrwydd eu ffeiliau iXBRL ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau o wanwyn 2010 ymlaen. Pa feini prawf diogelwch sydd eu hangen arnaf er mwyn ffeilio cyfrifon gyda Thŷ’r Cwmnïau a HMRC? Bydd angen i chi ddefnyddio eich cymhwyster Porth y Llywodraeth (Government Gateway) i gyflwyno cyfrifon i HMRC. Bydd angen cod dilysu ar eich cwmni er mwyn e-ffeilio gyda Thŷ’r Cwmnïau. Bydd angen cod cyflwyno sy’n gysylltiedig â chyfrif e-ffeilio ar gwsmeriaid Software Filing. A yw Tŷ’r Cwmnïau yn bwriadu gwneud ffeilio electronig yn orfodol? Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud 100% o’n busnes yn electronig ac mae’r Ddeddf Cwmnïau newydd wedi rhoi pwerau i ni wneud e-ffeilio yn orfodol. Fodd bynnag, nid ydym yn barod i gael gwared ar y dewis ffeilio ar bapur eto, ac nid oes amserlen i gyflawni hynny ar hyn o bryd. Mae’r cyfraddau e-Ffeilio wedi tyfu’n gyflym dros y blynyddoedd diwethaf wrth i’n cwsmeriaid ddewis symud o bapur i ddulliau electronig. Eleni er enghraifft, cyflwynwyd 90% o’r ffurflenni blynyddol a’r ceisiadau corffori drwy ddulliau electronig. Wrth i’n gwasanaeth e-ffeilio aeddfedu a’r nifer o ddogfennau sy’n cael eu ffeilio ar bapur leihau, byddwn ni’n ystyried dirwyn y dewis ffeilio ar bapur i ben yn llwyr yn achos rhai o’n trafodion ffeilio, os nad pob un. Cyn dileu’r dewis o ran ffeilio ar bapur, byddwn ni’n ymgynghori â’n cwsmeriaid ac yn mynd nôl i’r senedd. |
|||