Cliciwch yma i weld fersiwn Saesneg y Llyfryn Canllaw hwn (gan agor mewn ffenestr arall)
Ymddatod ac Ansolfedd
Ionawr 2008 fersiwn 8
Cynnwys
| Cyflwyniad |
| 1. Gwybodaeth gyffredinol |
| 2. Trefniadau gwirfoddol corfforaethol (TGC), gan gynnwys moratoria TGC |
3. ‘Yn nwylo gweinyddwr’ a ‘gorchmynion gweinyddu’
Rhan 1: Achosion yn dechrau ar neu wedi 15 Medi 2003: Yn nwylo gweinyddwr
Rhan 2: Achosion yn dechrau cyn 15 Medi 2003: Gorchmynion gweinyddu |
| 4. Derbynwyr |
| 5. Ymddatod gwirfoddol |
| 6. Ymddatod gorfodol |
| 7. Gweithrediadau ansolfedd trawsffiniol Ewropeaidd |
| 8. Cwestiynau mynych |
| 9. Ansawdd dogfennau |
| 10. Gwybodaeth bellach |
| Canllaw yn unig yw hyn a dylid ei ddarllen ar y cyd â'r ddeddfwriaeth berthnasol.
|
Brig
Cyflwyniad
Mae'r llyfryn hwn yn ganllaw syml i ymddatod ac agweddau eraill ar y drefn ansolfedd. Mae'n crynhoi rhai o'r rheolau sy'n gymwys i drefniadau gwirfoddol corfforaethol, moratoria, mynd i ddwylo gweinyddwr, derbynwyr, ymddatod gwirfoddol, ymddatod gorfodol a rheoliadau’r Gymuned Ewropeaidd. Dylech chi hefyd gyfeirio at y ddeddfwriaeth berthnasol a welir yn Neddf Cwmnïau 1985 (fel y'i diwygiwyd ym 1989 ac wedyn), Deddf Ansolfedd 1986, Rheolau Ansolfedd 1986, Deddf Ansolfedd 2000, Rheolau Ansolfedd (Diwygiad) (Rhif 2) 2002, Rheoliad Cyngor (y GE) Rhif 1346/2000, Rheoliadau Ansolfedd (Diwygiad) (Rhif 2) 2002, Deddf Menter 2002 a Rheoliadau Ansolfedd (Diwygiad) 2003 (OS 1730/2003).
Mae’r trefniadau dirwyn i ben, ymddatod, ansolfedd, atal taliadau a threfniadau tebyg sy’n gymwys i CCC hefyd yn gymwys i gwmni Ewropeaidd, ‘Societas Europaea’ (SE), sydd wedi ei gofrestru ym Mhrydain Fawr. Am wybodaeth gyffredinol ynghylch cwmnïau SE, gweler ein llyfryn ‘The European Company: Societas Europaea (SE)’.
Cofiwch, os yw'ch cwmni'n ystyried ymddatod neu unrhyw gamau eraill i ddelio ag ansolfedd, dylech chi geisio cyngor proffesiynol priodol neu ymgynghori ag ymarferydd ansolfedd awdurdodedig. Dim ond ymholiadau ynglŷn â ffeilio dogfennau statudol gyda’r Cofrestrydd Cwmnïau y gallwn ni eu trin.
Brig
PENNOD 1
Gwybodaeth gyffredinol
1. Beth yw gweithrediadau ansolfedd?
Dyma'r camau ffurfiol a gymerir i ddelio â dyled cwmni. Ceir llawer math gwahanol o weithrediadau ansolfedd ar gyfer cwmnïau. Ymdrinnir â phob un ohonyn nhw yn y llyfryn hwn.
Sylwer: rhaid rhoi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau ar Ffurflen SE82(1)(b) am gychwyn neu derfynu trefniadau ansolfedd sy’n effeithio ar gwmni Ewropeaidd (SE), neu am unrhyw benderfyniad i barhau i weithredu’r SE. Mae hyn yn ychwanegol at y gofynion eraill y sonnir amdanynt yn y llyfryn hwn. Am wybodaeth bellach ynghylch cwmnïau SE, gweler ein llyfryn ‘The European Company: Societas Europaea (SE)’.
2. A yw gweithrediadau ansolfedd yn gymwys i bob math o gwmni?
Mae'r rhannau o'r llyfryn hwn sy'n ymwneud â dirwyn i ben yn orfodol a derbynwyr (gan gynnwys derbynwyr gweinyddol) yn gymwys i gwmnïau wedi eu cofrestru a heb eu cofrestru (gan gynnwys cwmnïau tramor ).
Nid yw'r rhannau o'r llyfryn hwn sy'n ymwneud â dirwyn i ben yn wirfoddol a gorchmynion gweinyddu yn gymwys i gwmnïau heb eu cofrestru, na ellir mo'u dirwyn i ben drwy'r dulliau hyn.
Os dechreuodd yr ymddatod neu'r dderbynyddiaeth cyn 29 Rhagfyr 1986, yna bydd y gyfraith a oedd mewn grym ar y pryd yn dal yn gymwys.
Cofiwch: Nid yw pob cwmni sydd wedi ymddatod yn ansolfent.
3. Oes rhaid i bob cwmni ddilyn gweithrediadau ansolfedd cyn cael ei ddiddymu?
Nac oes. Os oes gan y Cofrestrydd le i gredu nad yw cwmni'n cynnal busnes nac yn gweithredu, gall ddileu ei enw o'r gofrestr a'i ddiddymu heb fynd drwy'r drefn ymddatod. Caiff cwmni preifat nad yw'n gweithredu wneud cais i'r Cofrestrydd am i'w enw gael ei ddileu o'r gofrestr. Nid yw'r drefn hon yn ddewis arall yn lle gweithrediadau ansolfedd ffurfiol.
Mae rhagor o wybodaeth am ddileu enwau a diddymu cwmnïau i'w chael yn ein llyfryn 'Dileu o'r Gofrestr, Diddymu ac Adfer'.
4. A gaiff unrhyw un oruchwylio gweithrediadau ansolfedd?
Rhaid i bob datodydd, gweinyddwr, derbynnydd gweinyddol a goruchwylydd sydd mewn swydd ers 29 Rhagfyr 1986 neu wedyn fod yn ymarferydd ansolfedd awdurdodedig.
Does dim rhaid i reolwyr derbyn, derbynwyr y Ddeddf Cyfraith Eiddo nac enwebedigion a gaiff eu penodi i reoli moratoriwm drwy drefniadau gwirfoddol corfforaethol, fod wedi eu hawdurdodi.
Gall ymarferwyr ansolfedd gael eu hawdurdodi gan:
- Gymdeithas Siartredig y Cyfrifwyr Ardystiedig;
- Cymdeithas yr Ymarferwyr Ansolfedd;
- Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr;
- Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Iwerddon;
- Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yr Alban;
- Cymdeithas y Gyfraith;
- Cymdeithas Cyfraith yr Alban; neu
- yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwydiant a Masnach.
5. Beth sy'n digwydd i gyfarwyddwyr cwmni ansolfent?
Mae gan y datodydd, y derbynnydd gweinyddol, y gweinyddwr neu'r Derbynnydd Swyddogol ddyletswydd i gyflwyno i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio adroddiad ar ymddygiad pob cyfarwyddwr a oedd mewn swydd yn ystod y 3 blynedd olaf y buodd y cwmni'n masnachu. Rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol benderfynu a yw er lles y cyhoedd i geisio gorchymyn gwahardd yn erbyn cyfarwyddwr.
Mae'r mathau o ymddygiad y cyflwynir adroddiad arnyn nhw fynychaf yn cynnwys:
- bod y cwmni'n parhau i fasnachu er bod yn ansolfent;
- methu â chadw cofnodion cyfrifeg priodol;
- methu â pharatoi a ffeilio cyfrifon neu ddychwelyd ffurflenni i Dŷ'r Cwmnïau; a
- methu â chyflwyno ffurflenni i'r Goron neu dalu i'r Goron unrhyw dreth sy'n ddyledus.
Brig
PENNOD 2
Trefniadau gwirfoddol corfforaethol (TGC), gan gynnwys moratoria TGC
1. Beth yw trefniadau gwirfoddol corfforaethol?
Trefniadau gwirfoddol corfforaethol yw lle bo cwmni'n gwneud cytundeb â'i gredydwyr drwy gynnig 'cyfrandalu i fodloni ei ddyled' neu 'gynllun i drefnu ei faterion'. Mae hyn yn golygu trefniadau, wedi eu cymeradwyo gan y llys, lle bo'r cwmni wedi cytuno'n ffurfiol â'i gredydwyr ar delerau i glirio'i ddyledion.
2. Pwy gaiff gynnig trefniadau gwirfoddol corfforaethol?
Gall trefniadau gwirfoddol corfforaethol gael eu cynnig gan:
- y gweinyddwr, os oes gorchymyn gweinyddu;
- y datodydd, os yw'r cwmni'n cael ei ddirwyn i ben; neu
- y cyfarwyddwyr, o dan amgylchiadau eraill.
3. Pwy sy'n ystyried y cynnig?
Wrth i'r cyfarwyddwyr gynnig y trefniadau, bydd y sawl a enwebwyd i oruchwylio eu gweithredu yn cyflwyno adroddiad i'r llys, cyn pen 28 diwrnod, yn nodi a ddylid, yn ei farn ef/barn hi, alw cyfarfodydd o'r cwmni a'i gredydwyr.
4. Sut y cymeradwyir trefniadau gwirfoddol corfforaethol unwaith y cân nhw eu cynnig?
Bydd y cyfarfodydd a elwir gan y person a enwebwyd yn penderfynu p'un a ddylid cymeradwyo'r trefniadau y gellir, o dan rai cyfyngiadau, eu derbyn wedi eu haddasu neu heb eu haddasu. Byddan nhw wedyn yn cyfrwymo pob credydydd a gawsai rybudd o'r cyfarfod ac a oedd â hawl i bleidleisio. Bydd yr holl gredydwyr a gafodd rybudd o'r cyfarfod wedi eu cyfrwymo gan delerau'r trefniadau.
5. Beth sy'n digwydd pan gymeradwyir y trefniadau gwirfoddol corfforaethol?
Os bydd cyfarfodydd yr aelodau a'r credydwyr yn cymeradwyo’r trefniadau, yna daw'r sawl a enwebwyd, neu rywun yn ei (l)le, yn oruchwylydd y trefniadau.
6. Beth sydd angen ei anfon i Dŷ'r Cwmnïau?
Rhaid i'r goruchwylydd anfon copi o adroddiad cadeirydd y cyfarfod.
O leiaf unwaith bob 12 mis, rhaid i'r goruchwylydd anfon cyfrif o'r derbyniadau a'r taliadau, ynghyd ag adroddiad cynnydd, at bob buddiolydd, gan gynnwys y Cofrestrydd.
Wrth gwblhau'r trefniadau, rhaid i'r goruchwylydd roi gwybod i'r Cofrestrydd o fewn 28 diwrnod i'r cwblhad terfynol. Os caiff y trefniadau eu gohirio neu eu dileu, rhaid rhoi gwybod i'r Cofrestrydd.
Y ffurflenni priodol yw:
| Teitl y ffurflen |
Rhif |
| Adroddiad ar gyfarfod i gymeradwyo trefniadau gwirfoddol corfforaethol |
1.1 |
| Gorchymyn i ddileu neu atal trefniadau gwirfoddol corfforaethol |
1.2 |
| Crynodeb goruchwylydd y trefniadau gwirfoddol o'r derbyniadau a'r taliadau |
1.3 |
| Hysbysiad cwblhau trefniadau gwirfoddol corfforaethol |
1.4 |
Sylwer: Nid yw’r ffurflenni hyn ar gael gan Dŷ’r Cwmnïau. Gellir eu cael gan ddogfenwyr cyfreithiol neu drwy ymweld â’r wefan Ansolfedd yn http://www.insolvency.gov.uk/
7. Moratoriwm drwy drefniadau gwirfoddol corfforaethol
Cyflwynodd Deddf Ansolfedd 2000 opsiwn y moratoriwm i’r drefn wirfoddol gorfforaethol bresennol.
Y llysoedd fydd yn penderfynu a yw cwmni’n gymwys i ddilyn trefn y moratoriwm. Fel arfer, bydd y moratoriwm yn para am gyfnod o 28 diwrnod ac fe gaiff ei reoli gan rywun enwebedig, a all fod yn ymarferydd ansolfedd cofrestredig neu beidio.
Daeth Rheolau Ansolfedd (Diwygiad) (Rhif 2) 2002 i rym ar 1 Ionawr 2003, gan gyflwyno’r ffurflenni statudol canlynol y mae angen eu ffeilio gyda’r Cofrestrydd Cwmnïau:
| Teitl y ffurflen |
Rhif |
| Dechrau Moratoriwm |
1.11 |
| Estyn Moratoriwm |
1.12 |
| Terfynu Moratoriwm |
1.14 |
| Tynnu’n ôl gydsyniad y person enwebedig i weithredu |
1.16 |
| Penodi rhywun arall yn lle’r sawl a enwebwyd gyntaf |
1.18 |
Sylwer: Nid yw’r ffurflenni hyn ar gael gan Dŷ’r Cwmnïau. Gellir eu cael gan ddogfenwyr cyfreithiol neu drwy ymweld â’r wefan Ansolfedd yn http://www.insolvency.gov.uk/
Ar ddiwedd y moratoriwm, gall y cwmni fwrw ymlaen i fabwysiadu trefniadau gwirfoddol corfforaethol neu beidio.
Brig PENNOD 3
’Yn nwylo gweinyddwr’ a ‘gorchmynion gweinyddu’
Cafodd y gyfraith bresennol gyda golwg ar weinyddu ei chyflwyno ar 15 Medi 2003. Am fanylion y gyfraith flaenorol, gweler Rhan 2 o’r bennod hon. O dan y drefn newydd, fe gaiff cwmni ei ddisgrifio’n arferol fel ei fod ‘yn nwylo gweinyddwr’ – o dan yr hen drefn, fe ddywedid bod y cwmni yn ddarostyngedig i ‘orchymyn gweinyddu’. Rydym wedi defnyddio’r ddau derm hyn i ddisgrifio’r gwahanol drefniadau.
Mae’r hyn sy’n dilyn yn amlinelliad cryno o’r broses weinyddu: nid yw’n ddatganiad llawn o’r gyfraith.
Rhan 1: Achosion yn dechrau ar neu wedi 15 Medi 2003: ‘Yn nwylo gweinyddwr’
1. Beth yw ‘yn nwylo gweinyddwr’?
Gweinyddu yw pan gaiff rhywun, ‘y gweinyddwr’, ei benodi/phenodi i reoli materion, busnes ac eiddo’r cwmni er lles y credydwyr. Rhaid i’r sawl a benodir fod yn ymarferydd ansolfedd a’i statws fydd swyddog llys (p’un a gaiff ei benodi/phenodi gan y llys neu beidio).
Diben y gweinyddu fydd:
- arbed y cwmni fel busnes gweithredol;
- sicrhau gwell pris am asedion y cwmni neu, fel arall, sylweddu eu gwerth yn fwy ffafriol i’r credydwyr at ei gilydd na thrwy ddirwyn i ben (heb fynd i ddwylo gweinyddwr yn gyntaf); neu
- o dan rai amgylchiadau, sylweddu gwerth yr eiddo er mwyn trosglwyddo’r elw i un neu ragor o flaen-gredydwyr.
2. Sut mae cwmni’n mynd i ddwylo gweinyddwr?
Bydd cwmni’n mynd i ddwylo gweinyddwr wrth i benodiad gweinyddwr ddod i rym. Gellir penodi gweinyddwr:
- drwy orchymyn gweinyddu wedi ei wneud gan y llys;
- gan ddeiliad arwystl nofiol; neu
- gan y cwmni neu ei gyfarwyddwyr
Rhaid i’r gweinyddwr gyflawni ei swyddogaethau mor fuan ac effeithlon ag sy’n rhesymol ymarferol.
3. Beth yw effaith bod yn nwylo gweinyddwr ar y cwmni?
Pan fydd cwmni’n mynd i ddwylo gweinyddwr:
- bydd unrhyw ddeisebau dirwyn i ben sy’n disgwyl penderfyniad yn cael eu gwrthod neu eu hatal;
- bydd moratoriwm ar unrhyw drefniadau ansolfedd neu drefniadau cyfreithiol eraill;
- os penodwyd derbynnydd gweinyddol, rhaid iddo/iddi roi heibio i’w swydd;
- os penodwyd derbynnydd ar gyfer rhan o eiddo’r cwmni, rhaid iddo/iddi roi heibio i’w swydd (lle bo’r gweinyddwr yn mynnu felly).
4. I bwy y mae'n rhaid rhoi gwybod bod y cwmni yn nwylo gweinyddwr?
Mor fuan ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol, mae’n rhaid i weinyddwr roi gwybod am ei benodiad/phenodiad i’r cwmni ac i bob un o’i gredydwyr, gan gyhoeddi hysbysiad am y penodiad yn y Gazette ac mewn papur newydd yn yr ardal sy'n cynnwys prif le busnes y cwmni.
Beth yw'r Gazette?
Newyddiadur cofnodion swyddogol yw’r Gazette ac mae'n cynnwys amrywiol rybuddion a hysbysiadau statudol. Fe’i cyhoeddir bob dydd. Wrth sôn am y Gazette, y London Gazette a olygir yn achos cwmnïau a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr.
Caiff rhybuddion a drefnir gan y Cofrestrydd Cwmnïau ar gyfer Cymru a Lloegr eu cynnwys yn yr Atodiad i'r London Gazette sy'n rhestru Hysbysiadau Swyddogol ym maes y Gyfraith Gwmnïau ac a gyhoeddir ar ffurf microfiche. Fe welwch gopïau yn stafelloedd chwilio Tŷ'r Cwmnïau yng Nghaerdydd a Llundain. Mae copïau hefyd gan rai o'r llyfrgelloedd cyhoeddus mwyaf. Ymwelwch ag www.gazettes-online.co.uk am ragor o wybodaeth. |
Rhaid i’r gweinyddwr anfon hysbysiad am ei benodiad/phenodiad at y Cofrestrydd ar Ffurflen 2.12B.
Tra bo cwmni yn nwylo gweinyddwr, bydd yn rhaid i bob dogfen fusnes a gyhoeddir gan neu ar ran y cwmni neu’r gweinyddwr ddatgan enw’r gweinyddwr a’r ffaith ei fod/bod yn rheoli materion, busnes ac eiddo’r cwmni.
5. Beth yw cynnwys y broses weinyddu?
Bydd y gweinyddwr yn gofyn am gopi o ddatganiad o faterion y cwmni gan y bobl berthnasol (e.e. swyddog neu weithiwr i’r cwmni).
Heb fod yn hwyrach nag 8 wythnos ar ôl i’r cwmni fynd i ddwylo’r gweinyddwr, bydd rhaid i’r gweinyddwr lunio datganiad yn gosod cynigion ar gyfer cyflawni diben y gweinyddu neu’n egluro pam nad oes modd ei gyflawni. Gall y cynigion gynnwys trefniadau gwirfoddol neu gyfaddawd neu drefniadau â’r credydwyr neu’r aelodau
Rhaid anfon y datganiad sy’n gosod y cynigion at:
- Pob un o gredydwyr y cwmni, gyda gwahoddiad i ddod i gyfarfod cynta’r credydwyr os cynhelir un. Busnes cyfarfod cynta’r credydwyr fydd cymeradwyo (gydag addasiadau neu hebddynt) y datganiad cynigion. Ar ôl y cyfarfod cyntaf, gall y gweinyddwr gynnal cyfarfodydd pellach o’r credydwyr, ffurfio pwyllgor credydwyr neu ddelio â materion drwy ohebu â’r gweinyddwr a’r credydwyr.
- Pob aelod o’r cwmni, oni fydd y gweinyddwr yn ymrwymo i roi copi yn rhad ac am ddim i unrhyw aelod o’r cwmni sy’n cyflwyno cais ysgrifenedig am un. Yn yr un modd, bydd rhaid rhoi gwybod i’r aelodau am unrhyw ddiwygio i’r cynigion yn sgil cyfarfod o’r credydwyr.
Rhaid i benderfyniadau a gymerir mewn cyfarfodydd credydwyr gael eu cyfleu i’r Cofrestrydd Cwmnïau ar Ffurflen 2.23B ac i’r llys.
6. Pryd daw’r gweinyddu i ben?
Mae sawl fford y gall y gweinyddu ddod i ben.
Gall y gweinyddu ddod i ben yn awtomatig wrth i gyfnod gwasanaethu’r gweinyddwr ddod i ben. Mae penodiad gweinyddwr yn terfynu ar ôl blwyddyn. Ond fe ellir estyn hyn drwy gydsyniad y credydwyr neu’r llys. Rhaid rhoi gwybod i’r Cofrestrydd am unrhyw estyniad ar Ffurflen 2.31B.
Gall gweinyddwr a benodir o dan orchymyn llys wneud cais i’r llys am derfynu’r gweinyddiad os cred nad oes modd cyflawni diben y gweinyddu neu na ddylai’r cwmni fod wedi mynd i ddwylo gweinyddwr, neu os bydd cyfarfod o’r credydwyr yn mynnu cais o’r fath. Bydd y llys yn gollwng y gorchymyn gweinyddu a bydd rhaid i’r gweinyddwr roi gwybod i’r Cofrestrydd ar Ffurflen 2.33B.
Gall gweinyddwr a benodir gan ddeiliaid arwystl nofiol neu gan y cwmni neu ei gyfarwyddwyr derfynu’r gweinyddiad pan fydd diben y gweinyddu wedi ei gyflawni’n ddigonol. Rhaid i’r gweinyddwr hysbysu’r llys â’r Cofrestrydd ar Ffurflen 2.32B.
Gall y gweinyddu ddod i ben yn unol â chais credydwr i’r llys, yn honni cymhelliad amhriodol ar ran y sawl a benododd y gweinyddwr neu a wnaeth gais i’r llys am orchymyn gweinyddu. Rhaid i’r gweinyddwr anfon copi o’r gorchymyn, gyda Ffurflen 2.33B, at y Cofrestrydd o fewn 14 diwrnod o gyflwyno’r gorchymyn.
Gall y gweinyddu ddod i ben wrth i’r cwmni symud ymlaen i drefn dirwyn i ben yn wirfoddol gan y credydwyr. Gall hyn ddigwydd lle bo’r gweinyddwr o’r farn bod pob credydwr gwarantedig yn debyg o gael ei dalu ac y bydd dosbarthiad ymhlith y credydwyr anwarantedig os oes rhai. Rhaid i’r gweinyddwr roi gwybod i’r Cofrestrydd ar Ffurflen 2.34B, gan anfon copïau at y llys a phob credydwr. Wedyn, fe gaiff y cwmni ei ddirwyn i ben fel pe bai penderfyniad dirwyn i ben yn wirfoddol wedi ei fabwysiadu ar y diwrnod y cofrestrir rhybudd gyda’r Cofrestrydd.
Gall y gweinyddu ddod i ben wrth i’r cwmni symud ymlaen i ymddatod. Gall hyn ddigwydd lle bo’r gweinyddwr o’r farn nad oes gan y cwmni eiddo y gellid ei ddosbarthu ymhlith ei gredydwyr. Rhaid i’r gweinyddwr roi gwybod i’r Cofrestrydd ar Ffurflen 2.35B, gan anfon copïau at y llys a phob credydwr. Dri mis ar ôl dyddiad cofrestru’r ffurflen gyda’r Cofrestrydd, fe gaiff y cwmni ei ddatod, oni wneir gorchymyn, drwy gais i’r llys, i estyn neu ohirio’r cyfnod neu atal yr ymddatod. Rhaid rhoi gwybod i’r Cofrestrydd am y gorchymyn ar Ffurflen 2.36B.
7 . Pa ffurflenni y dylid eu defnyddio?
Daeth Rheolau Ansolfedd (Diwygiad) 2003 i rym ar 15 Medi 2003, gan gyflwyno ffurflenni statudol newydd i’w ffeilio gyda’r Cofrestrydd y rhestrir rhai ohonynt isod:
| Teitl y ffurflen |
Rhif |
| Hysbysiad penodi gweinyddwr |
2.12B |
| Hysbysiad datganiad amgylchiadau |
2.16B |
| Hysbysiad estyn y cyfnod |
2.18B |
| Datganiad cynigion diwygiedig y gweinyddwr |
2.22B |
| Hysbysiad canlyniadau cyfarfod credydwyr |
2.23B |
| Adroddiad cynnydd y gweinyddwr |
2.24B |
| Hysbysiad bod gweinyddiad wedi dod i ben yn awtomatig |
2.30B |
| Hysbysiad estyn cyfnod gweinyddu |
2.31B |
| Hysbysiad terfynu gweinyddiad |
2.32B |
| Hysbysiad gorchymyn llys yn terfynu gweinyddiad |
2.33B |
| Hysbysiad symud ymlaen o weinyddiad i ymddatod yn wirfoddol gan y credydwyr |
2.34B |
| Hysbysiad symud ymlaen o weinyddu i ddiddymu |
2.35B |
| Hysbysu’r Cofrestrydd Cwmnïau am y dyddiad diddymu |
2.36B |
| Hysbysiad o’r bwriad i ymddiswyddo fel gweinyddwr |
2.37B |
| Hysbysiad bod gweinyddwr wedi ymddiswyddo |
2.38B |
| Hysbysiad bod gweinyddwr wedi rhoi heibio i’w swydd |
2.39B |
| Hysbysiad penodi gweinyddwr arall/ychwanegol |
2.40B |
Sylwer: Nid yw’r ffurflenni hyn ar gael gan Dŷ’r Cwmnïau. Gellir eu cael gan ddogfenwyr cyfreithiol neu drwy ymweld â’r wefan Ansolfedd yn http://www.insolvency.gov.uk/
Nid yw ‘yn nwylo gweinyddwr’ yn gymwys i Bartneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig. Bydd Partneriaethau Ateblrwydd Cyfyngedig yn ymuno â’r drefn weinyddu o dan orchymyn gweinyddu yr hen ddull (gweler Rhan 2).
Brig
Rhan 2: Achosion yn dechrau cyn 15 Medi 2003: Gorchmynion gweinyddu
Cyn 15 Medi 2003, yr unig ffordd i ymuno â’r drefn weinyddu oedd drwy orchymyn llys i benodi gweinyddwr. Lle cafodd deiseb am orchymyn gweinyddu ei chyflwyno cyn 15 Medi 2003, mae’r hen gyfraith yn dal yn gymwys.
1. Beth oedd diben gorchymyn gweinyddu?
Ei ddiben, hwyrach, oedd:
- arbed y cyfan neu unrhyw ran o'r cwmni fel busnes gweithredol; neu
- gymeradwyo trefniadau gwirfoddol corfforaethol; neu
- ganiatáu (cytuno i) gyfaddawd neu drefniadau; neu
- sicrhau gwell pris am asedion y cwmni neu, fel arall, sylweddoli eu gwerth yn fwy ffafriol na thrwy ddirwyn i ben.
2. Beth yw dyletswyddau'r gweinyddwr?
Fel y dan y gyfraith bresennol, byddai’r gweinyddwr yn rheoli'r holl eiddo yr oedd gan y cwmni hawl iddo, neu yr ymddangosai fod ganddo hawl iddo. Byddai wedi paratoi cynigion ar gyfer gwireddu'r diben y lluniwyd y gorchymyn gweinyddu er ei fwyn ac wedi galw cyfarfod o'r credydwyr i ystyried y cynigion hynny. Os oedd mwyafrif y credydwyr yn cymeradwyo'r cynigion, byddai’r gweinyddwr wedyn yn llywio materion, busnes ac eiddo'r cwmni yn unol â'r cynigion.
3. A fyddai’r gweinyddwr yn anfon unrhyw beth arall i Dŷ'r Cwmnïau?
Byddai el ar hyn o bryd, byddai'r gweinyddwr wedi anfon manylion y cynigion at y Cofrestrydd. Byddid wedi gwneud hyn o fewn 3 mis i wneud y gorchymyn gweinyddu. Wedyn, bob 6 mis, roedd yn rhaid i'r gweinyddwr anfon cyfrif o'r derbyniadau a'r taliadau.
4. Pryd daw’r gweinyddu i ben?
Bydd yn parhau nes i'r llys ei ryddhau – mewn geiriau eraill, yn penderfynu nad oes angen y gorchymyn mwyach. Os oes gorchymyn llys i ryddhau'r gorchymyn, neu i amrywio ei delerau, rhaid i'r gweinyddwr anfon copi at y Cofrestrydd o fewn 14 diwrnod i'r gorchymyn gael ei wneud.
5. Pa ffurflenni y byddid yn eu defnyddio?
Y ffurflenni priodol yw:
| Teitl y ffurflen |
Rhif |
| Hysbysiad gorchymyn gweinyddu |
2.6 |
| Gorchymyn gweinyddu |
2.7 |
| Crynodeb y gweinyddwr o'r derbyniadau a'r taliadau |
2.15 |
| Hysbysiad rhyddhau gorchymyn gweinyddu |
2.19 |
| Hysbysiad amrywio gorchymyn gweinyddu |
2.20 |
| Datganiad o gynigion gweinyddwr |
2.21 |
| Hysbysiad canlyniadau cyfarfod credydwyr |
2.23 |
Sylwer: Nid yw’r ffurflenni hyn ar gael gan Dŷ’r Cwmnïau. Gellir eu cael gan ddogfenwyr cyfreithiol neu drwy ymweld â’r wefan Ansolfedd yn http://www.insolvency.gov.uk/
Brig
PENNOD 4
Derbynwyr
1. Beth yw derbynnydd?
Ceir llawer gwahanol fath o dderbynwyr a bydd eu pwerau'n amrywio yn ôl amodau eu penodiad.
Mae derbynnydd gweinyddol yn un sy'n derbyn neu'n rheoli'r cyfan, neu o ran sylwedd y cyfan, o eiddo'r cwmni ac a benodir gan neu ar ran deiliaid unrhyw rai o ddyledebion y cwmni, wedi eu gwarantu drwy arwystl nofiol. Bydd â'r pŵer i werthu (neu sylweddu mewn ffordd arall) yr asedion a rychwentir gan yr arwystl nofiol ac i sianelu'r elw i'r ddyled sy'n daladwy i ddeiliad yr arwystl.
Gall derbynwyr sydd heb fod yn rhai gweinyddol gael eu penodi o dan amgylchiadau eraill. Er enghraifft, o dan bwerau a gynhwysir mewn offeryn neu ddogfen sy'n creu arwystl dros eiddo'r cwmni, gellir penodi derbynnydd neu reolwr nes i'r ddyled gael ei bodloni.
Gellir penodi derbynwyr hefyd o dan Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925.
2. Pwy sy'n rhoi rhybudd o benodi derbynnydd?
Y person a benoda'r derbynnydd gweinyddol, y derbynnydd neu'r rheolwr, neu a drefna'r penodiad o dan bwerau offeryn, fydd yn gyfrifol am roi gwybod i'r Cofrestrydd o fewn 7 diwrnod i'r penodi. Mae angen Ffurflen 405(1) am bob arwystl ar wahân a gofrestrir yn Nhŷ’r Cwmnïau ac y penodir y derbynnydd drosto, p’un a wnelo’r penodiad â rhan o’r eiddo neu holl asedion y cwmni. Rhaid hefyd i dderbynnydd gweinyddol gyhoeddi hysbysiad o'i benodiad/phenodiad yn y Gazette ac mewn papur newydd priodol.
Wrth i'r derbynnydd gweinyddol, y derbynnydd neu'r rheolwr roi heibio i weithredu, rhaid rhoi gwybod i'r Cofrestrydd.
3. Beth mae'n rhaid i'r derbynnydd ei anfon i Dŷ'r Cwmnïau?
O fewn 3 mis i'w benodiad/phenodiad, rhaid i dderbynnydd gweinyddol gyflwyno adroddiad i'r canlynol:
- y Cofrestrydd;
- credydwyr y cwmni;
- deiliaid arwystl nofiol; ac
- unrhyw ymddiriedolwyr ar ran credydwyr gwarantedig y cwmni.
Rhaid i'r adroddiad egluro amgylchiadau'r penodiad a'r camau y mae'r derbynnydd gweinyddol yn eu cymryd. Rhaid i'r adroddiad gynnwys hefyd grynodeb o unrhyw 'ddatganiad amgylchiadau' a baratowyd i'r derbynnydd gan swyddogion neu weithwyr y cwmni.
Datganiad amgylchiadau
Dyma grynodeb o asedion, rhwymedigaethau a chredydwyr y cwmni. Bydd y derbynnydd gweinyddol yn penderfynu a oes angen un a phwy ddylai ei baratoi. |
Rhaid i bob derbynnydd anfon at y Cofrestrydd gyfrif o'r derbyniadau a'r taliadau ar gyfer 12 mis cynta'r dderbynyddiaeth, ac:
- yn achos derbynwyr gweinyddol, bob 12 mis wedyn;
- yn achos derbynwyr a rheolwyr, bob 6 mis wedyn.
4. Pa ffurflenni y dylid eu defnyddio?
Y ffurflenni priodol yw:
Teitl y ffurflen |
Rhif |
| Hysbysiad penodi derbynnydd neu reolwr |
405(1) |
| Hysbysiad rhoi heibio i weithredu'n dderbynnydd neu'n rheolwr |
405(2) |
| Crynodeb y derbynnydd neu'r rheolwr neu'r derbynnydd gweinyddol o'r derbyniadau a'r taliadau |
3.6 |
| Adroddiad derbynnydd gweinyddol |
3.10 |
Sylwer: Nid yw’r ffurflenni hyn ar gael gan Dŷ’r Cwmnïau. Gellir eu cael gan ddogfenwyr cyfreithiol neu drwy ymweld â’r wefan Ansolfedd yn http://www.insolvency.gov.uk/
Nodyn: Rhaid ffeilio Ffurflenni 405(1) a 405(2) ar wahân ar gyfer pob arwystl ar wahân a gaiff ei gofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau ac y penodir derbynnydd drosto a/neu y bydd derbynnydd yn rhoi heibio i weithredu yn ei gyswllt, p’un a wnelo’r penodiad â rhan o’r eiddo neu holl asedion y cwmni.
Brig PENNOD 5
Ymddatod gwirfoddol
Ceir dau fath o ymddatod gwirfoddol:
- ymddatod gwirfoddol gan yr aelodau (YGA) – sy'n golygu bod y cyfarwyddwyr wedi gwneud datganiad hydaledd ffurfiol;
- ymddatod gwirfoddol gan y credydwyr (YGC) – sy'n golygu nad yw'r cyfarwyddwyr wedi gwneud datganiad o'r fath.
1. Pryd gall y cwmni drefnu YGA?
Gall hyn ddigwydd lle bo cyfarwyddwyr y cwmni'n credu bod y cwmni'n hydal.
Rhaid i fwyafrif cyfarwyddwyr y cwmni wneud datganiad hydaledd statudol yn ystod y 5 wythnos cyn mabwysiadu penderfyniad i ddirwyn y cwmni ben – gweler cwestiwn 3. |
2. Beth sydd yn y datganiad?
Bydd y datganiad statudol yn dweud bod y cyfarwyddwyr wedi ymchwilio'n llawn i faterion y cwmni a'u bod o'r farn, wedi gwneud hynny, y bydd modd i'r cwmni dalu ei ddyledion yn llwyr o fewn 12 mis i ddechrau'r dirwyn i ben. Bydd y datganiad yn cynnwys rhestr o asedion a rhwymedigaethau'r cwmni fel yr oedden nhw ar y dyddiad ymarferol olaf cyn gwneud y datganiad.
3. Pryd y dechreua'r ymddatod mewn difrif?
Bydd yr ymddatod yn dechrau pan fo'r aelodau, mewn cyfarfod cyffredinol, yn mabwysiadu penderfyniad (Deddf Cwmnïau 1985 neu Ddeddf Cwmnïau 2006 ) (fel arfer yn benderfyniad arbennig) i ddirwyn y cwmni i ben yn wirfoddol.
Sylwer: Mae llyfryn Deddf Cwmnïau 1985 yn rhoi gwybodaeth gyffredinol a allai fod yn berthnasol o hyd i’ch cwmni.
4. Oes rhaid rhoi gwybod i rywun am yr ymddatod gwirfoddol?
Oes. Rhaid i hysbysiad o'r penderfyniad arbennig i ddirwyn y cwmni i ben yn wirfoddol gael ei gyhoeddi yn y Gazette o fewn 14 diwrnod i'r cyfarfod cyffredinol. Rhaid hefyd i'r cwmni anfon copi o'r datganiad a'r penderfyniad arbennig at y Cofrestrydd o fewn 15 diwrnod i'r cyfarfod cyffredinol.
5. Pryd gall YGC fod yn briodol?
Gall cwmni drefnu YGC pan na all dalu ei ddyledion.
6. Beth sydd rhaid i'r cwmni ei wneud?
Bydd y cwmni'n mabwysiadu penderfyniad arbennig (Deddf Cwmnïau 1985 neu Ddeddf Cwmnïau 2006) i ddweud na all barhau mewn busnes oherwydd ei rwymedigaethau ac mai'r peth doethaf fyddai dirwyn i ben.
Rhaid i'r penderfyniad:
- gael ei hysbysu yn y Gazette cyn pen 14 diwrnod; a
- chael ei anfon at y Cofrestrydd cyn pen 15 diwrnod.
Rhaid cynnal cyfarfod o'r credydwyr yn ystod y 14 diwrnod nesaf wedi mabwysiadu'r penderfyniad. Rhaid anfon rhybudd o'r cyfarfod at y credydwyr o leiaf 7 diwrnod cyn y cyfarfod. Hefyd, rhaid i'r cyfarwyddwyr baratoi datganiad amgylchiadau i'w ystyried yn y cyfarfod, gan benodi un o'u plith i fod yn bresennol a llywyddu'r cyfarfod.
Wrth benodi'r diddymydd, rhaid i'r cyfarwyddwyr roi iddo/iddi ddatganiad o'r amgylchiadau a chydweithredu ag ef/â hi mewn ffyrdd eraill.
7. Oes rhaid i'r cwmni gyhoeddi rhybudd o'r cyfarfod?
Oes. Rhaid cyhoeddi rhybudd o'r cyfarfod yn y Gazette a dau bapur newydd yn yr ardal sy'n cynnwys prif le busnes y cwmni.
8. Beth yw prif ddyletswyddau datodydd?
Penodir y datodydd i ddirwyn materion y cwmni i ben. Fe wneir hyn gan y datodydd drwy grynhoi holl asedion y cwmni a'u dosbarthu ymhlith ei gredydwyr. Os bydd rhywbeth ar ôl, bydd y datodydd yn ei ddosbarthu ymhlith aelodau'r cwmni.
9. Oes angen i ddatodydd roi gwybod i rywun am ei benodiad/phenodiad?
Oes. O fewn 14 diwrnod i gael ei benodi/phenodi, rhaid i ddatodydd gyhoeddi hysbysiad o'r penodiad yn y Gazette a rhoi gwybod i'r Cofrestrydd. Os yw'r ymddatod yn wirfoddol, rhaid hefyd i'r datodydd gyhoeddi hysbysiad mewn papur newydd yn yr ardal sy'n cynnwys prif le busnes y cwmni.
10. Beth mae'n rhaid i'r datodydd ei anfon i Dŷ'r Cwmnïau?
Rhaid i'r datodydd anfon datganiad amgylchiadau a Ffurflen 4.20 at y Cofrestrydd o fewn 7 diwrnod i gyfarfod y credydwyr.
Rhaid hefyd i'r datodydd anfon datganiad o'r derbyniadau a'r taliadau, ar ffurf ddyblyg, ar gyfer 12 mis cynta'r ymddatod. Wedi hynny, rhaid anfon datganiadau bob 6 mis nes cwblhau'r dirwyn i ben.
11. Oes modd troi YGA yn YGC?
Oes. Os penderfyna'r datodydd na fydd y cwmni'n gallu talu ei ddyledion yn llawn yn ystod y cyfnod a nodir yn natganiad hydaledd statudol y cyfarwyddwyr, rhaid iddo/iddi alw cyfarfod o'r credydwyr y bydd yn rhaid ei gynnal cyn pen 28 diwrnod. Daw'r ymddatod yn YGC o ddyddiad y cyfarfod ymlaen.
12. Beth yw'r gofynion ar gyfer rhoi rhybudd mewn achos o'r fath?
Rhaid i'r datodydd:
- bostio rhybudd o'r cyfarfod at bob credydydd o leiaf 7 diwrnod cyn dyddiad y cyfarfod;
- cyhoeddi dyddiad y cyfarfod yn y Gazette a 2 bapur newydd yn yr ardal sy'n cynnwys prif le busnes y cwmni; a
- pharatoi datganiad amgylchiadau i'w ystyried yn y cyfarfod. Rhaid anfon copi o'r datganiad at y Cofrestrydd o fewn 7 diwrnod i'r cyfarfod.
13. Beth sy'n digwydd pan gaiff materion y cwmni eu dirwyn i ben yn llawn?
Bydd y datodydd yn cyflwyno cyfrif i gyfarfodydd terfynol credydwyr ac aelodau'r cwmni. Rhaid iddo/iddi roi gwybod am y cyfarfodydd yn y Gazette o leiaf fis ymlaen llaw.
O fewn wythnos ar ôl y cyfarfod, rhaid i'r datodydd anfon y cyfrif at y Cofrestrydd gydag adroddiad ar y cyfarfod terfynol.
Oni wna'r llys orchymyn i ohirio diddymu'r cwmni, caiff ei ddiddymu 3 mis wedi cofrestru'r adroddiad a'r cyfrif yn Nhŷ'r Cwmnïau.
14. Pa ffurflenni y dylid eu defnyddio?
Y ffurflenni priodol yw:
Teitl y ffurflen |
Rhif |
| Hysbysiad penodi diddymydd o dan drefn dirwyn i ben yn wirfoddol (aelodau neu gredydwyr) |
600 |
| Datganiad amgylchiadau wrth drosi o drefn ymddatod gwirfoddol gan yr aelodau i ymddatod gan y credydwyr |
4.18 & 4.20 |
| Datganiad amgylchiadau o dan drefn ymddatod gwirfoddol gan y credydwyr |
4.19 & 4.20 |
| Datganiad y diddymydd o'r derbyniadau a'r taliadau |
4.68 |
| Datganiad hydaledd o dan drefn dirwyn i ben yn wirfoddol gan yr aelodau, gan ymgorffori datganiad o'r asedion a'r rhwymedigaethau |
4.70 |
| Adroddiad ar y cyfarfod terfynol o dan drefn dirwyn i ben yn wirfoddol gan yr aelodau |
4.71 |
| Adroddiad ar y cyfarfod terfynol o dan drefn dirwyn i ben yn wirfoddol gan y credydwyr |
4.72 |
Sylwer: Ac eithrio Ffurflen 600, nid yw’r ffurflenni hyn ar gael gan Dŷ’r Cwmnïau. Gellir eu cael gan ddogfenwyr cyfreithiol neu drwy ymweld â’r wefan Ansolfedd yn http://www.insolvency.gov.uk/
Brig
PENNOD 6
Ymddatod gorfodol
1. Beth yw 'ymddatod gorfodol'?
Ystyr datod cwmni'n orfodol yw lle gorchmynnir ei ddirwyn i ben gan y llys.
2. Pa lysoedd all orchymyn ymddatod gorfodol?
Gall yr Uchel Lys, neu lys sirol sydd â'r awdurdodaeth briodol, orchymyn i gwmni gael ei ddirwyn i ben. Gall hyn fod, er enghraifft, yn unol â deiseb credydwr neu gredydwyr ar y sail nad oes modd i'r cwmni dalu ei ddyledion.
Ystyrir bod cwmni heb allu talu ei ddyledion os bydd, er enghraifft:
- ar y cwmni fwy na £750 i gredydydd;
- credydydd yn cyflwyno i'r cwmni gais ysgrifenedig ar y ffurf benodedig (a elwir yn hawliad statudol (Ffurflen 4.1)); a
- bod y cwmni'n methu â thalu, gwarantu na chytuno i fodloni'r ddyled i foddhad rhesymol y credydydd.
Ceir amgylchiadau eraill lle'r ystyrir na all y cwmni dalu ei ddyledion. Darllenwch y ddeddfwriaeth berthnasol. |
Gall y llys hefyd orchymyn i'r cwmni gael ei ddirwyn i ben yn unol â deiseb:
- y cwmni ei hun;
- cyfarwyddwyr neu un neu ragor o aelodau'r cwmni;
- Ysgrifennydd Gwladol Adran Busnes Menter a Diwygio Rheoleiddio ;
- yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (gynt, y Bwrdd Gwarannoedd a Buddsoddi); neu
- y Derbynnydd Swyddogol.
Yn achos cwmni Ewropeaidd (SE) sydd wedi ei gofrestru ym Mhrydain Fawr, gall yr Ysgrifennydd Gwladol ddeisebu’r Llys am orchymyn dirwyn i ben ar y sail ei bod yn ymddangos nad yw’r SE â’i brif swyddfa a’i swyddfa gofrestredig, ill dwy, ym Mhrydain Fawr. Am wybodaeth bellach ynghylch cwmnïau SE, gweler ein llyfryn ‘The European Company: Societas Europaea (SE)’.
3. Oes rhaid cyhoeddi'r ddeiseb?
Oni chyfarwyddir trefniadau eraill gan y llys, rhaid i'r ddeiseb gael ei chyhoeddi yn y Gazette.
4. Beth sy'n ymddangos ar gofnod y cwmni yn Nhŷ'r Cwmnïau?
Os bydd y ddeiseb yn llwyddiannus, rhaid i'r cwmni anfon y gorchymyn dirwyn-i-ben at y Cofrestrydd yn syth ac fe gaiff ei roi ar gofnod cyhoeddus y cwmni.
Ni chyflwynir y ddeiseb ei hun i'r Cofrestrydd, felly ni fydd yn ymddangos ar y cofnodion cyhoeddus.
5. Pwy sy'n gweithredu'n ddatodydd pan wneir gorchymyn i ddirwyn y cwmni i ben?
Daw'r Derbynnydd Swyddogol yn ddatodydd pan wneir gorchymyn dirwyn-i-ben yn erbyn y cwmni, oni orchmynna'r llys fel arall.
6. Beth yw dyletswyddau'r Derbynnydd Swyddogol fel datodydd?
Mae gan y Derbynnydd Swyddogol ddyletswydd i archwilio materion y cwmni ac achosion ei fethiant. Bydd hefyd yn penderfynu p'un a ddylid galw cyfarfodydd o'r credydwyr a'r cyfranwyr (sef, y bobl hynny sy'n agored i gyfrannu at asedion y cwmni os caiff ei ddirwyn i ben) at ddibenion penodi datodydd yn ei le/lle.
Os penderfyna beidio â galw cyfarfodydd, rhaid iddo/iddi roi gwybod i'r credydwyr, y cyfranwyr a'r llys am ei benderfyniad/phenderfyniad.
Ar y llaw arall, os penderfyna alw cyfarfodydd, gellir wedyn benodi datodydd yn lle'r Derbynnydd Swyddogol. Rhaid i'r datodydd roi gwybod i'r Cofrestrydd am ei benodiad/phenodiad yn syth.
Os daw swydd y datodydd yn wag unrhyw bryd, fe ddaw'r Derbynnydd Swyddogol yn datodydd tra pery'r swydd yn wag.
7. Beth sy'n digwydd pan gwblheir y dirwyn i ben?
Wrth i'r Cofrestrydd gael hysbysiad gan y datodydd o gyfarfod terfynol y credydwyr, neu hysbysiad gan y Derbynnydd Swyddogol fod y dirwyn i ben wedi ei gwblhau, bydd yn ei gofrestru ac yn cyhoeddi iddo gael ei dderbyn yn y Gazette.
Oni chyfarwydda'r Ysgrifennydd Gwladol fel arall, caiff y cwmni ei ddiddymu 3 mis wedi cofrestru'r hysbysiad yn Nhŷ'r Cwmnïau.
Os bydd y Derbynnydd Swyddogol, gan weithredu'n ddatodydd, yn fodlon na fydd asedion sylweddadwy'r cwmni (sef, asedion y gellid ei gwerthu neu gael gwared â nhw i godi arian) yn diwallu treuliau'r dirwyn i ben ac nad oes angen ymchwilio ymhellach i faterion y cwmni, gall wneud cais i'r Cofrestrydd am i'r cwmni gael ei ddiddymu'n gynnar. Fe ddiddymir y cwmni 3 mis wedi cofrestru'r cais yn Nhŷ'r Cwmnïau. |
Brig
PENNOD 7
Gweithrediadau ansolfedd trawsffiniol Ewropeaidd
Daeth Rheoliad Cyngor (y GE) Rhif 1346/2000 i rym ar 31 Mai 2002. Mae’r Rheoliad yn uniongyrchol gymwys ac yn rhan hanfodol o gyfraith pob gwladwriaeth aelodol (ac eithrio Denmarc lle bydd deddfwriaeth gyfochrog yn gymwys). I weithredu’r Rheoliad yn y DU, bu angen gwneud rhai newidiadau cyfyngedig i Ddeddf Ansolfedd 1986 ac i’r Rheoliadau Ansolfedd.
1. Beth yw effaith y Rheoliad?
Mae’r Rheoliad yn cyfyngu’r man lle gellir cychwyn achos ansolfedd i’r wlad lle lleolir “canolfan prif fuddiannau” y dyledydd. Mae’n mynnu bod gweithrediadau ansolfedd a gychwynnir o dan y Rheoliad yn cael eu cydnabod, ac i ddatodwyr allu arfer eu pwerau, ymhob gwladwriaeth aelodol.
Y gweithrediadau ansolfedd cwmnïau perthnasol a gwmpesir gan y Rheoliad yn y DU yw –
- Dirwyn i ben o dan oruchwyliaeth y llys, neu’n ddarostyngedig iddi
- Dirwyn i ben yn wirfoddol gan y credydwyr (gyda chadarnhad y llys)
- Gweinyddu
- Trefniadau gwirfoddol corfforaethol o dan y ddeddfwriaeth ansolfedd
Nid yw’r Rheoliad yn gymwys i amgylchiadau lle’r eir i ddwylo derbynnydd – gweinyddol neu fel arall – nac i ddirwyn i ben yn wirfoddol gan yr aelodau nac i orchmynion dirwyn i ben.
O ganlyniad i’r rheoliadau, cafodd nifer o ffurflenni statudol (yn ymwneud yn bennaf â chychwyn achos ansolfedd) eu diwygio ac fe gyflwynwyd un ffurflen newydd (Ffurflen 7.20 Cadarnhad y Llys o Drefniadau Dirwyn i Ben yn Wirfoddol gan y Credydwyr).
2. Cwmnïau wedi eu corffori ym Mhrydain Fawr
Bydd gweithrediadau ansolfedd a gychwynnir yn y wlad hon yn parhau fel arfer. Ond gall gweithrediadau ansolfedd gael eu cychwyn mewn gwlad arall sy’n perthyn i’r GE os yw canolfan prif fuddiannau’r cwmni yno. Bydd cofnodion cyhoeddus cwmnïau a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr yn dangos gweithrediadau ansolfedd wedi eu cychwyn yn un o wladwriaethau aelodol eraill y GE. Dyma fydd yr unig arwydd bod gweithrediadau ansolfedd yn bwrw ymlaen dramor – ni fydd y cyfeirydd ‘L’ (am “liquidation”) yn ymddangos wrth ochr enw’r cwmni ar fynegai’r Cofrestrydd o enwau cwmnïau.
3. Cwmnïau wedi eu corffori mewn gwledydd eraill sy’n perthyn i’r GE
Gall gweithrediadau ansolfedd gael eu cychwyn yn y DU a’u llywio gan gyfraith y DU os yma y mae canolfan prif fuddiannau’r cwmni. Fel arall, gall gweithrediadau ansolfedd gael eu cychwyn mewn Gwladwriaeth Aelodol arall.
Bydd cofnodion cyhoeddus cwmnïau’r GE sydd wedi cofrestru man busnes neu gangen yng Nghymru a Lloegr yn dangos bod gweithrediadau ansolfedd wedi eu cychwyn yn un o wledydd eraill y GE. Dyma fydd yr unig arwydd bod gweithrediadau ansolfedd yn bwrw ymlaen dramor – ni fydd y cyfeirydd ‘L’ (am “liquidation”) yn ymddangos wrth ochr enw’r cwmni ar fynegai’r Cofrestrydd o enwau cwmnïau.
Gall cwmnïau’r GE sydd heb gofrestru man busnes neu gangen yng Nghymru a Lloegr gyflwyno manylion gweithrediadau ansolfedd a gychwynnwyd yn un o wledydd eraill y GE. Gellir chwilio’r dogfennau hyn ar Gofrestr Gorchmynion Ansolfedd y GE drwy gysylltu â Thŷ’r Cwmnïau ar 0303 1234 500.
4. Ble galla i gael copïau o’r ddeddfwriaeth berthnasol ynghyd â gwybodaeth bellach?
Mae copïau o Reoliad y Cyngor ac Offerynnau Statudol perthnasol y DU ar gael ar wefan y Gwasanaeth Ansolfedd (www.insolvency.gov.uk).
Dylid cyflwyno ymholiadau am y Rheoliad i Uned Bolisi’r Gwasanaeth Ansolfedd yn Policy.Unit@insolvency.gsi.gov.uk, neu ffoniwch 020 7291 6740.
Brig
PENNOD 8
Cwestiynau Mynych
Gall trefniadau ymddatod a threfniadau ansolfedd eraill fod yn faith a chymhleth. Ni all y llyfryn hwn ateb pob ymholiad ond dyma rai o’r cwestiynau a ofynnir fynychaf.
1. Oes angen imi anfon y Gorchymyn Llys sy’n penodi datodydd dros dro i Dŷ’r Cwmnïau?
Does dim rheidrwydd statudol i roi gwybod i’r Cofrestrydd am benodi datodydd dros dro. Ni all Tŷ’r Cwmnïau gofrestru’r ddogfen ar gofnod y cwmni.
2. Sut galla i ohirio dyddiad diddymu cwmni a oedd yn ddarostyngedig i achos ymddatod?
Wrth i’r Cofrestrydd dderbyn dogfennaeth derfynol y datodydd o dan adrannau 201 a 205 o Ddeddf Ansolfedd 1986, rhaid ei chofrestru’n syth. Wedi cyfnod o ryw 3 mis, fe gaiff y cwmni ei ddiddymu. Ond gall fod modd gohirio’r dyddiad y daw’r diddymu i rym.
I wneud hyn, mae’n rhaid i’r Cofrestrydd dderbyn naill ai cyfarwyddyd gohirio gan yr Ysgrifennydd Gwladol (mewn achosion datod gorfodol – ad.205) neu orchymyn llys i ohirio (mewn achosion gwirfoddol – ad.201). Dylech chi wneud cais yn syth am b’un bynnag sy’n briodol. Sylwer, er y gall fod yn bosibl estyn y cyfnod gohirio drwy wneud cais pellach, nad oes modd ei fyrhau. Dylech, felly, ddewis cyfnod y gohirio’n ofalus.
Rhaid inni dderbyn y ddogfen mewn pryd i allu ei harchwilio a’i chofrestru cyn diddymu’r cwmni.
3. Oes angen i gyfarwyddwyr sy’n ddarostyngedig i ddatodiad ffeilio cyfrifon blynyddol a ffurflen flynyddol (Ffurflen 363)?
Unwaith bod cwmni’n ymddatod a bod y dogfennau ymddatod statudol wedi eu cofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau, does dim angen ffeilio cyfrifon blynyddol na ffurflen flynyddol. Ond nes bod Tŷ’r Cwmnïau wedi derbyn hysbysiad bod yr ymddatod wedi dechrau, fe ystyrir bod y cyfrifon blynyddol a’r ffurflen flynyddol yn ddyledus o hyd.
Os bydd cwmni’n gwrthdroi’r ymddatod, a hynny drwy orchymyn llys i atal (gweler isod), ac yn cael ei adfer i’r Gofrestr Cwmnïau Byw, yna fe ddylid ffeilio’r cyfrifon blynyddol a’r ffurflenni blynyddol diweddaraf. Gallai methiant i gydymffurfio olygu bod enw’r cwmni’n cael ei ddileu o’r gofrestr.
Dylai unrhyw ymholiadau eraill ynglŷn â ffeilio cyfrifon blynyddol a ffurflenni blynyddol gael eu cyfeirio at yr Adran Gydymffurfio yn Nhŷ’r Cwmnïau drwy gysylltu â’ Thŷ’r Cwmnïau ar 0303 1234 500.
4. A fydd Tŷ’r Cwmnïau yn derbyn hysbysiad bod cyfarwyddwr wedi ymddiswyddo (Ffurflen 288b) unwaith bod cwmni wedi ymddatod?
Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn derbyn ffurflenni 288b wedi eu cwblhau’n gywir gyda golwg ar ymddiswyddiad cyfarwyddwyr hyd yn oed os yw’r cwmni wedi ymddatod.
Dylai unrhyw ymholiadau eraill ynglŷn â ffeilio ffurflenni 288b gael eu cyfeirio at yr Adran Cefnogi Archwiliad Dogfennau yn Nhŷ’r Cwmnïau drwy gysylltu â Tŷ’r Cwmnïau ar 0303 1234 500.
5. Beth sy’n digwydd wrth imi ffeilio Gorchymyn i atal datodiad?
Gall y Llys wneud Gorchymyn i atal neu roi heibio i weithrediadau dirwyn i ben, naill ai’n llwyr neu am gyfnod cyfyngedig, yn unol ag Adran 112 ac Adran 147 o Ddeddf Ansolfedd 1986.
Rhaid anfon y Gorchymyn yn ddi-oed at y Cofrestrydd i’w gynnwys yng nghofnodion y cwmni. Bydd y Cofrestrydd yn ymgorffori’r Gorchymyn i’r cofnodion cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol:
- Caiff y Gorchymyn ei hun ei roi ar gofnod cyhoeddus y cwmni. Fe’i nodir fel dogfen ‘amrywiol’ ar restr y dogfennau a ddaeth i law’r Cofrestrydd.
- Caiff yr arwydd Ymddatod ei ddileu o gofnod cyhoeddus y cwmni. Bydd chwiliwr o hyd yn gallu cael copi o’r gorchymyn dirwyn i ben. Yn ogystal, bydd modd sicrhau manylion yr ansolfedd o dan adran ansolfedd y cynhyrchion chwilio electronig.
- Unwaith bod y gorchymyn atal wedi ei gofnodi, rhaid i unrhyw gyfrifon a ffurflenni blynyddol sy’n ddyledus gael eu ffeilio, fel ar gyfer unrhyw gwmni byw a gweithredol arall. Gallai methiant i gydymffurfio olygu bod enw’r cwmni’n cael ei ddileu o’r gofrestr.
6. Mae fy ngwres canolog yn colli dŵr. Mae’r cwmni dan sylw wedi ymddatod bellach. Ydy fy ngwarant yn dal yn ddilys?
Ni all Tŷ’r Cwmnïau ateb y cwestiwn hwn. Cysylltwch â’r datodydd.
7. Sut galla i ddysgu enw datodydd cwmni unigol?
Darperir yr wybodaeth hon yn rhad ac am ddim ar wefan Tŷ’r Cwmnïau (www.companieshouse.gov.uk) neu ffoniwch 0303 1234 500.
Brig
PENNOD 9
Ansawdd dogfennau
1. Beth sy’n digwydd i’r dogfennau a anfonir i Dŷ’r Cwmnïau?
Caiff y dogfennau a’r ffurflenni a gyflwynwch i Dŷ’r Cwmnïau eu sganio i roi delwedd electronig. Wedyn, fe gaiff y dogfennau gwreiddiol eu rhoi i gadw ac fe ddefnyddir y ddelwedd electronig fel dogfen waith.
Wrth i’ch contactau busnes chwilio cofnod y cwmni, fe welan nhw’r ddelwedd electronig wedi ei hatgynhyrchu ar-lein. Felly, mae’n bwysig nid yn unig bod y wreiddiol yn ddarllenadwy ond hefyd y gall roi copi clir.
Mae’r bennod hon yn gosod ychydig o ganllawiau ansawdd i’w dilyn wrth baratoi dogfen i’w ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau.
2. Beth fydd yn digwydd os nad yw fy nogfennau’n cwrdd â’r canllawiau?
Mae adran 706 o’r Ddeddf yn caniatáu i Dŷ’r Cwmnïau wrthod dogfennau na ellir mo’u cipio’n electronig, gan roi rhybudd yn dweud pam eu bod nhw’n annerbyniol. Rhaid cyflwyno copi derbyniol o fewn 14 diwrnod i’r rhybudd (fel arall, byddwn yn ystyried bod y wreiddiol heb ei chyflwyno).
3. Sut y dylid gosod dogfennau? Rhaid i bob dogfen a gyflwynir i Dŷ’r Cwmnïau nodi mewn lle amlwg rif cofrestru’r cwmni a rhaid iddi gydymffurfio ag unrhyw ofynion a bennir gan y Cofrestrydd gyda golwg ar eglurder dogfennau.
Yn gryno, dylai dogfennau fod o faint A4, ar bapur gwyn plaen yn pwyso rhwng 80gms a 100gms, ac iddynt orffeniad di-sglein. Dylai’r testun fod yn ddu, yn glir, yn ddarllenadwy ac o ddwysedd cyson. Rhaid i lythrennau a rhifau beidio â bod yn is na 1.8mm, a rhaid i led y llinell beidio â bod yn llai na 0.25mm.
Wrth lenwi ffurflen:
- defnyddiwch inc du neu deip du;
- defnyddiwch lythrennu bras (mae rhai wynebau teip a phinnau ysgrifennu tenau cain yn rhoi copïau o ansawdd gwael);
- peidiwch ag anfon copi carbon;
- peidiwch â defnyddio matrics-argraffydd; a
- chofiwch – gall ffotogopïau roi arlliw llwyd na fydd yn sganio’n dda.
Wth lenwi dogfennau eraill, cofiwch:
- y pwyntiau a wnaed yn barod yng nghyswllt llenwi ffurflenni;
- defnyddio papur o faint A4 ac iddo ymyl hael;
- eu darparu ar ddiwyg portread (sef, â’r ymyl byrraf ar draws y brig);
- cynnwys rhif y cwmni yng nghornel ucha’r ochr dde ar y tudalen cyntaf.
Pwysig: gall inc lliw fethu ag ymddangos wrth sganio dogfen i greu delwedd. I atal hyn, defnyddiwch inc du bob amser i lenwi a llofnodi pob dogfen.
Brig
PENNOD 10
Gwybodaeth bellach
1. Ble galla i fynd i gael cymorth?
Bydd staff Tŷ'r Cwmnïau yng Nghaerdydd yn gallu'ch cynghori ar faterion cyffredinol, ond os ydych chi'n ystyried gweithrediadau ymddatod neu ansolfedd, dylech geisio cyngor ymarferydd ansolfedd neu’r Gwasanaeth Ansolfedd.
Dylai cwynion ynglŷn ag ymddygiad ymarferydd ansolfedd trwyddedig gael eu cyfeirio, yn ysgrifenedig, i:
The Insolvency Practitioners' Section
The Insolvency Service
Area 1.10
PO Box 203
21 Bloomsbury Street
Llundain
WC1B 3QW
Wedyn, byddan nhw'n anfon y gŵyn ymlaen i gorff awdurdodi’r ymarferydd.
2. Ble galla i gael ffurflenni a llyfrynnau canllaw?
Mae hwn yn un o gyfres o lyfrynnau gan Dŷ'r Cwmnïau sy'n rhoi arweiniad syml i'r Ddeddf Cwmnïau.
Mae'r ffurflenni canlynol (y soniwyd amdanyn nhw yn y llyfryn hwn) ar gael gan Dŷ'r Cwmnïau:
- 405(1) hysbysiad penodi derbynnydd neu reolwr;
- 405(2) hysbysiad rhoi heibio i weithredu'n dderbynnydd neu'n rheolwr;
- 600 hysbysiad penodi datodydd o dan drefn dirwyn i ben yn wirfoddol (aelodau neu gredydwyr); ac
- SE82(1)(b) hysbysiad cychwyn neu derfynu dirwyn i ben, ymddatod, ansolfedd neu roi heibio i drefniadau talu, a phenderfyniad i barhau i weithredu Societas Europaea (SE).
Cliciwch yma am restr o ffurflenni Ty'r Cwmnïau sydd ar gael i lawrlwytho
Ffurflenni ansolfedd yw pob ffurflen arall a enwyd yn y llyfryn hwn a dim ond gan ddogfenwyr cyfreithiol, nid Tŷ’r Cwmnïau, y gellir eu cael. Fe welir rhestr o ddogfenwyr cyfreithiol yn ‘Y Tudalennau Melyn fel arfer.
Mae ffurflenni statudol a llyfrynnau canllaw ar gael, yn rhad ac am ddim, gan Dŷ’r Cwmnïau. Y ffordd gyflymaf i’w sicrhau yw drwy’r wefan hon neu drwy ffonio 0303 1234 500. Os bydd yn well gennych, cewch ysgrifennu at ein Hadrannau Deunydd Ysgrifennu yng Nghaerdydd neu Gaeredin.
3. Sut dylwn i anfon gwybodaeth at y Cofrestrydd?
- Dylai dogfennau, gan gynnwys gorchmynion llys, ddangos enw cywir a rhif cofrestru’r cwmni lle bo hynny’n briodol.
- Dim ond os darparwch chi amlen stampiedig yn dangos eich cyfeiriad dychwelyd y bydd Tŷ’r Cwmnïau yn cydnabod derbyn.
- Dylech chi ddarparu dogfennau ar ddiwyg portread (sef, â’r ymyl byrraf ar draws y brig).
Gallwch chi gyflwyno dogfennau â llaw (yn bersonol neu drwy negesydd), gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa, dros wyliau banc a thros y penwythnos i Gaerdydd neu Lundain.
Gallwch chi hefyd gyflwyno dogfennau drwy’r post neu drwy’r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau.
Os anfonwch chi ddogfennau ansolfedd drwy'r post, byddwch cystal â’u cyfeirio at:
Yr Adran Ymddatod
Tŷ'r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd CF14 3UZ
DX33050 Caerdydd 1
Sylwer: Nid yw Tŷ'r Cwmnïau yn derbyn cyfrifon na dogfennau statudol eraill dros beiriant ffacs. |
Brig
|