Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Amdanon Ni

Ein prif swyddogaethau Ac Hanes
Bwrdd a Rheolwyr Tŷ'r Cwmnau
Cyflenwi Tŷ'r Cwmnau
Llyfrgell
Canllaw
Cyfathrebu yn Gymraeg
Amrywiol
Dogfennau Polisi


Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig
Dirwyn i Ben - GBLLP3
Tachwedd 2007- Fersiwn 6

Cyflwyniad

 
Cyflwyniad
1. Gwybodaeth gyffredinol am ansolfedd
2. Trefniadau gwirfoddol

3. 'Yn nwylo Gweinyddydd' a 'Gorchmynion gweinyddu'
Rhan 1: Achosion yn dechrau ar neu wedi 1 Hydref 2005
Rhan 2: Achosion yn dechrau cyn 1 Hydref 2005

4. Derbynwyr
5. Ymddatod gwirfoddol
6. Ymddatod gorfodol
7. Dileu o’r gofrestr a diddymu’n wirfoddol
8. Partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig sydd wedi darfod
9. Adfer i’r gofrestr
10. Gwybodaeth bellach

Canllaw yn unig yw’r llyfryn hwn a dylid ei ddarllen ar y cyd â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Cyflwyniad

Mae’r llyfryn hwn yn arweiniad i’r drefn ar gyfer dirwyn eich partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig i ben neu ei dileu o’r gofrestr. Mae’n crynhoi rhai o’r rheolau sy’n gymwys i drefniadau gwirfoddol, yn nwylo gweinyddodd a  gorchmynion gweinyddu, derbynwyr, ac ymddatod yn wirfoddol ac yn orfodol. Ymdrinia hefyd â sut a pham y caiff partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig eu dileu o’r gofrestr a’u diddymu.

Mae’r llyfryn hefyd yn delio â sut, o dan amgylchiadau arbennig, y gellir adfer eich partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig i’r gofrestr.

Cofiwch, os yw’ch partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn ystyried ymddatod neu unrhyw gamau eraill i ateb ansolfedd, y dylech chi geisio cyngor proffesiynol priodol neu ymgynghori ag ymarferydd ansolfedd awdurdodedig.

Fe welwch chi’r gyfraith berthnasol yn Neddf Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2000, Rheolau Ansolfedd 1986 a Rheoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2001 sy’n cymhwyso rhannau o Ddeddf Cwmnïau 1985 (fel y’i diwygiwyd ym 1989 ac wedyn) a Deddf Ansolfedd 1986 at bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig.

Brig
PENNOD 1
Gwybodaeth gyffredinol am ansolfedd

1 Beth yw gweithrediadau ansolfedd?

Dyma’r camau ffurfiol a gymerir i ddelio â dyledion partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig. Ceir llawer math gwahanol o weithrediadau ansolfedd ar gyfer partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig. Ymdrinnir â phob un ohonyn nhw yn y llyfryn hwn.

2 Oes rhaid i bob partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ddilyn gweithrediadau ansolfedd cyn cael ei diddymu?

Nac oes. Os oes gan y Cofrestrydd le i gredu nad yw partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cynnal busnes nac yn gweithredu, gall ddileu ei henw o’r gofrestr a’i diddymu heb fynd drwy’r drefn ymddatod. Caiff partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig nad yw’n gweithredu gwneud cais i’r Cofrestrydd am i’w henw gael ei ddileu o’r gofrestr. Nid yw’r drefn hon yn ddewis arall yn lle gweithrediadau ansolfedd ffurfiol.

Mae rhagor o wybodaeth am ddileu o’r Gofrestr a diddymu partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig i’w chael ym mhennod 7 o’r llyfryn hwn.

3 A gaiff unrhyw un oruchwylio gweithrediadau ansolfedd?

Rhaid i bob diddymydd, gweinyddydd, derbynnydd gweinyddol a goruchwylydd sydd mewn swydd ar neu wedi 29 Rhagfyr 1986 fod yn ymarferydd ansolfedd awdurdodedig.

Does dim rhaid i reolwyr derbyn na derbynwyr o dan y Ddeddf Cyfraith Eiddo fod wedi eu hawdurdodi.

Gall ymarferwyr ansolfedd gael eu hawdurdodi gan:

  • Gymdeithas Siartredig y Cyfrifwyr Ardystiedig;
  • Cymdeithas yr Ymarferwyr Ansolfedd;
  • Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr;
  • Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Iwerddon;
  • Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yr Alban;
  • Cymdeithas y Gyfraith;
  • Cymdeithas Cyfraith yr Alban; neu
  • yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio.

4 Beth sy’n digwydd i aelodau partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sy’n ansolfent?

Mae gan y diddymydd, y derbynnydd gweinyddol, y gweinyddydd neu’r Derbynnydd Swyddogol ddyletswydd i gyflwyno i’r Ysgrifennydd Gwladol adroddiad ar ymddygiad pob aelod a oedd mewn swydd yn ystod y tair blynedd olaf y buodd y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn masnachu. Rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol benderfynu a yw er lles y cyhoedd i geisio gorchymyn gwahardd yn erbyn aelod.

Mae’r mathau o ymddygiad y cyflwynir adroddiad arnyn nhw fynychaf yn cynnwys:

  • bod y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn parhau i fasnachu er bod yn ansolfent;
  • methu â chadw cofnodion cyfrifeg priodol;
  • methu â pharatoi a ffeilio cyfrifon neu ddychwelyd ffurflenni i Dŷ’r Cwmnïau; a
  • methu â chyflwyno ffurflenni i’r Goron neu dalu i’r Goron unrhyw dreth sy’n ddyledus.
Brig 
PENNOD 2

Trefniadau gwirfoddol

1 Beth yw trefniad gwirfoddol?

Trefniad gwirfoddol yw lle bo partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn gwneud cytundeb â’i chredydwyr drwy gynnig ‘cyfrandalu i fodloni ei dyled’ neu ‘gynllun i drefnu ei materion’. Mae hyn yn golygu trefniad, wedi ei gymeradwyo gan y llys, lle bo’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig wedi cytuno’n ffurfiol â’i chredydwyr ar delerau i glirio’i dyledion.

2 Pwy gaiff gynnig trefniad gwirfoddol?

Gall trefniad gwirfoddol gael ei gynnig gan:

  • y gweinyddydd, os oes gorchymyn gweinyddu;
  • y diddymydd, os yw’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cael ei ddirwyn i ben; neu
  • y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ei hun, o dan amgylchiadau eraill.

3 Pwy sy’n ystyried y cynnig?

Pan fydd y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ei hun yn cynnig y trefniad, bydd y sawl a enwebwyd i oruchwylio ei weithredu yn cyflwyno adroddiad i’r llys, cyn pen 28 diwrnod, yn nodi a ddylid, yn ei farn ef/barn hi, alw cyfarfod o’r credydwyr. Pan fydd y gweinyddydd neu’r diddymydd yn cynnig y cytundeb, bydd y sawl a enwebwyd yn cyflwyno adroddiad yn dweud a ddylid galw cyfarfod o’r aelodau a chyfarfod o gredydwyr y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.

4 Sut y cymeradwyir trefniad gwirfoddol unwaith y cân nhw ei gynnig?

Bydd y cyfarfod a elwir gan y person a enwebwyd yn penderfynu p’un a ddylid cymeradwyo’r trefniad gwirfoddol y gellir, o dan rai cyfyngiadau, ei dderbyn wedi ei addasu neu heb ei addasu. Rhaid cytuno ar unrhyw addasiadau gyda’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig. Bydd y trefniadau wedyn yn cyfrwymo pob credydydd a gawsai rybudd o’r cyfarfod ac a oedd â hawl i bleidleisio. Bydd yr holl gredydwyr a gafodd rybudd o’r cyfarfod wedi eu cyfrwymo gan delerau’r trefniad.

5 Beth sy’n digwydd pan gymeradwyir y trefniad?

Os bydd cyfarfod o’r credydwyr yn cymeradwyo trefniad gwirfoddol, yna daw’r sawl a enwebwyd, neu rywun yn ei (l)le, yn oruchwylydd y trefniad.

6 Beth sydd angen ei anfon i Dŷ’r Cwmnïau?

Rhaid i’r goruchwylydd anfon copi o adroddiad cadeirydd y cyfarfod.

O leiaf unwaith bob 12 mis, rhaid i’r goruchwylydd anfon cyfrif o’r derbyniadau a’r taliadau, ynghyd ag adroddiad cynnydd, at bob buddiolydd, gan gynnwys y Cofrestrydd.

Wrth gwblhau’r trefniad, rhaid i’r goruchwylydd roi gwybod i’r Cofrestrydd o fewn 28 diwrnod i’r cwblhad terfynol. Os caiff y trefniad ei ohirio neu ei ddileu, rhaid rhoi gwybod i’r Cofrestrydd.

Y ffurflenni priodol yw:

Teitl y ffurflen
Rhif
Adroddiad am gyfarfod yn cymeradwyo trefniad gwirfoddol
Gorchymyn dirymu neu atal trefniad gwirfoddol
Crynodeb goruchwylydd y trefniad gwirfoddol o’r derbyniadau a’r taliadau
Hysbysiad cwblhau trefniad gwirfoddol

Sylwer: nid yw’r ffurflenni hyn ar gael gan Dŷ’r Cwmnïau. Gellir eu cael gan ddogfenwyr cyfreithiol.


Brig 

PENNOD 3
‘Yn nwylo gweinyddydd’ a ‘gorchmynion gweinyddu’

Daeth y gyfraith bresennol ynglŷn â gweinyddu i rym ar 1 Hydref 2005, yn unol ag Offeryn Statudol 2005 Rhif 1989, Rheoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Diwygiad) 2005. Am fanylion y gyfraith flaenorol, gweler Rhan 2  o’r bennod hon. O dan y drefn newydd, caiff partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ei ddisgrifio fel un sydd ‘yn nwylo’r gweinyddydd’ – o dan yr hen drefn, dywedid bod partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn ddarostyngedig i ‘orchymyn gweinyddu’. Rydym wedi defnyddio’r ddau derm hyn i ddisgrifio’r ddwy drefn wahanol.

Mae’r hyn sy’n dilyn yn amlinelliad cryno o’r broses weinyddu: nid yw’n ddatganiad cyflawn o’r gyfraith.

Rhan 1: Achosion yn dechrau ar neu wedi 1 Hydref 2005: ‘Yn nwylo’r gweinyddydd’

1. Beth yw ‘yn nwylo’r gweinyddydd’?

Ystyr bod yn nwylo gweinyddydd yw pan gaiff rhywun, ‘y gweinyddydd’, ei benodi/phenodi i reoli materion, busnes ac eiddo’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig er lles y credydwyr.

Rhaid i’r sawl a benodir fod yn ymarferydd ansolfedd a bydd iddo/iddo statws swyddog llys (p’un a gafodd ei benodi/phenodi gan y llys neu beidio).

Diben y gweinyddu yw:

  • arbed y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig fel busnes gweithredol;
  • sicrhau gwell pris am asedion y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig neu, fel arall, sylweddu eu gwerth yn fwy ffafriol i’r credydwyr yn eu crynswth na thrwy ddirwyn y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig i ben (heb iddi’n gyntaf fod yn nwylo’r gweinyddydd); neu
  • o dan rai amgylchiadau, sylweddu gwerth yr eiddo er mwyn ei drosglwyddo i un neu ragor o gredydwyr rhagorfreiniol .

2. Sut bydd y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn mynd i ddwylo’r gweinyddydd?

Aiff y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig i ddwylo’r gweinyddydd wrth i benodiad y gweinyddydd ddod i rym. Gellir penodi gweinyddydd drwy:

  • orchymyn gweinyddu wedi ei wneud gan y llys;
  • deiliad arwystl nofiol; neu
  • aelodau’r bartneriaeth.

Rhaid i’r gweinyddydd gyflawni ei swyddogaethau mor fuan ac effeithiol ag sy’n rhesymol ymarferol.

3. Beth yw’r canlyniadau pan fo partneriaeth yn nwylo’r gweinyddydd?

Pan aiff y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig i ddwylo’r gweinyddydd:

  • bydd unrhyw ddeisebau dirwyn i ben sy’n aros dyfarniad yn cael eu gollwng o law neu eu hatal;
  • bydd moratoriwm ansolfedd ac yng nghyswllt gweithrediadau cyfreithiol eraill;
  • os penodwyd derbynnydd gweinyddu, rhaid iddo/iddo roi heibio i’w swydd;
  • os penodwyd derbynnydd ar gyfer rhan o eiddo’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, rhaid iddo/iddo roi heibio i’w swydd (os yw’r gweinyddydd yn mynnu).

4. I bwy y mae’n rhaid rhoi gwybod bod y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn nwylo’r gweinyddydd?

Cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol, mae’n rhaid i weinyddydd gyflwyno hysbysiad am ei benodiad/phenodiad i’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ei hun ac i bob un o’i chredydwyr, a hefyd cyhoeddi hysbysiad am ei benodiad/phenodiad yn y Gazette ac mewn papur newydd yn yr ardal lle mae prif le busnes y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.

Beth yw’r Gazette?

Cyhoeddir y Gazette gan Wasg Ei Mawrhydi ac mae’n cynnwys amrywiol rybuddion a hysbysiadau statudol. Fe’i cyhoeddir bob dydd. Wrth sôn am y Gazette, y London Gazette a olygir yn achos partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr.

Caiff rhybuddion a drefnir gan y Cofrestrydd Cwmnïau ar gyfer Cymru a Lloegr eu cynnwys yn yr Atodiad i’r London Gazette sy’n rhestru Hysbysiadau Swyddogol ym maes y Gyfraith Gwmnïau ac a gyhoeddir ar ffurf microfiche. Fe welwch chi gopïau yn stafelloedd chwilio Tŷ’r Cwmnïau a restrir yng nghefn y llyfryn hwn (ac eithrio rhai’r Alban). Mae copïau hefyd gan rai o’r llyfrgelloedd cyhoeddus mwyaf.

Rhaid i’r gweinyddydd gyflwyno hysbysiad am ei benodiad/phenodiad i’r Cofrestrydd ar Ffurflen 2.12B.

Tra bo’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn nwylo’r gweinyddydd, bydd yn rhaid i bob dogfen fusnes a roir gan y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig neu ar ei rhan neu gan y gweinyddydd nodi enw’r gweinyddydd a’i fod/bod yn rheoli materion, busnes ac eiddo’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.

5. Beth mae’r broses weinyddu yn ei olygu?

Bydd y gweinyddydd yn mynnu datganiad o faterion y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig gan bobl berthnasol (e.e. swyddog neu weithiwr i’r bartneriaeth).

Nid hwyrach nag 8 wythnos ar ôl i’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig fynd i ddwylo’r gweinyddydd, mae’n rhaid i’r gweinyddydd wneud datganiad yn nodi cynigion i wireddu diben y gweinyddu neu’n esbonio pam nad oes modd ei wireddu. Gall y cynigion gynnwys trefniadau gwirfoddol neu gyfaddawd neu drefniadau gyda chredydwyr neu aelodau.

Rhaid anfon y datganiad sy’n nodi’r cynigion at:

  • y Cofrestrydd Cwmnïau;
  • pob un o gredydwyr y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig gyda gwahoddiad i ddod i gyfarfod cychwynnol o’r credydwyr os cynhelir un. Busnes cyfarfod cychwynnol y credydwyr fydd cymeradwyo (gyda neu heb addasiadau) y datganiad cynigion. Yn sgil y cyfarfod cychwynnol, gall y gweinyddydd:
  • gynnal cyfarfodydd pellach o’r credydwyr, ffurfio pwyllgor credydwyr, neu ddelio â materion drwy ohebiaeth â’r credydwyr;
  • pob aelod o’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, oni bai bod y gweinyddydd yn ymrwymo i roi copi’n rhad ac am ddim i unrhyw aelod o’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sy’n gwneud cais ysgrifenedig am un. Yn yr un modd, rhaid rhoi gwybod i’r aelodau am bob rhyw ddiwygio ar y cynigion ar ôl cyfarfod o’r credydwyr.

Rhaid rhoi gwybod am benderfyniadau a gaiff eu cymryd mewn cyfarfodydd o’r credydwyr i’r Cofrestrydd ar Ffurflen 2.23B ac i’r llys.

6. Pryd y daw’r gweinyddu i ben?

Mae sawl ffordd y gall y gweinyddu dod i ben.

Gall y gweinyddu dod i ben yn awtomatig ar ddiwedd tymor penodiad y gweinyddydd. Daw penodiad y gweinyddydd i ben ar ôl blwyddyn. Ond gellir estyn hyn drwy gydsyniad y credydwyr neu’r llys. Rhaid rhoi gwybod am unrhyw estyn i’r Cofrestrydd ar Ffurflen 2.31B.

Caiff gweinyddydd a benodwyd o dan orchymyn llys wneud cais i’r llys am roi terfyn ar y gweinyddu os cred nad oes modd gwireddu diben y gweinyddu neu na ddylsai’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig fod wedi mynd i ddwylo gweinyddydd, neu fod cyfarfod o’r credydwyr yn mynnu cais o’r fath. Bydd y llys yn gollwng y gorchymyn gweinyddu o law a rhaid i’r gweinyddydd roi gwybod i’r Cofrestrydd ar Ffurflen 2.33B.

Caiff gweinyddydd a benodwyd gan ddeiliaid arwystl nofiol neu gan aelodau’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig roi terfyn ar y gweinyddu wrth i ddiben y gweinyddu cael ei wireddu’n ddigonol. Rhaid i’r gweinyddydd ffeilio hysbysiad gyda’r llys a chyda’r Cofrestrydd ar Ffurflen 2.32B.

Gall y gweinyddu dod i ben wrth i gredydydd wneud cais i’r llys yn honni cymhelliad amhriodol ar ran y sawl a benododd y gweinyddydd neu a wnaeth gais i’r llys am orchymyn gweinyddu. Rhaid i’r gweinyddydd anfon copi o’r gorchymyn gyda Ffurflen 2.33B at y Cofrestrydd o fewn 14 diwrnod i’r gorchymyn gael ei wneud.

Gall y gweinyddu dod i ben wrth i’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig symud ymlaen i ddirwyn i ben yn wirfoddol drwy gais y credydwyr. Gall hyn ddigwydd lle bo’r gweinyddydd yn credu bod pob credydydd gwarantedig yn debyg o gael ei dalu/thalu ac y gwneir dosbarthiad ymhlith y credydwyr sydd heb eu gwarantu, os oes rhai. Rhaid i’r gweinyddydd roi gwybod i’r Cofrestrydd ar Ffurflen 2.34B;, gan anfon copïau i’r llys a phob credydydd. Yna, fe gaiff y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ei dirwyn i ben fel pe bai penderfyniad i ddirwyn i ben yn wirfoddol wedi cael ei fabwysiadu ar y diwrnod y cofrestrwyd hysbysiad gyda’r Cofrestrydd.

Gall y gweinyddu dod i ben wrth i’r bartneriaeth symud ymlaen i ymddiddymu. Gall hyn ddigwydd os cred y gweinyddydd nad oes gan y bartneriaeth eiddo i’w ddosbarthu ymhlith ei chredydwyr. Rhaid i’r gweinyddydd roi gwybod i’r Cofrestrydd ar Ffurflen 2.35B, gan anfon copïau i’r llys a phob credydydd. Dri mis ar ôl dyddiad cofrestru’r ffurflen gyda’r Cofrestrydd, caiff y bartneriaeth ei diddymu oni bai bod gorchymyn yn cael ei wneud, drwy gyflwyno cais i’r llys, am estyn neu ohirio’r cyfnod neu atal y diddymu. Rhaid rhoi gwybod i’r Cofrestrydd am y gorchymyn ar Ffurflen 2.36B.

7. Pa ffurflenni y dylid eu defnyddio?

Ar 1 Hydref 2005, yn unol ag Offeryn Statudol 2005 Rhif 1989, Rheoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Diwygiad) 2005, cyflwynwyd ffurflenni statudol newydd i’w ffeilio gyda’r Cofrestrydd, y rhestrir rhai ohonynt isod.

Teitl y ffurflen
Rhif
Hysbysu penodi gweinyddydd
Hysbysu datganiad materion
Hysbysu estyn cyfnod
Datganiad o gynigion diwygiedig y gweinyddydds
Hysbysu canlyniad cyfarfod credydwyr
Adroddiad cynnydd y gweinyddydd
Hysbysu bod y gweinyddu’n dod i ben yn awtomatig
Hysbysu estyn cyfnod y gweinyddu
Hysbysu diwedd y gweinyddu
Hysbysu gorchymyn llys yn dod â’r gweinyddu i ben
Hysbysu symud ymlaen o weinyddu i ymddatod yn wirfoddol drwy gais y credydwyr
Hysbysu symud ymlaen o weinyddu i ddiddymu
Hysbysu i’r Cofrestrydd Cwmnïau am ddyddiad y diddymu
Hysbysu bwriad i ymddiswyddo fel gweinyddydd
Hysbysu ymddiswyddiad y gweinyddydd
Hysbysu bod y gweinyddydd wedi rhoi heibio i’w swydd
Hysbysu penodi gweinyddydd newydd/ychwanegol

Sylwer: Nid yw’r ffurflenni hyn ar gael gan Dŷ’r Cwmnïau. Gellir eu cael gan ddogfenwyr cyfreithiol.

Rhan 2: Achosion yn dechrau cyn 1 Hydref 2005: Gorchmynion gweinyddu

Cyn 1 Hydref 2005, yr unig ffordd i fynd i ddwylo gweinyddydd oedd drwy orchymyn llys i benodi gweinyddydd. Lle bo cais am orchymyn gweinyddu wedi ei gyflwyno cyn 1 Hydref 2005, mae’r hen gyfraith yn dal yn gymwys.

1 Beth yw gorchymyn gweinyddu?

Dyma orchymyn llys a wneir i benodi gweinyddydd i reoli materion y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.

2 Beth yw diben gorchymyn gweinyddu?

Ei ddiben, hwyrach, fydd:

  • arbed y cyfan neu unrhyw ran o’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig fel busnes gweithredol;
  • neugymeradwyo trefniadau gwirfoddol y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig; neu
  • ganiatáu (cytuno i) gyfaddawd neu drefniadau; neu
  • sicrhau gwell pris am asedion y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig neu, fel arall, sylweddu eu gwerth yn fwy ffafriol na thrwy ddirwyn i ben.

3 Beth yw effaith y gorchymyn?

Tra bo gorchymyn gweinyddu mewn grym, ni ellir dirwyn y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig i ben na phenodi derbynnydd gweinyddol neu, os penodwyd un yn flaenorol, rhaid iddo/i roi’r gorau i’w swydd. Ceir cyfyngiadau ar orfodi unrhyw warant dros eiddo’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig gwerthu unrhyw nwyddau a chychwyn unrhyw achos cyfreithiol. Rhoir rhagor o fanylion am dderbynwyr ym mhennod 4.

4 Pryd gall y llys wneud gorchymyn gweinyddu?

Gall y llys wneud gorchymyn gweinyddu lle bo’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn methu â thalu ei dyledion, neu’n debygol o fethu â gwneud, a bod y llys o’r farn y gellid cyrraedd un o’r amcanion a amlinellwyd uchod drwy wneud gorchymyn gweinyddu.

5 Pwy gaiff wneud cais am orchymyn gweinyddu?

Gellir gwneud hyn gan y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ei hun, neu un neu ragor o’i chredydwyr, gan gynnwys unrhyw gredydwyr digwyddiadol (presennol) neu ddarpar gredydwyr. Rhaid i’r gweinyddydd a benodir o dan y gorchymyn roi gwybod am y gorchymyn i’r Cofrestrydd.

6 I bwy y mae’n rhaid i weinyddydd roi gwybod am ei b/phenodiad?

Rhaid i weinyddydd:

  • gyhoeddi’r gorchymyn yn y Gazette ac yn y papur newydd sydd fwyaf priodol o ran sicrhau bod y gorchymyn yn dod i sylw credydwyr y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig; ac
  • anfon copi o orchymyn y llys at y Cofrestrydd gyda Ffurflenni 2.6 a 2.7.

7 Beth yw dyletswyddau’r gweinyddydd?

Bydd y gweinyddydd yn rheoli’r holl eiddo y mae gan y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig hawl iddo, neu yr ymddengys fod ganddi hawl iddo. Bydd yn paratoi cynigion ar gyfer gwireddu’r diben y lluniwyd y gorchymyn gweinyddu er ei fwyn ac yn galw cyfarfod o’r credydwyr i ystyried y cynigion hynny. Os bydd mwyafrif y credydwyr yn cymeradwyo’r cynigion, bydd y gweinyddydd wedyn yn llywio materion, busnes ac eiddo’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn unol â’r cynigion.

8 Oes angen i’r gweinyddydd anfon unrhyw beth arall i Dŷ’r Cwmnïau?

Oes. Rhaid i’r gweinyddydd anfon manylion y cynigion o fewn tri mis i wneud y gorchymyn.

Wedyn, bob chwe mis, rhaid i’r gweinyddydd anfon cyfrif o’r derbyniadau a’r taliadau.

9 Pa mor hir y bydd gorchymyn gweinyddu’n parhau?

Bydd yn parhau nes i’r llys ei ryddhau – mewn geiriau eraill, yn penderfynu nad oes angen y gorchymyn mwyach.

Os oes gorchymyn llys i ryddhau’r gorchymyn, neu i amrywio ei delerau, rhaid i’r gweinyddydd anfon copi at y Cofrestrydd o fewn 14 diwrnod i’r gorchymyn gael ei wneud.

10 Pa ffurflenni y dylid eu defnyddio?

Y ffurflenni priodol yw:

Teitl y ffurflen
Number
Hysbysu gorchymyn gweinyddu      
Gorchymyn gweinyddu
Crynodeb y gweinyddydd o’r derbyniadau a’r taliadau
Hysbysu rhyddhau gorchymyn gweinyddu
Hysbysu amrywio cynigion y gweinyddydd
Datganiad o gynigion y gweinyddydd
Hysbysu canlyniad cyfarfod credydwyr

Brig 
PENNOD 4
Derbynwyr

1 Beth yw derbynnydd?

Mae dau fath o dderbynwyr a bydd eu pwerau’n amrywio yn ôl amodau eu penodiad.

Mae derbynnydd gweinyddol yn un sy’n derbyn neu’n rheoli’r cyfan, neu o ran sylwedd y cyfan, o eiddo’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ac a benodir gan neu ar ran deiliaid unrhyw rai o ddyledebion y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig wedi eu gwarantu drwy arwystl nofiol. Bydd â’r pŵer i werthu (neu sylweddu mewn ffordd arall) yr asedion a rychwentir gan yr arwystl nofiol ac i sianelu’r elw i’r ddyled sy’n daladwy i ddeiliad yr arwystl.

Gall derbynwyr sydd heb fod yn rhai gweinyddol gael eu penodi o dan amgylchiadau eraill. Er enghraifft, o dan bwerau a gynhwysir mewn offeryn neu ddogfen sy’n creu arwystl dros eiddo’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ,gellir penodi derbynnydd neu reolwr nes i’r ddyled gael ei bodloni. Gellir penodi derbynwyr hefyd o dan Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925.

2 Pwy sy’n rhoi rhybudd am benodi derbynnydd?

Y person a benoda’r derbynnydd gweinyddol, y derbynnydd neu’r rheolwr, neu a drefna’r penodiad o dan bwerau offeryn, fydd yn gyfrifol am roi gwybod i’r Cofrestrydd o fewn saith diwrnod i’r penodi. Rhaid hefyd i dderbynnydd gweinyddol gyhoeddi hysbysiad o’i b/phenodiad yn y Gazette ac mewn papur newydd priodol.

Wrth i’r derbynnydd gweinyddol, y derbynnydd neu’r rheolwr roi heibio i weithredu, rhaid rhoi gwybod i’r Cofrestrydd.

3 Beth mae’n rhaid i’r derbynnydd ei anfon i Dŷ’r Cwmnïau?

O fewn tri mis i’w b/phenodiad, rhaid i dderbynnydd gweinyddol gyflwyno adroddiad i bawb o’r canlynol:

  • y Cofrestrydd;
  • credydwyr y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig;
  • deiliaid arwystl nofiol; ac
  • unrhyw ymddiriedolwyr ar ran credydwyr gwarantedig y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.

Datganiad amgylchiadau

Dyma grynodeb o asedion, rhwymedigaethau a chredydwyr y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig. Bydd y derbynnydd gweinyddol yn penderfynu a oes angen un a phwy ddylai ei baratoi.

Rhaid i’r adroddiad egluro amgylchiadau’r penodiad a’r camau y mae’r derbynnydd gweinyddol yn eu cymryd. Rhaid i’r adroddiad gynnwys hefyd grynodeb o unrhyw ‘ddatganiad amgylchiadau’ a baratowyd i’r derbynnydd gan swyddogion neu weithwyr y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.

Rhaid i bob derbynnydd anfon at y Cofrestrydd gyfrif o’r derbyniadau a’r taliadau ar gyfer 12 mis cynta’r dderbynyddiaeth, ac:

  • yn achos derbynwyr gweinyddol, bob 12 mis wedyn;
  • yn achos derbynwyr a rheolwyr, bob 6 mis wedyn.

4 Pa ffurflenni y dylid eu defnyddio?

Y ffurflenni priodol yw:

Teitl y ffurflen
Rhif
Hysbysu penodi derbynnydd neu reolwr
Hysbysu rhoi heibio i weithredu’n dderbynnydd neu’n rheolwr
Crynodeb y derbynnydd neu’r rheolwr neu’r derbynnydd gweinyddol o’r derbyniadau a’r taliadau
Adroddiad derbynnydd gweinyddol


Brig

PENNOD 5Ymddatod gwirfoddol

Ceir dau fath o ymddatod gwirfoddol:

  • ymddatod gwirfoddol gan yr aelodau (YGA) – sy’n golygu bod yr aelodau dynodedig wedi gwneud datganiad hydaledd ffurfiol;
  • ymddatod gwirfoddol gan y credydwyr (YGC) – sy’n golygu nad yw’r aelodau dynodedig wedi gwneud datganiad o’r fath.

1 Pryd gall y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig drefnu YGA?

Gall hyn ddigwydd lle bo’r aelodau dynodedig yn credu bod y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn hydal.

Rhaid i fwyafrif aelodau dynodedig y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig wneud datganiad hydaledd statudol yn ystod y pum wythnos cyn y dyddiad y penderfynodd y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig y dylai gael ei dirwyn i ben, neu ar y dyddiad ei hun ond cyn gwneud y penderfyniad – gweler cwestiwn 3.


2 Beth sydd yn y datganiad?

Bydd y datganiad statudol yn dweud bod yr aelodau dynodedig wedi ymchwilio’n llawn i faterion y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig a’u bod o’r farn, wedi gwneud hynny, y bydd modd iddi dalu ei dyledion yn llwyr o fewn 12 mis i ddechrau’r dirwyn i ben. Bydd y datganiad yn cynnwys rhestr o asedion a rhwymedigaethau’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig fel yr oedden nhw ar y dyddiad ymarferol olaf cyn gwneud y datganiad.

3 Pryd y dechreua’r ymddatod mewn difrif?

Bydd yr ymddatod yn dechrau pan fo’r aelodau yn penderfynu dirwyn y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig i ben. Bydd cytundeb y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig fel arfer yn nodi ym mha ffordd y gwneir penderfyniad o’r fath. Os nad oes darpariaeth felly, fe wneir y penderfyniad gan fwyafrif o’r aelodau.

4 Oes rhaid rhoi gwybod i rywun am yr ymddatod gwirfoddol?

Oes. Rhaid i hysbysiad o’r penderfyniad i ddirwyn y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig i ben yn wirfoddol gael ei gyhoeddi yn y Gazette  o fewn 14 diwrnod i wneud y penderfyniad. Rhaid hefyd i’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig anfon copi o’r datganiad a’r penderfyniad at y Cofrestrydd o fewn 15 diwrnod i’r dyddiad y penderfynodd y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig y dylai gael ei dirwyn i ben.

5 Pryd gall YGC fod yn briodol?

Gall partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig drefnu YGC pan na all dalu ei dyledion.

6 Beth sydd rhaid i’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ei wneud?

Bydd ei haelodau’n penderfynu na all y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig barhau mewn busnes oherwydd ei rhwymedigaethau ac mai’r peth doethaf fyddai dirwyn i ben. Bydd cytundeb y bartneriaeth atebobwydd cyfyngedigfel arfer yn nodi ym mha ffordd y gwna’r bartneriaeth atebobwydd cyfyngedig benderfyniad o’r fath. Os nad oes darpariaeth felly, fe wneir y penderfyniad gan fwyafrif o’r aelodau.

Rhaid i’r penderfyniad:

  • gael ei hysbysu yn y Gazette cyn pen 14 diwrnod; a
  • chael ei anfon at y Cofrestrydd cyn pen 15 diwrnod.

Rhaid cynnal cyfarfod o’r credydwyr yn ystod y 14 diwrnod nesaf wedi mabwysiadu’r penderfyniad i ddirwyn i ben. Rhaid anfon rhybudd o’r cyfarfod at y credydwyr o leiaf saith diwrnod cyn y cyfarfod. Hefyd, rhaid i’r aelodau dynodedig baratoi datganiad amgylchiadau i’w ystyried yn y cyfarfod, gan benodi un o’u plith i fod yn bresennol a llywyddu’r cyfarfod.

Wrth benodi’r diddymydd, rhaid i’r aelodau dynodedig roi iddo/i ddatganiad o’r amgylchiadau a chydweithredu ag ef/â hi mewn ffyrdd eraill.

7 Oes rhaid i’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig gyhoeddi rhybudd o’r cyfarfod?

Oes. Rhaid cyhoeddi rhybudd o’r cyfarfod yn y Gazette a dau bapur newydd yn yr ardal sy’n cynnwys prif le busnes y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.

8 Beth yw prif ddyletswyddau diddymydd?

Penodir y diddymydd i ddirwyn materion y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig i ben. Fe wneir hyn gan y diddymydd drwy grynhoi holl asedion y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig a’u dosbarthu ymhlith ei chredydwyr. Os bydd rhywbeth ar ôl, bydd y diddymydd yn ei ddosbarthu ymhlith aelodau’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.

9 Oes angen i ddiddymydd roi gwybod i rywun am ei b/phenodiad?

Oes. O fewn 14 diwrnod i gael ei b/phenodi, rhaid i ddiddymydd gyhoeddi hysbysiad o’r penodiad yn y Gazette a rhoi gwybod i’r Cofrestrydd. Os yw’r ymddatod yn wirfoddol, rhaid hefyd i’r diddymydd gyhoeddi hysbysiad mewn papur newydd yn yr ardal sy’n cynnwys prif le busnes y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.

10 Beth mae’n rhaid i’r diddymydd ei anfon i Dŷ’r Cwmnïau?

Rhaid i’r diddymydd anfon datganiad amgylchiadau a Ffurflen 4.20 at y Cofrestrydd o fewn saith diwrnod i gyfarfod y credydwyr.

Rhaid hefyd i’r diddymydd anfon datganiad  o’r derbyniadau a’r taliadau ar gyfer 12 mis cynta’r ymddatod. Wedi hynny, rhaid anfon datganiadau bob chwe mis nes cwblhau’r dirwyn i ben.

11 Oes modd troi YGA yn YGC?

Oes. Os penderfyna’r diddymydd na fydd y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn gallu talu ei dyledion yn llawn yn ystod y cyfnod a nodir yn natganiad hydaledd statudol yr aelodau dynodedig, rhaid iddo/i alw cyfarfod o’r credydwyr y bydd yn rhaid ei gynnal cyn pen 28 diwrnod. Daw’r ymddatod yn YGC o ddyddiad y cyfarfod ymlaen.

12 Beth yw’r gofynion ar gyfer rhoi rhybudd mewn achos o’r fath?

Rhaid i’r diddymydd:

  • bostio rhybudd o’r cyfarfod at bob credydydd o leiaf saith diwrnod cyn dyddiad y cyfarfod;
  • cyhoeddi dyddiad y cyfarfod yn y Gazette a dau bapur newydd yn yr ardal sy’n cynnwys prif le busnes y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig; a
  • pharatoi datganiad amgylchiadau i’w ystyried yn y cyfarfod. Rhaid anfon copi o’r datganiad at y Cofrestrydd o fewn saith diwrnod i’r cyfarfod.

13 Beth sy’n digwydd pan gaiff materion y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig eu dirwyn i ben yn llawn?

Bydd y diddymydd yn cyflwyno cyfrif i gyfarfodydd terfynol credydwyr ac aelodau’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig. Rhaid iddo/i roi gwybod am y cyfarfodydd yn y Gazette o leiaf fis ymlaen llaw.

O fewn wythnos ar ôl y cyfarfod, rhaid i’r diddymydd anfon y cyfrif at y Cofrestrydd gydag adroddiad ar y cyfarfod terfynol.

Oni wna’r llys orchymyn i ohirio diddymu’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ,caiff ei diddymu tri mis wedi cofrestru’r adroddiad a’r cyfrif yn Nhŷ’r Cwmnïau.

14 Pa ffurflenni y dylid eu defnyddio?

Y ffurflenni priodol yw:

Teitl y ffurflen
Rhif
Hysbysu penodi diddymydd o dan drefn dirwyn i ben yn wirfoddol (aelodau neu gredydwyr)
Datganiad amgylchiadau o dan drefn ymddatod gwirfoddol gan y credydwyr
Datganiad amgylchiadau o dan drefn ymddatod gwirfoddol gan y credydwyr
Datganiad y diddymydd o’r derbyniadau a’r taliadau
Datganiad hydaledd o dan drefn dirwyn i ben yn wirfoddol gan yr
aelodau, gan ymgorffori datganiad o’r asedion a’r rhwymedigaethau
Adroddiad am y cyfarfod terfynol o dan drefn dirwyn i ben yn wirfoddol gan yr aelodau     
Adroddiad am y cyfarfod terfynol o dan drefn dirwyn i ben yn wirfoddol gan y credydwyr   

Brig 

PENNOD 6
Ymddatod gorfodol

1 Beth yw ‘ymddatod gorfodol’?

Ystyr ymddatod partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn orfodol yw lle gorchmynnir ei dirwyn i ben gan y llys.

2 Pa lysoedd all orchymyn ymddatod gorfodol?

Gall yr Uchel Lys, neu lys sirol sydd â’r awdurdodaeth briodol, orchymyn i bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig gael ei dirwyn i ben. Gall hyn fod, er enghraifft, yn unol â deiseb credydydd neu gredydwyr ar y sail nad oes modd i’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig dalu ei dyledion.


Gall y llys hefyd orchymyn i’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig gael ei dirwyn i ben yn unol â deiseb:

3 Oes rhaid cyhoeddi’r ddeiseb?

Oni chyfarwyddir trefniadau eraill gan y llys, rhaid i’r ddeiseb gael ei chyhoeddi yn y Gazette.

4 Beth sy’n ymddangos ar gofnod y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn Nhŷ’r Cwmnïau?

Os bydd y ddeiseb yn llwyddiannus, rhaid i’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig anfon y gorchymyn dirwyn-i-ben at y Cofrestrydd yn syth ac fe gaiff ei roi ar gofnod cyhoeddus y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.

Ni chyflwynir y ddeiseb ei hun i’r Cofrestrydd, felly ni fydd yn ymddangos ar y cofnodion cyhoeddus.

5 Pwy sy’n gweithredu’n ddiddymydd pan wneir gorchymyn i ddirwyn y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig i ben?

Daw’r Derbynnydd Swyddogol yn ddiddymydd pan wneir gorchymyn dirwyn-i-ben yn erbyn y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, oni orchmynna’r llys fel arall.

6 Beth yw dyletswyddau’r Derbynnydd Swyddogol fel diddymydd?

Mae gan y Derbynnydd Swyddogol ddyletswydd i archwilio materion y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ac achosion ei methiant.

Bydd hefyd yn penderfynu p’un a ddylid galw cyfarfodydd o’r credydwyr a’r cyfranwyr (sef, y bobl hynny sy’n debygol o gyfrannu at asedion y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig os caiff ei dirwyn i ben) at ddibenion penodi diddymydd yn ei l(l)e Os penderfyna beidio â galw cyfarfod, rhaid iddo/i roi gwybod i’r credydwyr, y cyfranwyr a’r llys am ei b/phenderfyniad.

Ar y llaw arall, os penderfyna alw cyfarfod, gellir wedyn benodi diddymydd yn lle’r Derbynnydd Swyddogol. Rhaid i’r diddymydd roi gwybod i’r Cofrestrydd am ei b/phenodiad yn syth.

Os daw swydd y diddymydd yn wag unrhyw bryd, fe ddaw’r Derbynnydd Swyddogol yn ddiddymydd tra pery’r swydd yn wag.

7 Beth sy’n digwydd pan gwblheir y dirwyn i ben?

Wrth i’r Cofrestrydd gael hysbysiad gan y diddymydd o gyfarfod terfynol y credydwyr, neu hysbysiad gan y Derbynnydd Swyddogol fod y dirwyn i ben wedi ei gwblhau, bydd yn ei gofrestru ac yn cyhoeddi iddo gael ei dderbyn yn y Gazette.

Oni chyfarwydda’r Ysgrifennydd Gwladol fel arall, caiff y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ei diddymu tri mis wedi cofrestru’r hysbysiad yn Nhŷ’r Cwmnïau.


Brig 

PENNOD 7
Dileu o’r gofrestr a diddymu’n wirfoddol

1 Pwy all wneud cais am i enw partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig gael ei ddileu o’r gofrestr?

Gall partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig preifat nad yw’n masnachu gwneud cais i’r Cofrestrydd am gael ei dileu o’r gofrestr. Gellir gwneud hyn os nad oes angen y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig mwyach. Er enghraifft, efallai y bydd yr aelodau dynodedig gweithredol am ymddeol a bod neb arall ar gael i gymryd yr awenau o’u dwylo; neu os yw’n is-gwmni nad oes angen ei enw mwyach; neu os cafodd ei sefydlu i fanteisio ar syniad na throes yn ymarferol.

Nid yw’r drefn yn ddewis arall yn lle gweithrediadau ansolfedd ffurfiol lle bo’r rheiny’n briodol, gan fod credydwyr yn debygol o atal y dileu (gweler cwestiynau 4 a 7). Hyd yn oed lle caiff y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ei dileu a’i diddymu, gallai credydwyr ac eraill wneud cais am iddi gael ei hadfer i’r gofrestr (gweler pennod 9).

Gall partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig wneud cais am i’w henw gael ei ddileu os nad yw,yn ystod y tri mis blaenorol:

  • wedi masnachu na gwneud busnes mewn ffordd arall;
  • wedi newid ei henw;
  • wedi cael gwared, am werth cyfatebol, ag unrhyw eiddo neu hawliau a ddaliai i’w gwerthu neu am elw fel rhan o drefn naturiol ei busnes neu ei masnach yn union cyn rhoi heibio i gynnal busnes neu fasnach (er enghraifft, ni allai partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig oedd yn gwerthu afalau fel busnes barhau i werthu afalau yn ystod y cyfnod hwnnw o dri mis, ond gallai werthu’r lori a ddefnyddid gynt i gludo’r afalau neu’r warws lle caent eu storio); neu
  • wedi cymryd rhan mewn unrhyw weithgarwch arall, ac eithrio gweithgarwch yr oedd ei angen neu a oedd yn gyfleus er mwyn gwneud cais am ddileu o’r gofrestr, trefnu materion y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig neu fodloni gofynion statudol (er enghraifft, caiff partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig geisio cyngor proffesiynol ynglŷn â’r cais, talu costau copïo Ffurflen LLP652a, ac ati). Fodd bynnag, gall partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig wneud cais am i’w henw gael ei ddileu os buodd iddi fodloni dyledion masnachu neu fusnes yn ystod y tri mis blaenorol.

Ni all partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig wneud cais am i’w henw gael ei ddileu os yw’n destun, neu’n destun arfaethedig:

  • i unrhyw weithrediadau ansolfedd (megis ymddatod, gan gynnwys lle cyflwynwyd deiseb na chafodd ei thrin eto); neu
  • gynllun Adran 425 (sef, cyfaddawd neu drefniadau rhwng partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig  a’i chredydwyr).

2 Beth ddylwn i ei wneud cyn gwneud cais?

Mae’r drefn yn cynnwys darpariaeth i ddiogelu rhai y mae diddymiad y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn debygol o effeithio arnyn nhw. Os oes gan eich partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig gredydwyr, fe’ch cynghorir i rybuddio pawb a restrir yng nghwestiwn 4 cyn gwneud cais, am fod modd i unrhyw un o’r rheiny wrthwynebu dileu’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig o’r gofrestr. Dylid tacluso unrhyw fanion – megis cau cyfrif banc y bartneriaeth– cyn gwneud cais.

Mae’n ddoeth hefyd i roi gwybod i unrhyw gorff neu barti arall a all fod â buddiant ym materion y bartneriaeth, atebolrwydd cyfyngedig fel arall fe allen nhw wrthwynebu’r cais yn nes ymlaen. Mae enghreifftiau’n cynnwys awdurdodau lleol, yn enwedig os oes ar y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig rwymedigaeth yng nghyswllt caniatâd cynllunio neu faterion yn ymwneud ag iechyd a diogelwch, cynghorau hyfforddiant a menter, ac asiantaethau’r llywodraeth.

O ddyddiad y diddymu ymlaen, bydd unrhyw asedion a ddelir gan bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig a gafodd ei diddymu yn perthyn i’r Goron – gweler pennod 8, cwestiwn 5. Caiff cyfrif banc y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ei rewi ac fe drosglwyddir unrhyw gredyd sydd yn y cyfrif i’r Goron.

3 Sut dylwn i wneud cais?

Dylech chi ofyn i’r Cofrestrydd am Ffurflen LLP652a.

Rhaid i’r ffurflen gael ei llofnodi a’i dyddio gan:

  • ddau aelod dynodedig; neu
  • y mwyafrif, os oes mwy na dau.

Rhaid ichi roi enw, cyfeiriad a rhif teleffon y person y dylai Tŷ’r Cwmnïau gysylltu ag ef/â hi ynglŷn â’r cais. Wedyn, dylech chi anfon y ffurflen a gwblhawyd, gyda’r ffi o £10, at:

Y Cofrestrydd Cwmnïau
Tŷ’r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Maendy
Caerdydd CF14 3UZ

Gwnewch y siec yn daladwy i “Tŷ’r Cwmnïau”, gan nodi rhif y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ar y cefn.

4 Pwy mae’n rhaid imi roi gwybod iddyn nhw?

O fewn saith diwrnod i anfon Ffurflen LLP652a at y Cofrestrydd, mae’n rhaid ichi roi copïau ohoni i’r canlynol:

  • credydwyr, gan gynnwys pob credydydd digwyddiadol (presennol) a darpar gredydydd (un tebygol), megis banciau, cyflenwyr, cyn-weithwyr y mae ar y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig arian iddyn nhw, landlordiaid, tenantiaid (er enghraifft, lle mae bond i gael ei ad-dalu), gwarantwyr a hawlwyr anaf personol. Hefyd, rhaid rhoi gwybod i swyddfeydd priodol Cyllid a Thollau EM (HMRC)*, a’r Adran Gwaith a Phensiynau os ceir rhwymedigaethau dyledus, rhai digwyddiadol neu ddarpar rwymedigaethau; 
  • gweithwyr;
  • rheolwyr neu ymddiriedolwyr unrhyw gronfa bensiwn i weithwyr; ac
  • unrhyw aelodau na lofnodwyd y ffurflen ganddyn nhw.

* Ffurfiwyd Cyllid a Thollau EM (HMRC) ar 18 Ebrill 2005, yn dilyn cydsoddiad Cyllid y Wlad ac Adrannau Tollau Tramor a Chartref EM.

Lle daw rhywun yn gredydydd wedi’r cais, rhaid anfon copi o’r ffurflen ato yntau/ati hithau cyn pen saith diwrnod i hynny ddigwydd.

Rhaid i bob partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sydd wedi cofrestru at ddibenion TAW roi gwybod i’r swyddfa TAW berthnasol (Deddf Cyllid 1985).

5 Sut dylwn i roi gwybod i’r bobl berthnasol?

Dylid cyflwyno iddynt gopi o Ffurflen LLP625a , neu ei bostio iddynt neu ei adael yn:

  • y cyfeiriad hysbys diwethaf (os unigolyn); neu
  • y brif swyddfa/swyddfa gofrestredig (os cwmni neu bartneriaeth).

NODYN: I roi gwybod i gredydwyr sydd â mwy nag un man busnes, rhaid ichi anfon copïau o’r ffurflen i bob man busnes lle buodd y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cynnal trafodion yng nghyswllt y dyledion cyfredol (er enghraifft, y gangen y buodd ichi archebu nwyddau oddi wrthi neu a yrrodd anfoneb atoch), neu adael copïau yno. Fe’ch cynghorir i gadw rhyw brawf o’r cyflwyno neu’r postio.


6 Sut y cofrestrir y ffurflen?

Bydd y Cofrestrydd yn gwirio’r ffurflen ac, os bydd yn dderbyniol, fe gaiff ei rhoi ar gofnod cyhoeddus y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig. Anfonir nodyn cydnabod i’r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen. Rhoir gwybod i’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig hefyd yng nghyfeiriad ei swyddfa gofrestredig, fel y gall wrthwynebu os yw’r cais yn ffug.

7 Beth sy’n digwydd wrth i’r Cofrestrydd dderbyn cais ar Ffurflen LLP652a?

Bydd y Cofrestrydd yn cyhoeddi rhybudd yn y London Gazette  yn rhoi gwybod am y bwriad i ddileu o’r gofrestr ac yn gwahodd gwrthwynebiadau. Os na wêl reswm dros wneud fel arall a bod y cais heb ei dynnu’n ôl, bydd y Cofrestrydd yn dileu enw’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig o’r gofrestr nid llai na thri mis wedi dyddiad y rhybudd hwnnw. Caiff y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ei diddymu wrth i’r Cofrestrydd gyhoeddi rhybudd i’r perwyl hwnnw yn y Gazette . (Adeg y dileu, anfonir llythyr at y sawl a enwyd fel cyswllt ar Ffurflen LLP625a, gan gadarnhau dyddiad arfaethedig y diddymu.)


Gall unrhyw un a geir yn euog o’r tramgwyddau hyn gael ei (h)anghymhwyso hefyd rhag bod yn gyfarwyddwr am hyd at 15 mlynedd. 

8 Beth os bydda i’n newid fy meddwl ac am dynnu fy nghais yn ôl?

Rhaid i’r aelodau dynodedig dynnu’r cais yn ôl drwy ddefnyddio Ffurflen LLP652c os paid partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig â bod yn gymwys i’w dileu o’r gofrestr. Gall hyn fod oherwydd bod y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig :

  • yn masnachu neu’n gwneud busnes mewn ffordd arall;
  • yn newid ei henw;
  • yn cael gwared, am werth cyfatebol, ag unrhyw eiddo neu hawliau ar wahân i rai yr oedd eu hangen arni er mwyn gwneud neu fwrw ymlaen â’r cais (er enghraifft, gall partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig fynd ymlaen â’r cais os bydd yn gwerthu teleffon a gedwid ganddi i ddelio ag ymholiadau ynglŷn â’i chais);
  • yn dod yn destun gweithrediadau ansolfedd ffurfiol neu’n gwneud cais o dan Adran 425 (cyfaddawd neu drefniadau rhwng partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig a’i chredydwyr);
  • yn dilyn unrhyw weithgarwch arall, onid oedd hwnnw’n angenrheidiol neu’n gyfleus er mwyn: gwneud neu fwrw ymlaen â chais am ddileu o’r gofrestr; rhoi terfyn ar y materion hynny sydd heb eu bodloni oherwydd yr hyn a fuodd yn angenrheidiol neu’n gyfleus i wneud neu fwrw ymlaen â chais (megis talu costau rhedeg swyddfa tra’n cwblhau ei materion ac yna gwerthu’r swyddfa’n derfynol); neu gydymffurfio â gofynion statudol.

Gall unrhyw aelod dynodedig lenwi a llofnodi Ffurflen LLP652c.  Rhaid anfon y ffurflen i Dŷ’r Cwmnïau.

9 Oes eisiau imi anfon ffi gyda Ffurflen 652a?

Mae ffi o £10 yn daladwy i fodloni cost darparu’r gwasanaeth. Nid ad-delir y ffi os caiff y cais ei wrthod neu ei dynnu’n ôl wedi ei gofrestru. Bydd ffi arall i’w thalu am gais newydd.  Rhaid gwneud unrhyw sieciau’n daladwy i “Tŷ’r Cwmnïau”, gan nodi rhif y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ar y cefn.

10 A gaiff unrhyw un wrthwynebu’r diddymu?

Caiff unrhyw fudwyr wrthwynebu.

11 Sut a pham y cân nhw wrthwynebu?

Rhaid i wrthwynebiadau fod yn ysgrifenedig a chael eu hanfon at y Cofrestrydd Cwmnïau, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth ategol, megis copïau o anfonebau a all brofi bod y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn masnachu. Mae rhesymau dros wrthwynebu’n cynnwys:

  • bod y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig wedi torri unrhyw un o amodau ei chais (er enghraifft, ei bod wedi masnachu, newid ei henw neu fynd yn destun gweithrediadau ansolfedd) yn ystod y cyfnod o dri mis cyn y cais, neu wedyn;
  • bod yr aelodau dynodedig heb roi gwybod i fudwyr;
  • bod unrhyw un o ddatganiadau’r ffurflen heb fod yn wir;
  • bod rhyw fath o gamau’n cael eu cymryd, neu yn yr arfaeth, i adennill unrhyw arian dyledus (er enghraifft, deiseb dirwyn i ben neu weithrediadau mewn llys mân hawliadau);
  • bod gweithrediadau cyfreithiol eraill ar y gweill yn erbyn y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig;
  • bod yr aelodau dynodedig wedi masnachu ar gam, neu wedi cyflawni twyll treth neu ryw dramgwydd arall.
Brig 

PENNOD 8
Partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig sydd wedi darfod

1 A gaiff y Cofrestrydd ddileu enw partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig o’r gofrestr?

Caiff, os nad yw’n dilyn busnes nac yn gweithredu. Gall y Cofrestrydd fod o’r farn hon, er enghraifft:

  • os na chafodd gan y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ddogfennau y dylsid fod wedi eu hanfon ato; neuos buodd i eitemau a anfonodd drwy’r post i swyddfa gofrestredig y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig gael eu dychwelyd heb eu dosbarthu.

Cyn i’r Cofrestrydd ddileu partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig  o’r gofrestr, rhaid iddo holi a yw’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn dal i wneud busnes neu i weithredu. Os bydd yn fodlon nad yw, bydd yn cyhoeddi yn y London Gazette rybudd o’i fwriad i ddileu enw’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig Rhoir copi o’r rhybudd ar gofnod cyhoeddus y bartneriaeth. Os na wêl reswm dros wneud fel arall, bydd y Cofrestrydd yn dileu enw’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig heb fod yn llai na thri mis wedi dyddiad y rhybudd. Caiff y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig  ei diddymu wrth gyhoeddi rhybudd pellach i’r perwyl hwnnw yn y Gazette. Ar ddyddiad y diddymu, bydd unrhyw asedion a ddelir gan bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig a gafodd ei diddymu yn perthyn i’r Goron - gweler cwestiwn 5 . Caiff cyfrif banc y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ei rewi ac fe drosglwyddir unrhyw gredyd sydd yn y cyfrif i’r Goron.

2 Sut galla i osgoi’r camau hyn?

Os yw’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig i aros ar y gofrestr, mae’n bwysig ymateb yn brydlon i unrhyw lythyr ymholi ffurfiol oddi wrth y Cofrestrydd, gan gyflwyno unrhyw ddogfennau dyledus. Gall methiant i gyflwyno’r dogfennau angenrheidiol hefyd arwain at erlyn yr aelodau dynodedig.

3 Ga’ i wrthwynebu?

Bydd y Cofrestrydd yn cymryd i ystyriaeth sylwadau’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ac unrhyw fudwyr eraill megis credydwyr.

4 Sut bydd bwriad y Cofrestrydd i ddileu enw’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn ymddangos yn y London Gazette?

Mewn Atodiad i’r London Gazette ar gyfer Hysbysiadau Swyddogol ym maes y Gyfraith Gwmnïau, cyhoeddir rhybuddion wythnosol ar ffurf microfiche. Gellir cael copïau gan The London Gazette, PO Box 7923, London SE1 5ZH, gwefan: www.gazettes-online.co.uk, ffôn: 020 7394 4517

5 Beth sy’n digwydd i asedion partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig a ddiddymwyd?

O ddyddiad y diddymu ymlaen, bydd unrhyw asedion a ddelir gan bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig a gafodd ei diddymu yn rhai bona vacantia.  Mae hyn yn golygu eu bod yn perthyn i’r Goron. Caiff cyfrif banc y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ei rewi ac fe drosglwyddir unrhyw gredyd sydd yn y cyfrif i’r Goron.

Dylai ymholiadau ynglŷn ag eiddo bona vacantia gael eu cyfeirio, fel a fo’n briodol, at:

Os yw swyddfa gofrestredig y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn Swydd Gaerhirfryn:

The Solicitor to the Duchy of Lancaster
66 Lincoln’s Inn Fields
London WC2A 3LH

Os yw swyddfa gofrestredig y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yng Nghernyw neu Ynysoedd Scilly:

The Solicitor to the Duchy of Cornwall
66 Lincoln's Inn Fields
London WC2A 3LH

Ymhob achos arall:

The Treasury Solicitor (BV)
1 Kemble Street,
London WC2B 4TS.

www.bonavacantia.gov.uk


Brig 
PENNOD 9
Adfer i’r gofrestr

Ni all y Cofrestrydd adfer partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig i’r gofrestr heb Orchymyn Llys. Pan gyflwynir i’r Cofrestrydd gopi swyddogol o Orchymyn y Llys i adfer, ystyrir bod partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig wedi parhau mewn bodolaeth fel pe bai heb ei dileu a’i diddymu.

1 Pwy gaiff wneud cais am i enw partneriaeth atebobwydd cyfyngedig atebolrwydd cyfyngedig gael ei adfer i’r gofrestr?

I’r partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig hynny a ddilëir o’r gofrestr yn sgil cais Ffurflen LLP652a: o fewn 20 mlynedd i’r diddymu, gall unrhyw un o’r bobl hynny y mae’n rhaid rhoi gwybod iddyn nhw am y cais (gweler pennod 7, cwestiwn 4 ) wneud cais i’r Llys am i enw partneriaeth a ddiddymwyd cael ei adfer i’r gofrestr. Gall y Llys orchymyn ei adfer os bydd yn fodlon:

  • na roddwyd i’r person gopi o gais y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig;
  • bod cais y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn torri’r amodau ymgynnig; neu
  • ei bod yn iawn gwneud felly am ryw reswm arall.

Gall yr Ysgrifennydd Gwladol yntau wneud cais i’r Llys am adfer yr enw os cyfiawnheir hynny er lles y cyhoedd.

I’r partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig hynny a ddilëir o’r gofrestr ar anogaeth y Cofrestrydd: gall y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, neu un o’i chredydwyr, wneud cais i’r Llys am ei hadfer o fewn 20 mlynedd i’r diddymu. Pan fydd partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn ceisio’i hadferiad ei hun, rhaid i aelod o’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig fod yn ymgeisydd hefyd er mwyn rhoi unrhyw ymrwymiadau angenrheidiol gerbron y Llys.

Lle diddymir partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig: gall y diddymydd neu unrhyw un arall sydd â buddiant megis credydydd, wneud cais i’r Llys am i’r diddymu cael ei ddatgan yn ddi-rym. Yn y mwyafrif o enghreifftiau, rhaid gwneud cais o fewn dwy flynedd i’r diddymu, ond gellir ymgynnig unrhyw adeg os diben y cais yw dwyn achos yn erbyn y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig am:

  • ddigollediad ar gyfer anafiadau personol, gan gynnwys unrhyw swm yn rhinwedd adran 1(2)(c) o Ddeddf Diwygio’r Gyfraith (Darpariaethau Amrywiol) 1934 (treuliau angladd); neu
  • ddigollediad o dan Ddeddf Damweiniau Angheuol 1976 neu Ddeddf Digollediad (Yr Alban) 1976.

2 I ba lys y gwna i gais am Orchymyn Adfer?

Gwnewch gais i’r Uchel Lys drwy lenwi ffurflen hawlio o dan Ran 8 (dyma’r ffurflen safonol sy’n rhoi cychwyn i weithrediadau. Gellir ei dadlwytho o www.courtservice.gov.uk). Fel arfer, bydd Cofrestrydd Llys y Cwmnïau yn Llundain yn gwrando achosion adfer yn ei siambrau unwaith yr wythnos ar brynhawn Gwener. Gwrandewir achosion hefyd mewn Cofrestrfeydd Dosbarth. Fel arall, gellir gwneud cais i Lys Sirol sydd â’r awdurdod i ddirwyn y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig i ben. Am ganllaw mwy manwl ynghylch adfer, gweler ‘Treasury Solicitor: A Guide to Company Restoration’ sydd ar gael gan www.treasury-solicitor.gov.uk neu ffoniwch 020 7210 3000.

3 Sut dylwn i gyflwyno dogfennau?

Dylid cyflwyno’r ffurflen hawlio i’r:

cyfreithiwr sy’n delio ag unrhyw asedion bona vacantia, sef Cyfreithiwr y Trysorlys neu gyfreithiwr y Ddugiaeth berthnasol, a’r

Cofrestrydd Cwmnïau
Tîm Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig
Tŷ’r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd CF14 3UZ

DX: 33050 Caerdydd 1

Ffôn: 029 2038 0744
Ffacs: 029 2038 1436

Bydd y Cofrestrydd yn derbyn trosglwyddo drwy’r post (argymhellir dosbarthiad wedi ei gofnodi). Bydd hefyd yn derbyn trosglwyddo â llaw i Dŷ’r Cwmnïau, Caerdydd, neu Dŷ’r Cwmnïau, Bloomsbury Street, Llundain, yn ystod neu’r tu allan i oriau swyddfa arferol. Bydd ar y Cofrestrydd angen hefyd gopi o’r affidafid neu ddatganiad y tyst i gefnogi’r cais.

Rhaid rhoi i’r Cofrestrydd rybudd 10 diwrnod, fan leiaf, cyn y gwrandawiad fel y caiff amser i gyfarwyddo Cyfreithiwr y Trysorlys a delio â’r mater.

4 Pa dystiolaeth y mae’n rhaid imi ei rhoi?

Bydd ar y Llys angen affidafid (datganiad o’r gwirionedd) neu ddatganiad tyst yn cadarnhau:

  • i’r ddogfen gychwynnol gael ei chyflwyno; ac
  • nad oes gan y cyfreithiwr sy’n delio â’r asedion bona vacantia unrhyw wrthwynebiad i adfer y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (dylid atodi copi o’i (l)lythyr wrth yr affidafid neu ddatganiad y tyst).

Dylai’r affidafid neu ddatganiad y tyst ymdrin hefyd â’r canlynol, fel a fo’n briodol i’r cais:-

  • pa bryd y cafodd y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ei chorffori, ynghyd â natur ei hamcanion (dylid atodi copi o’r dystysgrif gorffori ac o’r ddogfen gorffori);
  • ei swyddogion;
  • ei gweithgarwch masnachu a, lle bo hynny’n gymwys, pryd y rhoes heibio i fasnachu;
  • esboniad o unrhyw fethiant i gyflwyno cyfrifon, ffurflenni blynyddol neu hysbysiadau i’r Cofrestrydd Cwmnïau;
  • manylion am y dileu o’r gofrestr a’r diddymu;
  • sylwadau ynglŷn â hydaledd y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig;
  • unrhyw wybodaeth arall sy’n egluro’r rheswm dros y cais.

Bydd y Cofrestrydd yn darparu gwybodaeth i gynorthwyo gwneud cais i’r Llys. Cyn y gwrandawiad Llys, bydd fel arfer yn gofyn am:

  • i unrhyw ddogfennau statudol y mae eu hangen i ddiweddaru ffeil gyhoeddus y bartneriaeth gael eu cyflwyno. Dylid anfon y rhain at y Cofrestrydd o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y gwrandawiad fel y caiff amser i’w prosesu a’u harchwilio, gan y gall fod angen eu dychwelyd i gael eu diwygio;
  • i unrhyw afreoleidd-dra yn fframwaith y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig gael ei unioni.

5 Oes yna gostau neu gosbau?

Oes. Caiff y Cofrestrydd ei gynrychioli gan Gyfreithiwr y Trysorlys, y bodlonir ei gostau fel rheol gan yr ymgeisydd/ymgeiswyr. Yn arferol, bydd yn rhaid i’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig dalu unrhyw gosbau statudol am ffeilio hwyr yng nghyswllt cyfrifon a gyflwynir i’r Cofrestrydd y tu allan i’r cyfnod a ganiateir o dan Ddeddf Cwmnïau 1985 (fel y cymhwysir honno at bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig gan reoliad 3 o Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2001). Y cosbau a all fod yn ddyledus yw:

  • cosbau na fodlonwyd yng nghyswllt cyfrifon a gafodd eu cyflwyno’n hwyr cyn diddymu’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig; a
  • chosbau sy’n ddyledus yng nghyswllt cyfrifon a gafodd eu cyflwyno adeg yr adfer, os oedd y cyfrifon yn orddyledus ar ddyddiad diddymu’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.

Bydd lefel unrhyw gosb ffeilio hwyr yn dibynnu ar ba mor hwyr y mae’r cyfrifon wrth iddyn nhw ddod i law’r Cofrestrydd, fel y dangosir yn y tabl isod. Yn achos cyfrifon a gaiff eu cyflwyno adeg yr adfer, fe anwybyddir fel arfer y cyfnod pan oedd y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig wedi ei diddymu. Er enghraifft, caiff set o gyfrifon y dylsid fod wedi eu cyflwyno dau fis cyn diddymu partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig eu hystyried dau fis yn hwyr fel arfer os cân nhw eu cyflwyno adeg yr adfer - £100 fydd y gosb ffeilio hwyr o hyd.

Hyd yr oedi ar ôl dyddiad dyledus y cyfrifon heb gynnwys y dyddiad diddymu) Cosb
3 mis neu lai £100
3 mis a diwrnod hyd 6 mis   £250
6 months and one day to 12 months £500
Mwy na 12 mis £1,000

Fel arfer, ni chesglir cosbau ffeilio hwyr yng nghyswllt cyfrifon a ddaeth yn ddyledus pan oedd y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig wedi ei diddymu ond a dderbyniwyd pan gafodd ei hadfer.

Am ragor o wybodaeth ynghylch cosbau, gweler ein llyfryn ‘Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig: Gweinyddu a Rheoli’.

6 Beth sy’n digwydd pan wneir y gorchymyn adfer?

Rhaid i gopi swyddogol o’r gorchymyn, gyda sêl y Llys, gael ei gyflwyno i’r Cofrestrydd gan yr ymgeisydd sydd am adfer y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig. Ystyrir bod partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig wedi ei hadfer pan gyflwynir y gorchymyn.

PENNOD 10
Gwybodaeth bellach

1 Ble galla i fynd i gael cymorth?

Bydd staff Tŷ’r Cwmnïau yng Nghaerdydd  yn gallu’ch cynghori ar faterion cyffredinol, ond os ydych chi’n ystyried gweithrediadau ymddatod neu ansolfedd, dylech geisio cyngor ymarferydd ansolfedd neu’r Gwasanaeth Ansolfedd. (Ffoniwch Insolvency Enquiry Line (IEL) 0845 602 9848).

Dylai cwynion ynglŷn ag ymddygiad ymarferydd ansolfedd trwyddedig gael eu cyfeirio, yn ysgrifenedig, i:

The Insolvency Practioners’ Section
The Insolvency Service
Area 1.10
PO Box 203
21 Bloomsbury Street
London WC1B 3QW

Wedyn, byddan nhw’n anfon y gŵyn ymlaen i’r corff awdurdodi ymarferwyr.

2 Sut dylwn i anfon ffurflenni at y Cofrestrydd?

  • Dylai dogfennau, gan gynnwys gorchmynion llys, ddangos enw a rhif cofrestru cywir y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.
  • Dylech chi ddarparu dogfennau ar ddiwyg portread (hynny yw, â’r ymyl byrraf ar y brig).

3 Sut dylwn i anfon gwybodaeth at y Cofrestrydd?

Gallwch chi gyflwyno dogfennau i’r Cofrestrydd â llaw (yn bersonol neu drwy negesydd), gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa, dros wyliau banc a thros y penwythnos yng Nghaerdydd, Llundain a Chaeredin..

Gallwch chi hefyd gyflwyno dogfennau drwy’r post, drwy’r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX) neu drwy’r Post Cyfreithiol (LP) yn yr Alban. Os anfonwch chi ddogfennau drwy’r post, byddwch cystal â’u cyfeirio at:

Ar gyfer partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig wedi eu corffori yng Nghymru a Lloegr:

Y Cofrestrydd Cwmnïau
Tŷ’r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd CF14 3UZ

DX33050 Caerdydd 1

Ar gyfer partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig wedi eu cofrestru yn yr Alban:

The Registrar of Companies
Companies House
37 Castle Terrace
Edinburgh
EH1 2EB

DX ED235 Edinburgh 1

LP – 4 Edinburgh 2

Os ydych yn anfon dogfennau drwy’r post, drwy negesydd neu drwy’r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX) a’ch bod yn dymuno cael derbynneb, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn rhoi nodyn cydnabod os amgaewch chi gopi o’ch llythyr eglurhaol gydag amlen stampiedig ac arni eich cyfeiriad dychwelyd. Bydd y côd bar a roddwn ar eich llythyr yn cyfleu’r dyddiad dod i law ac fe ddychwelwn y copi yn yr amlen a ddarparwch chi.

Sylwer: nid yw cydnabyddiaeth dod i law yn golygu bod dogfen wedi ei derbyn i’w chofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau.

Sylwer: Nid yw Tŷ’r Cwmnïau yn derbyn cyfrifon na dogfennau statudol eraill dros beiriant ffacs

4 Ble galla i gael ffurflenni a llyfrynnau canllaw?

Mae hwn yn un o gyfres o lyfrynnau gan Dŷ’r Cwmnïau sy’n rhoi canllaw syml i’r Ddeddf Cwmnïau.

Mae ffurflenni statudol a llyfrynnau canllaw  ar gael, yn rhad ac am ddim, gan Dŷ’r Cwmnïau. Y ffordd gyflymaf i’w cael yw drwy ein gwefan  neu drwy ffonio 0303 1234 500.

Os bydd yn well gennych, gallwch chi ysgrifennu i’n Hadran Defnyddiau Ysgrifennu yng Nghaerdydd neu Gaeredin.

Gellir hefyd gael ffurflenni gan ddogfenwyr cyfreithiol, cyfrifwyr, cyfreithwyr ac asiantiaid ffurfio cwmnïau – cyfeiriadau mewn llyfrau ffôn ar gyfer busnesau.
Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500 Minicom - 02920381245  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies