|
Deddf Partneriaeth Gyfyngedig – GB02CYM Chwefror 2008 - Fersiwn 9
Cynnwys
| Cyflwyniad |
| 1. Cofrestru partneriaeth gyfyngedig |
| 2. Gwybodaeth bellach |
Canllaw yn unig yw'r llyfryn hwn a dylid ei ddarllen ar y cyd â'r ddeddfwriaeth berthnasol.
|
Cyflwyniad
Mae’r llyfryn hwn yn esbonio beth sydd angen i chi ei wneud i gofrestru partneriaeth gyfyngedig.
Os ydych yn ystyried ffurfio partneriaeth gyfyngedig dylech gyfeirio at y ddeddfwriaeth sydd yn llywodraethu partneriaethau cyfyngedig neu ofyn am gyngor cyfreithiol arbenigol.
Cofrestru partneriaeth gyfyngedig.
PENNOD 1
Partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig newydd
1 Beth yw partneriaeth gyfyngedig?
Mae partneriaeth gyfyngedig yn cynnwys:
- un neu ragor o bersonau a elwir yn bartneriaid cyffredinol sydd yn atebol am bob dyled a rhwymedigaeth y cwmni; ac
- un neu ragor o bersonau a elwir yn bartneriaid cyfyngedig, sydd yn cyfrannu swm neu symiau o arian fel cyfalaf, neu eiddo wedi’i brisio ar swm datganedig. Nid yw partneriaid cyfyngedig yn atebol am ddyledion a rhwymedigaethau y cwmni y tu hwnt i’r swm a gyfrannwyd.
2. Pa gyfyngiadau sydd ar bartneriaid cyfyngedig ?
Ni all partneriaid cyfyngedig:
- dynnu allan na derbyn yn ôl unrhyw ran o’u cyfraniad i’r bartneriaeth yn ystod cyfnod ei fywyd;
- cymryd rhan yn rheolaeth y busnes na
- chael pŵer i glymu’r cwmni.
Os ydynt yn gwneud hynny, maent yn dod yn atebol am holl ddyledion a rhwymedigaethau’r cwmni hyd at y swm a dynnwyd allan, a dderbyniwyd yn ôl neu a godwyd, yn ôl y digwydd, tra’n cymryd rhan yn rheolaeth y cwmni.
3. Pwy all fod yn bartner?
Yn gyffredinol, gall unigolyn neu gorff cyfreithiol fel cwmni fod yn bartner mewn partneriaeth gyfyngedig, naill ai fel partner cyffredinol neu fel partner cyfyngedig. Ni all person fod yn bartner cyffredinol ac yn bartner cyfyngedig ar yr un pryd.
4. A oes raid i bartneriaethau cyfyngedig gofrestru?
Oes. Hyd nes y cofrestrir eich partneriaeth, caiff ei ystyried yn bartneriaeth gyffredinol gyda’r partneriaid cyffredinol a chyfyngedig yr un mor gyfrifol am unrhyw ddyledion a rhwymedigaethau sy’n codi.
5. Sut wyf yn cofrestru fy mhartneriaeth gyfyngedig?
Rhaid cofrestru partneriaeth gyfyngedig o dan y Ddeddf Partneriaeth Gyfyngedig 1907. I gofrestru rhaid i chi gyflwyno datganiad (Ffurflen LP5), wedi’i llofnodi gan yr holl bartneriaid, i’r Cofrestrydd. Dylai partneriaethau y mae eu prif fan busnes wedi’i leoli neu wedi’i fwriadu i gael ei leoli yng Nghymru a Lloegr anfon eu ffurflenni i swyddfa Caerdydd; dylai’r rhai y mae eu prif fan busnes wedi ei leoli neu wedi’i fwriadu i gael ei leoli yn yr Alban eu hanfon i swyddfa Caeredin; a dylai’r rhai y mae eu prif fan busnes wedi’i leoli neu wedi’i fwriadu i gael ei leoli yng Ngogledd Iwerddon eu hanfon i swyddfa Belfast. Rhaid i’r wybodaeth a roddir ar y ffurflen gynnwys y canlynol:
-
enw’r cwmni;
-
natur gyffredinol y busnes;
-
cyfeiriad prif fan y busnes;
-
enw llawn pob partner, gan restru partneriaid cyffredinol a chyfyngedig ar wahân;
-
hyd cyfnod (os o gwbl) y bartneriaeth
-
dyddiad cychwyn;
-
datganiad bod y bartneriaeth yn gyfyngedig a disgrifiad o bob partner fel y cyfryw; ac
-
y swm a gyfrannwyd gan bob partner cyfyngedig ac a yw wedi ei dalu mewn arian parod neu fel arall.
- Os yw’r holl fanylion hyn yn gywir, bydd y Cofrestrydd yn cyhoeddi tystysgrif cofrestru, yn amodol i dderbynioldeb yr enw.
6. Faint yw’r gost?
Y ffi cofrestru yw £2. Dylid gwneud sieciau ac archebion post yn daladwy i ‘Tŷ’r Cwmnïau’.
7. A oes modd i bartneriaeth gyfyngedig tramor gofrestru?
Dim fel rheol. Mae’r Ddeddf Partneriaeth Gyfyngedig yn ei gwneud yn ofynnol i bartneriaeth gofrestru yn y rhan honno o’r Deyrnas Unedig lle mae eu prif fan busnes wedi’i leoli neu wedi’i fwriadu ei leoli. Fel rheol mae prif fan busnes partneriaeth gyfyngedig tramor wedi’i leoli dramor ac ni fyddai’n cael ei gofrestru am y rheswm hwnnw.
8. A oes modd i mi ddewis unrhyw enw ar gyfer fy mhartneriaeth?
Dim yn hollol. Bydd y Cofrestrydd yn cynghori yn erbyn defnyddio unrhyw enw sydd ‘yr un fath ‘ ag enw cwmni cyfyngedig, corff cyfreithiol arall, neu bartneriaeth gyfyngedig arall sydd eisoes ar y gofrestr. Hefyd, rheolir enwau partneriaethau cyfyngedig gan Ddeddf Enwau Busnes 1985 (gweler ein llyfryn canllaw, ‘Enwau Busnes’)
Mae’r defnydd o rai enwau yn drosedd o dan rai Deddfau. Mae’n drosedd yn arbennig i berson nad yw’n gwmni cyhoeddus ddefnyddio enw yn gorffen gyda ‘chwmni cyfyngedig cyhoeddus’, neu’r cyfatebol yn Saesneg, ac mae hefyd yn drosedd i unrhyw berson ddefnyddio enw sydd yn gorffen gyda ‘chyfyngedig’ neu’r cyfatebol yn Saesneg, os nad yw wedi ei gorffori yn briodol gydag atebolrwydd cyfyngedig (gweler adrannau 33 a 34 o Ddeddf Cwmnïau 1985).
9. Beth os yw rhai o fanylion fy mhartneriaeth yn newid?
Os gwneir unrhyw newid i unrhyw fanylion a gofrestrwyd yn flaenorol, rhaid hysbysu’r Cofrestrydd am y newid ar Ffurflen LP6 o fewn saith diwrnod.
10. A oes angen i bartneriaeth gyfyngedig anfon cyfrifon i Dy’r Cwmnïau?
Dim fel rheol. Nid oes unrhyw ofyniad i bartneriaeth gyfyngedig anfon cyfrifon i Dy’r Cwmnïau oni bai bod Rheoliadau (Cyfrifon) Partneriaethau a Chwmnïau Anghyfyngedig 1993 (OS 1993/1820) yn berthnasol. Yn yr amgylchiadau hyn, os yw’r Partner Cyffredinol yn gwmni cyfyngedig, rhaid amgáu copi o gyfrifon y bartneriaeth gyda, a’u ffeilio, gyda chyfrifon y cwmni cyfyngedig.
11. A oes rhaid i mi gyhoeddi unrhyw fanylion am y bartneriaeth?
Mae’n ofynnol i bob busnes sydd yn masnachu o dan enwau ar wahân i rai eu perchnogion arddangos enwau eu perchnogion a chyfeiriad ar gyfer cyflwyno dogfennau yn ôl Deddf Enwau Busnes 1985. Rhaid arddangos y wybodaeth hon ym mangre’r busnes ac ar ddeunydd ysgrifennu’r busnes. Rhaid hefyd ei gyflwyno mewn ysgrifen ar gais unrhyw berson yr ydych yn gwneud busnes â nhw. Lle mae’r bartneriaeth yn cynnwys mwy na 20 person mae rhai eithriadau yn berthynol i ofynion deunydd ysgrifennu’r busnes. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein llyfryn, ‘GBF3 Enwau Busnes’.
12. A oes modd diddymu partneriaeth gyfyngedig?
Oes. Pan fo partneriaeth gyfyngedig yn cael ei diddymu, rhaid i’r partneriaid cyffredinol ddirwyn ei materion i ben oni bai bod llys yn gorchymyn fel arall.
Yn amodol i unrhyw gytundeb rhwng y partneriaid, nid oes hawl gan bartner cyfyngedig i ddiddymu partneriaeth trwy hysbysiad, ac nid oes hawl gan y partneriaid eraill i ddiddymu’r bartneriaeth yn unig oherwydd bod unrhyw bartner cyfyngedig yn caniatáu i’w gyfran gael ei arwystlo am ei ddyled gwahanol.
Nid yw marwolaeth na methdaliad partner cyfyngedig yn sail ar gyfer diddymu. Nid yw’r ffaith bod partner cyfyngedig yn ‘berson heb fod yn ei iawn bwyll’ yn sail ar gyfer diddymu, oni bai na ellir gwirio a gwireddu cyfran y person yn y bartneriaeth fel arall..
13 A oes modd cael gwared o enw partneriaeth gyfyngedig o fynegai enwau’r Cofrestrydd?
Er bod modd diddymu partneriaeth gyfyngedig fel yr esboniwyd uchod, nid yw Deddf 1907 yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysu Tŷ’r Cwmnïau. Os ydych yn anfon hysbysiad at Tŷ’r Cwmnïau am ddiddymiad ar ffurflen LP6 bydd yn cael ei dderbyn yn ddidwyll ond bydd enw’r bartneriaeth gyfyngedig yn parhau ar y mynegai byw o enwau.
14. Pwy sydd yn gorfod cyflwyno’r manylion hyn?
Y partneriaid cyffredinol sydd yn gyfrifol am gyflwyno Ffurflenni LP5 a LP6 hyd yn oed os oedd y gwaith o baratoi’r dogfennau wedi ei ddirprwyo i gyfrifyddion neu i unrhyw un arall.
Mae Deddf Partneriaeth Gyfyngedig 1907 yn darparu ar gyfer gosod cosbau am amrywiol anghydymffurfio wrth gyflawni gofynion y Ddeddf ac am fethu ag anfon y ffurflenni angenrheidiol at y Cofrestrydd.
Rhaid hysbysu unrhyw drefniant neu drafodion lle y daw partner cyffredinol yn bartner cyfyngedig yn y cwmni yn y London, Edinburgh neu Belfast Gazette, yn ôl y digwydd. Rhaid hysbysebu hysbysiad hefyd yn y Gazette o unrhyw drefniant neu drafodion lle y caiff cyfran partner cyfyngedig ei neilltuo i rhywun arall. Hyd nes y gwneir hyn nid oes unrhyw rym i’r trefniadau neu’r trafodion hyn.
PENNOD 2
Gwybodaeth bellach
1. Ble y gellir archwilio dogfennau
Gellir archwilio pob dogfen gofrestru yn berthynol i bartneriaethau Cymreig a Seisnig yn:
Tŷ’r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd
CF14 3UZ
Ffôn: 0303 1234 500
neu gallant fod ar gael trwy roi dau ddiwrnod o rybudd yn:
The London Search Room
Companies House
21 Bloomsbury Street
Llundain
WC1B 3XD
Gellir archwilio dogfennau partneriaeth yr Alban yn:
Companies House
37 Castle Terrace
Edinburgh
EH1 2EB
Ffôn: 0131 535 5868
Gellir archwilio dogfennau partneriaeth Gogledd Iwerddon yn:
1st Floor, Waterfront Plaza,
8 Laganbank Road
Belfast
BT1 3BS
Ffôn: 0845 604 88 88
Ffacs: 028 9090 5353
DX 481NR
Gellir cyfeirio ymholiadau pellach at Gofrestrydd Partneriaethau Cyfyngedig yn y cyfeiriadau uchod.
2. Ble mae modd cael gafael ar ffurflenni a llyfrynnau canllaw?
Un yw hwn o gyfres o lyfrynnau Tŷ’r Cwmnïau sydd yn darparu canllaw syml i’r Ddeddf Cwmnïau.
Mae ffurflenni statudol a llyfrynnau canllaw ar gael, am ddim o Dy’r Cwmnïau. Y ffordd gyflymaf o gael gafael arnynt yw trwy’r wefan neu trwy ffonio 0303 1234 500.
Gellir cael ffurflenni hefyd gan gyflenwyr deunydd ysgrifennu cyfreithiol, cyfrifyddion, cyfreithwyr ac asiantaethau ffurfio cwmnïau – mae’r cyfeiriadau i’w cael mewn llyfrau ffôn busnesau.
3. Sut wyf yn anfon gwybodaeth at y Cofrestrydd?
Gallwch chi gyflwyno dogfennau â llaw (yn bersonol neu drwy negesydd), gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa, dros wyliau banc a thros y penwythnos.
Gallwch chi hefyd gyflwyno dogfennau drwy’r post neu drwy Wasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX).
Os anfonwch chi ddogfennau drwy'r post, byddwch cystal â’u cyfeirio at:
| I bartneriaethau cyfyngedig yng Nghymru a Lloegr: |
I bartneriaethau cyfyngedig yn yr Alban |
Cofrestrydd Cwmnïau
Tŷ’r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd CF14 3UZ
DX33050 Caerdydd 1 |
The Registrar of Companies
Companies House
37 Castle Terrace
Edinburgh
EH1 2EB
DX ED235 Edinburgh 1
LP4 Edinburgh 2 |
I bartneriaethau cyfyngedig yng Ngogledd Iwerddon:
1st Floor, Waterfront Plaza,
8 Laganbank Road
Belfast
BT1 3BS
Ffôn: 0845 604 88 88
Ffacs: 028 9090 5353
DX 481NR |
|
Os ydych yn anfon dogfennau drwy’r post, drwy negesydd neu drwy Wasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX) a’ch bod yn dymuno cael derbynneb, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn darparu cydnabyddiaeth os amgaewch gopi o’ch llythyr eglurhaol gydag amlen stampiedig ac arni eich cyfeiriad dychwelyd. Bydd y côd bar a roddwn ar eich llythyr yn cyfleu’r dyddiad dod i law ac fe ddychwelwn y copi yn yr amlen a ddarparwch.
Sylwer: nid yw cydnabyddiaeth dod i law yn golygu bod dogfen wedi ei derbyn i’w chofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau.
| Sylwer:Nid yw Tŷ'r Cwmnïau yn derbyn cyfrifon na dogfennau statudol eraill dros beiriant ffacs |
|