 |
Gareth Jones - Cofrestrydd Cwmnïau Lloegr a Chymru, a Phrif Weithredwr Tŷ’r Cwmnïau
Ymunodd Gareth â Thŷ’r Cwmnïau fis Ebrill 2007 fel Prif Weithredwr a Chofrestrydd.
Cyn hynny Gareth oedd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad yn Llywodraeth Cynulliad Cymru. Yn ystod gyrfa hir ac amrywiol yn y gwasanaeth sifil, mae e wedi dal sawl swydd uwch, gan gynnwys swydd Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cymru yn ystod argyfwng Clwy Traed a’r Genau yn 2001. Adeg Llywodraeth Geidwadol ddiwedd yr wythdegau a dechrau’r nawdegau, bu’n Ysgrifennydd Preifat i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant yn y DTI. Dechreuodd Gareth ei yrfa fel rhaglennwr a dadansoddwr cyfrifiaduron ym 1979 ac mae e wedi defnyddio’r sylfaen hwn yn ddiweddar wrth yrru projectau newid busnes llwyddiannus oedd yn cynnwys elfen sylweddol o TG.
Fel Prif Weithredwr, Gareth yw Swyddog Cyfrifyddu Tŷ’r Cwmnïau ac yn gyfrifol am reoli materion gweithredu a materion ariannol a sicrhau bod Tŷ’r Cwmnïau yn cyrraedd y targedau a bennir gan weinidogion. Anrhydeddwyd Gareth â’r OBE yn 2003. |
| Yn ôl i'r brig |
|
Tim Moss – Cyfarwyddwr Strategaeth Gorfforaethol
Ymunodd Tim â Thŷ’r Cwmnïau wyth mlynedd yn ôl a threuliodd yr ychydig flynyddoedd cyntaf yn rhedeg yr adrannau gweithrediadau a chydymffurfio cyn symud i’w swydd bresennol. Mae ganddo bortffolio eang o waith sy’n cynnwys strategaeth busnes, polisi corfforaethol, marchnata, archwilio mewnol, cyfathrebu corfforaethol yn ogystal ag arwain y gwaith o symud i gyfeiriad cofrestr hollol electronig a thrawsffurfio’r gwasanaeth. Cyn ymuno â Thŷ’r Cwmnïau, treuliodd ddeuddeg mlynedd mewn swyddi gweithredol uwch yn y diwydiant gweithgynhyrchu. Mae ganddo radd yn y Gwyddorau Natur o Brifysgol Caergrawnt, MBA o Brifysgol Abertawe ac mae’n byw ar fferm yn Ne Cymru. |
| Yn ôl i'r brig |
 |
Ann Lewis – Cyfarwyddwraig Gweithrediadau a Gwasanaeth i Gwsmeriaid
Ymunodd Ann â Thÿ’r Cwmnïau yn 2009, ac mae’n gyfrifol am Weithrediadau Canolog, Gwasanaeth i Gwsmeriaid a Gorfodi.
Cyn ymuno â Thÿ’r Cwmnïau, roedd Ann yn Ddirprwy Gyfarwyddwraig gyda’ r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yng Nghasnewydd. Treuliodd Ann dros 30 mlynedd yn ONS yn cyflawni amrywiaeth o swyddogaethau, ac mae ganddi brofiad helaeth o gyflwyno a rheoli strategaethau newid o bwys ym myd busnes. Mae Ann wedi rheoli amrywiol dimau mawr yn gwireddu portffolios cymhleth, ac mae’n arbenigo mewn rheolaeth weithredol a hybu newidiadau a gwelliannau effeithlonrwydd ym myd busnes. |
| Yn ôl i'r brig |
 |
Tim Knighton– Cyfarwyddwr Dosbarthiad Datrysiad Busnes
Mae Tim yn gyfrifol am Dechnoleg Gwybodaeth a Gwasanaethau Rheolaeth Newid. Mae hyn yn cynnwys datblygu/gweithredu systemau newydd, cynnal systemau presennol, a sicrhau fod rhwydwaith technegol mewnol ar gyfer systemau Tŷ’r Cwmnïau yn gryf, yn ogystal â goruchwyliaeth prosiectau/rhaglenni mawr.
Cyn ymuno â Thŷ’r Cwmnïau yn Ionawr 2007, treuliodd Tim 10 mlynedd gyda Tesco Plc mewn amrywiaeth o swyddogaethau cyllid, yn fwyaf diweddar fel Pennaeth eu Canolfan Gwasanaethau ar y Cyd. Cyn hynny, bu’n Gyfarwyddwr Gweithredol gyda Goldman Sachs yn eu Hadran Marchnad Gyfalaf. |
| Yn ôl i'r brig |
 |
Phil Bushby – Cyfarwyddwr Pobl, Caffael ac Eiddo
Ymunodd Phil â Thŷ'r Cwmnïau fis Ebrill 2007. Mae'n Aelod Siartredig o'r Sefydliad Personnel a Datblygu, ac mae ganddo radd BSc mewn Daearyddiaeth..
Yn y sector preifat y cafodd ei brofiad uwch blaenorol mewn Adnoddau Dynol lle bu'n gweithio'n bennaf yn y sector logisteg. Ymhlith ei gyflogwyr blaenorol mae DHL, Exel a WH Smith. Yn fwyaf diweddar ef oedd Cyfarwyddwr Rhanbarthol Adnoddau Dynol ar sector o DHL oedd yn rheoli gofynion logisteg adwerthwyr mawr megis B&Q, Mothercare, BHS, Currys a Comet.
Mae Phil yn gyfrifol am agenda pobl Tŷ’r Cwmnïau sy’n cynnwys Dysgu a Datblygu, Cysylltiadau â Staff, y Gyflogres ac Iechyd a Diogelwch. Ers ymuno â Thŷ’r Cwmnïau, mae Phil wedi cymryd cyfrifoldeb dros gaffael ac ystadau ac mae’n cydweithio’n agos â’n rhiant-adran (BIS) er mwyn rhannu arferion da mewn perthynas â materion AD ar draws y sefydliadau. |
| Yn ôl i'r brig |
 |
Gwyneth Edwards - Pennaeth Cyfreithiol
Ymunodd Gwyneth â Thŷ'r Cwmnïau ym mis Tachwedd, 1999. Mae hi’n arwain y Tîm Cyfreithiol ac yn cynghori Tŷ’r Cwmnïau ar ddehongliad a defnydd ymarferol Deddf Cwmnïau, ynghyd â darpariaethau eraill. Yn ogystal â hyn, mae hi’n cynghori ar berfformiad o ddyletswyddau statudol y Cofrestrydd ac unrhyw faterion cyfreithiol sy'n effeithio ar waith y sefydliad. |
| Yn ôl i'r brig |
 |
Mike Nash - Cyfarwyddwr Cyllid
Ymunodd Mike â Thŷ'r Cwmnïau fel y Prif Gyfrifydd ym mis Ebrill 2000 ac mae'n Gyfarwyddwr Cyllid ers mis Gorffennaf 2008.
Mae'n gyfrifol am gynnig arweiniad ar berfformiad a chynllunio ariannol, ac am reoli risg ariannol.
Cyn hynny, bu'n gweithio yn y diwydiant fferyllol yn Rheolwr Ariannol cwmni Parke-Davies ym Mhont-y-pŵl. Mae Mike yn Gymrodor yng Nghymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig ac mae ganddo radd mewn cyfrifeg gan Brifysgol Cymru, Caerdydd. |
| Yn ôl i'r brig |